EVANS, MALDWYN LEWIS ('MAL') (1937-2009), pencampwr bowlio

Enw: Maldwyn Lewis Evans
Dyddiad geni: 1937
Dyddiad marw: 2009
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: pencampwr bowlio
Maes gweithgaredd: Chwaraeon a Gweithgareddau Hamdden
Awdur: Richard E. Huws

Ganwyd Mal Evans yn 62, Stryd Rees, Y Gelli, Rhondda, ar 8 Tachwedd 1937, yn fab i Clifford ('Cliff') Maldwyn Evans (1904-1985) a'i briod Haulwen, née Evans, (1905-1993), a daeth i amlygrwydd ym Mehefin 1972 ar ôl cipio pencampwriaeth bowlio'r byd ar lawntiau Worthing, Sussex.

Fe'i ganed i deulu o fowlwyr, ac roedd ei dad a'i ewythr John Morgan Evans (1917-1985) hefyd yn fowlwyr o fri, a phrofwyd hynny yn 1952 wrth iddynt ennill pencampwriaeth parau Cymru. Yn ogystal roedd John yn chwaraewr rhyngwladol, ac ystyrid Cliff yn un o'r bowlwyr gorau na chafodd gyfle i gynrychioli ei wlad.

Chwaraeai Mal Evans, a ddisgrifiwyd fel bowliwr 'llaw chwith caboledig', i glwb Parc y Gelli yn y Rhondda, ac fe'i henwebwyd i gynrychioli Cymru ym mhencampwriaeth cyntaf y byd a gynhaliwyd yn Kyeemagh, Sydney, Awstralia yn 1966 lle y gorffennodd yn bedwerydd. Yn yr ail bencampwriaeth yn 1972 enillodd Evans 12 gem allan o 15 gan drechu pencampwr y byd David Bryant (ganwyd 1931) yn hawdd o 21-6. Roedd Mal Evans yn chwaraewr rhyngwladol a gynrychiolodd Cymru o 1965 hyd at 1983.

Bu ei frawd Gwynfryn ('Gwyn') Evans (ganwyd 1931), cyfrifydd siartredig cyllid cyhoeddus a phrif weithredwr Cyngor Bwrdeistref y Rhondda hyd at ei ymddeoliad, hefyd yn chwaraewr rhyngwladol rhwng 1967 a 1985, yn enillydd y fedal efydd ym mhedwarawdau Gemau'r Gymanwlad yn Edmonton, Canada yn 1978, yn bencampwr senglau dan-do Cymru yn 1978, ac yn gapten ar dîm Cymru ym mhencampwriaeth bowlio'r byd yn Melbourne, Awstralia yn 1980.

Yn rhyfeddol, ni enillodd Mal Evans bencampwriaeth bowlio senglau Cymru erioed, er iddo lwyddo deirgwaith ym mhencampwriaeth agored unigol Cymru drwy ennill Cwpan Gibson-Watt yn 1964, 1966 a 1967 ar lawntiau Llandrindod. Fodd bynnag, llwyddodd gyda'i frawd Gwyn i ennill cystadleuaeth parau Cymru, a hynny ddwy flynedd yn olynol yn 1966 a 1967. Roedd Mal Evans yn ffigwr eiconig ym myd y gamp yng Nghymru gan gefnogi'r gêm awyr agored a'r gêm dan-do fel dewiswr a phwyllgorwr medrus a barchwyd yn uchel gan ei gyd-chwaraewyr.

Fe'i haddysgwyd yn ysgolion babanod a chynradd Ton Pentre, Ysgol Uwchradd Pentre, gan raddio mewn hanes yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor yn 1961. Ymgymhwysodd fel athro yng Nhaerdydd, gan ddechrau ei yrfa yn Townhill, Abertawe cyn sicrhau swydd yn Ysgol Eilradd Fodern Llwyncelyn yn Y Porth. Yn ddiweddarach ymunodd â staff Ysgol Ramadeg Tonypandy, a chwblahodd ei yrfa fel pennaeth yr ysgol ganol yn Ysgol Gyfun Glynrhedynog. Gweithredodd Mal Evans a'i frawd Gwyn fel diaconiaid yn Hebron, Eglwys y Bedyddwyr Cymraeg, Ton Pentre.

Bu farw Mal Evans ar ôl cyfnod hir o salwch ar 30 Rhagfyr 2009 yn ei gartref, Aelfryn, Stryd Canning Uchaf, Ton Pentre yn 72 oed gan adael gweddw, a briododd yn 1967, Mary, née Jones, (bu farw 2010) ac un mab, Gareth Evans. Yn dilyn gwasanaeth yng Ngharmel, Eglwys yr Annibynwyr, Treherbert, lle bu ei dad-yng-nghyfraith Y Parchg Emrys M. Jones (1909-1985) yn weinidog, amlosgwyd Mal Evans yn Glyntaf, Pontypridd ar 11 Ionawr 2010.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2012-04-30

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.