Ganed Ioan Evans yn Llanelli yng Ngorffennaf 1927, yn fab i Evan Evans, adeiladydd a goruchwyliwr gwaith, a'i wraig. Addysgwyd Ioan Evans yn Ysgol Ramadeg Llanelli a Choleg Prifysgol Cymru, Abertawe. Enillodd ei fywoliaeth fel clerc o fewn Banc y Midland, 1943-45, gwasanaethodd yn y fyddin, 1945-48, ac roedd yn ddarlithydd o dan nawdd Cymdeithas Addysg y Gweithwyr (y WEA) a'r Coleg Llafur Cenedlaethol Canolog rhwng 1948 a 1950. Bu Evans yn ysgrifennydd Cangen Penbedw o'r Blaid Gydweithredol, 1950-53, ac i gangen Birmingham, 1953-64. Daliodd nifer fawr o swyddi cyhoeddus, yn eu plith gwasanaethu fel cadeirydd Cyngrair Ieuenctid Llafur o 1948 hyd at 1950. Gwasanaethodd hefyd fel cyfarwyddwr Cwmni Argraffwyr Birmingham, menter gydweithredol. Bu'n gweithio fel asiant y Blaid Lafur yn Birmingham yn ystod dwy ymgyrch etholiadol yn y 1950au - ym 1955 a 1959. Roedd yn ynad heddwch yn Birmingham, 1960-70, ac ar gyfer swydd Middlesex o 1970 ymlaen.
Gwasanaethodd fel AS Llafur ar gyfer etholaeth Yardley, 1964-70, pan gollodd ei sedd i'w olynydd Ceidwadol Derek Coombs, ac ar ôl hynny, ef oedd olynydd Arthur Probert AS, dros Aberdâr, 1974-83, ac ar gyfer etholaeth newydd Cwm Cynon o 1983 hyd at ei farwolaeth gynamserol. O 2 Mai hyd at 26 Medi 1966, roedd Evans yn aelod dirprwyol o Gynulliad Seneddol Cyngor Ewrop. Gwasanaethodd am ddwy flynedd, 1964-66, fel ysgrifennydd preifat seneddol Tony Benn a oedd yn Bostfeistr-Cyffredinol yn llywodraeth gyntaf Harold Wilson. Ym 1966 daeth yn chwip iau'r llywodraeth, gan sicrhau dyrchafiad i brif chwip a Rheolwr yr Osgordd ym 1968.
Ar ôl iddo golli ei sedd yn etholiad cyffredinol 1970, penodwyd Ioan Evans yn Gyfarwyddwr Cronfa Amddiffyn ac Awyr Rhyngwladol. Yn syth ar ôl iddo ddychwelyd i Dy'r Cyffredin ym mis Chwefror 1974, dewiswyd ef yn ysgrifennydd y grwp Llafur Cymreig o Aelodau Seneddol. Diwedd y flwyddyn 1974 ymddiswyddodd fel ysgrifennydd seneddol preifat i'r Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru, John Morris, mewn protest yn erbyn ymrwymiad ei blaid i gefnogi datganoli dros Gymru. Ei wrthwynebiad pennaf oedd y byddai swm ychwanegol o rai miliynau o bunnoedd yn cael ei wario'n flynyddol ac y byddai angen rhyw 1300 o weision sifil ychwanegol. Ei ofn oedd, petai cynulliad cenedlaethol dros Gymru'n cael ei sefydlu, yr arweiniai hyn nid at ddatganoli grym ond at ganoli awdurdod llywodraeth leol yng Nghaerdydd yn gyfan gwbl. Roedd, fodd bynnag, o blaid cynnal pleidlais ar y mater.
O 1977 dychwelodd at ei hen swydd fel ysgrifennydd y grwp Cymreig o Aelodau Seneddol Llafur, a pharhaodd ynddi hyd at 1982. Roedd yn eithriadol o weithgar ar nifer fawr o bwyllgorau o ASau Llafur ar y meinciau cefn. Ym 1982 daeth yn llefarydd meinciau blaen Llafur ar y Gymuned Ewropeaidd, ac ym 1983 penodwyd ef yn llefarydd iau ar Faterion Cymreig i gydweithio gyda Barry Jones AS.
Yn etholiad cyffredinol Mehefin 1983 ailetholwyd ef gyda mwyafrif o fwy na 13,000 o bleidleisiau dros ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol. Drwy gydol ei gyfnod yn San Steffan cadeiriodd nifer o bwyllgorau a grwpiau seneddol. Ystyrid ef yn awdurdod uchel ei barch ar faterion a phynciau Cymreig. Roedd Evans hefyd yn ymddiddori'n fawr mewn materion Ewropeaidd, ac felly gwasanaethodd ar nifer fawr o bwyllgorau oedd â chysylltiad clos â Chynulliad Ymgynghorol Cyngor Ewrop, Undeb Gorllewin Ewrop a'r Seneddwyr o blaid Rheolaeth drwy'r Byd. Ym 1982 dychwelodd i feinciau blaen Ty'r Cyffredin, ar ôl deuddeg mlynedd ar y meinciau cefn, yn wreiddiol fel dirprwy i Eric Heffer, llefarydd yr wrthblaid ar faterion Ewrop a'r Gymuned Ewropeaidd.
Y farn cyffredinol am Ioan Evans oedd ei fod yn AS etholaethol cydwybodol a gweithgar ac yn gefnogwr i'r carn i'r Blaid Lafur a'r mudiad llafur. Er iddo wasanaethu fel llefarydd y meinciau blaen drwy gydol llawer o'i yrfa seneddol, ni chaniataodd erioed i'r ymrwymiad hwn rwystro ei ymyrraeth aml a chadarnhaol yn y Ty Cyffredin, weithiau yn ystod amser cwestiynau'r Prif Weinidog. Ar adeg ei farwolaeth gynamserol, roedd yn ysgrifennydd y grwp Tribune o aelodau seneddol Llafur asgell chwith. Yn ystod wythnos olaf ei fywyd, aeth Evans i gryn drafferth ar bwyllgorau sefydlog y senedd i geisio sicrhau na ddylid hepgor Cymru o Fesur Trethi newydd y llywodraeth, a gwnaeth araith bwerus yn y Ty Cyffredin yn ystod dadl ar Ddyfarniad Grant Cefnogi Trethi yng Nghymru.
Ym 1949 priododd â Maria Griffiths YH, a bu iddynt un mab ac un ferch. Eu cartref oedd 169 Eastcote Road, Ruislip, Middlesex. Bu farw Evans yn Hillingdon ar 10 Chwefror 1984 yn 56 mlwydd oed. Cynhaliwyd ei wasanaeth angladdol yn eglwys Sant Elfan, Aberdâr.
Dyddiad cyhoeddi: 2011-06-23
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.