EVANS, HAROLD MEURIG (1911-2010), athro, geiriadurwr

Enw: Harold Meurig Evans
Dyddiad geni: 1911
Dyddiad marw: 2010
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: athro, geiriadurwr
Maes gweithgaredd: Addysg; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Mair Thomas

Ganwyd Meurig Evans yn yr Hendy, sir Gaerfyrddin, ar 5 Mawrth 1911, yn unig blentyn Henry James Evans (glowr) a Sarah Evans, a mynd i'r ysgol yno yn dair oed. Symudodd y teulu i Gaerbryn pan oedd yn bump oed ac aeth i Ysgol y Blaenau lle na chafodd yr un wers Gymraeg o gwbl. Oddi yno aeth i hen Ysgol Sir Rhydaman cyn symud i'r ysgol newydd yn Stryd Marged - Ysgol Ramadeg Dyffryn Aman. Enillodd Ysgoloriaeth Agored i Goleg Prifysgol Cymru Aberystwyth ac wedi graddio â Dosbarth Cyntaf yn y Gymraeg yn 1932 bu'n gweithio am gyfnod yn Adran y Llawysgrifau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Dechreuodd ei yrfa ym myd addysg fel athro Ymarfer Corff am gyfnod o flwyddyn yn Bromsgrove a Birmingham cyn symud i Ysgol Sir Caernarfon ac yna ymuno â'r awyrlu a threulio peth amser ym mhencadlys milwrol y Dwyrain Pell dan yr Arglwydd Mountbatten. Byddai'n siarad llawer am ei gyfnod yn Ceylon - fel y'i gelwid y pryd hynny - ac roedd gan yr ynys honno gornel gynnes yn ei galon. Yn ei flynyddoedd olaf roedd yr atgofion am y cyfnod hwnnw yn amlwg iawn yn ei sgwrs ac yn dal yn fyw iawn iddo.

Yn 1942 priododd â Sarah (Sal) Walters o Lanedy. Ni chawsant blant.

Wedi ymadael â'r awyrlu yn 1946 aeth yn ôl i Gaernarfon am dymor cyn symud i Benybont-ar-Ogwr ac oddi yno, ar ôl blwyddyn yn ôl i'w hen ysgol, Ysgol Ramadeg Dyffryn Aman, lle bu'n bennaeth yr Adran Gymraeg tan ei ymddeoliad yn 1975. Enillodd radd MA yn 1937 ar “Iaith a ieithwedd y Cerddi Cymraeg Rhydd Cynnar”. Cyhoeddodd nifer o werslyfrau a llyfrau testun a fu'n gyfraniad gwerthfawr i addysg Gymraeg ysgolion Cymru. Dyfarnwyd iddo radd M.Ed er anrhydedd gan Brifysgol Cymru yn 1988. Derbyniodd yr OBE yn 1995.

Gwnaeth Meurig Evans gyfraniad arbennig i Gymru a'r iaith Gymraeg drwy gyhoeddi cyfres o eiriaduron gan ddechrau gyda'r Geiriadur Newydd a gyhoeddwyd yn 1953 gyda W. O. Thomas, ei gyd-enillydd wedi iddynt rannu'r wobr gyntaf am eiriadur Cymraeg yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst yn 1950. Cafwyd tua 23 o argraffiadau o hwn hyd 2008. Prifathro ysgol gynradd Crai, Brycheiniog, oedd W. O. Thomas a dim ond yn ystod gwyliau'r ysgol y gallai'r ddau athro hyn ddod at ei gilydd i weithio ar eu geiriaduron ond aethant ymlaen i baratoi Y Geiriadur Mawr a gyhoeddwyd yn 1958 (27 o argraffiadau hyd at 2007) a'r Geiriadur Bach yn 1959 (o leiaf 14 o argraffiadau hyd 2006). Cyhoeddodd Evans y Geiriadur Cymraeg Cyfoes yn 1981 (argraffiadau hyd 2007) a hefyd nifer o werslyfrau a oedd yn gyfraniad gwerthfawr i addysg disgyblion yn ysgolion Cymru ond y perl yn y goron oedd Y Geiriadur Mawr. Dyma'r geiriadur mwyaf safonol a gyhoeddwyd yn y Gymraeg ers cyfnod maith ac sy'n dal i hawlio ei le ar silffoedd cartrefi Cymru heddiw. Cafwyd nifer o argraffiadau, y diweddaraf yn 2007.

Bu Meurig Evans wrthi'n casglu geiriau a chreu barddoniaeth a rhyddiaith tan y diwedd er i'r blynyddoedd olaf fod yn dipyn o dreth arno yn bennaf oherwydd y gwendid cynyddol yn y llygaid. Roedd yr ysfa i ysgrifennu yn dal yn arbennig o gryf ac yn fodd i fyw iddo ond anodd iawn oedd deall yr hyn a ysgrifennai ac ni fyddai yntau'n gallu mynd drosto a newid y gwaith. Trwy benderfyniad a chymorth bu'n cystadlu yn adran Llên - barddoniaeth a rhyddiaith - yr Eisteddfod Genedlaethol tan ryw flwyddyn neu ddwy cyn ei farw. Ei ddyhead mawr oedd gweld argraffiad newydd o'r Geiriadur Mawr, a hwnnw'n cynnwys geirfa newydd gyfoes, geirfa'r gwaith glo - oedd nawr yn diflannu gyda cholli'r diwydiant hwnnw - a hefyd fwy o ddywediadau llafar. Yn anffodus doedd dim gobaith i'r freuddwyd honno gael ei gwireddu. Ers cyhoeddi'r Geiriadur Mawr bu datblygiadau enfawr yn y byd cyhoeddi gyda dyfodiad y cyfrifiadur a systemau digidol a doedd hi ddim yn debyg y byddai'r un wasg yn barod i fuddsoddi'r amser na'r arian fyddai'n angenrheidiol i ddod â'r Geiriadur hwnnw i mewn i'r unfed ganrif ar hugain - yn enwedig ac yntau'n dal i werthu yn eu ffurf bresennol! Roedd hefyd yn awyddus i gyhoeddi llyfr dan yr enw “O'r cwtsh dan stâr”, yn cynnwys ei gynhyrchion mewn barddoniaeth a rhyddiaith dros y blynyddoedd. Ni lwyddodd i wneud hynny yn ei ddydd ond efallai y daw hwnnw i glawr eto yn y dyfodol.

Cyflwynwyd enwebiad i Brifysgol Cymru am radd D.Litt er Anrhydedd i Meurig Evans yn 2008, fel anrhydedd haeddiannol a hefyd i ddathlu hanner can mlynedd ers cyhoeddi'r Geiriadur Mawr. Cefnogwyd yr enwebiad gan enwau amlwg o Gymru ac yn eu plith ddau Athro Emeritws, sef Derec Llwyd Morgan a'r diweddar Hywel Teifi Edwards, Gareth Jones oedd yn gyfarwyddwr addysg Ceredigion ar y pryd a'r Dr. Huw Walters, pennaeth Uned Llyfryddiaeth Cymru yn y Llyfrgell Genedlaethol. Pan godwyd y mater gyda Hywel Teifi Edwards ei gwestiwn oedd “Y merch fach, ble yn y byd ych chi gyd wedi bod tan hyn?” Ond er hyn i gyd ni welodd Prifysgol Cymru yn dda i ddyfarnu'r radd iddo, fuon nhw ddim hyd yn oed â'r cwrteisi i hysbysu'r enwebydd am hyn a dim ond trwy nifer o alwadau ffôn a chwrso y cafwyd y newydd hwnnw.

Ddechrau Rhagfyr 2004, a'i olwg a'i glyw yn dirywio ac yntau wedi colli ei wraig Sal yn 2001, fe symudodd Meurig Evans o'i gartref ym Mhontlliw i Gartref Annwyl Fan yn y Betws, ger Rhydaman. 'Roedd ei feddwl mor effro a'r llais mor gryf ag erioed ac roedd ei gof yn rhyfeddol. Dioddefodd gyfnod byr o wythnos o salwch cyn ei farw yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin ar 2 Rhagfyr 2010, ryw dri mis yn brin o'i benblwydd yn gant oed. Fe'i claddwyd ym mynwent Rhydgoch, Pontarddulais ar 9 Rhagfyr yn dilyn gwasanaeth yn y Capel Gorffwys yn y Blaenau lle talwyd teyrnged gofiadwy iddo gan y Parchedig Lyn Rees a oedd yn adlewyrchu'r parch a'r edmygedd oedd iddo gan y rhai oedd wedi ei adnabod.

Prif gyhoeddiadau Meurig Evans, ar wahân i'r geiriaduron, yw Llwybrau'r Iaith (1961), Cerddi Diweddar Cymru (1962, llyfr gosod am nifer o flynyddoedd), Sgyrsiau Cymraeg Byw (1966), Cymraeg Heddiw (1970), Darllen a Gweddi (1971, gyda Frank Price, cyd-athro iddo yn Ysgol Ramadeg Dyffryn Aman), Dilyn Cymraeg Byw (1974), Rhodio Gyda'r Gymraeg (1978), Sylfeini'r Gymraeg (1981). Cyhoeddodd hefyd erthyglau yn gyson yn y cylchgronau, yn arbennig Barn.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2011-09-21

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.