GEORGE, THOMAS NEVILLE (1904-1980), Athro Daeareg

Enw: Thomas Neville George
Dyddiad geni: 1904
Dyddiad marw: 1980
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: Athro Daeareg
Maes gweithgaredd: Natur ac Amaethyddiaeth; Gwyddoniaeth a Mathemateg
Awdur: Mary Auronwy James

Ganed Neville (TN) George ar 13 Mai 1904 yn Nhreforus, Abertawe, mab Thomas Rupert George (yn wreiddiol o Port Eynon, Morgannwg) ac Elizabeth (Lizzie, ganed Evans), y ddau ohonynt yn athrawon ysgol. Mynychodd Ysgol Babanod Pentrepoeth yn Nhreforus, Ysgol Elfennol y Bechgyn yn Nhreforus (1910-14), y Swansea Municipal Secondary School, Ysgol Dynefwr yn ddiweddarach, (1914-19), ac Ysgol Ramadeg Abertawe (lle y codid ffoedd) (1919-20). Enillodd Ysgoloriaeth Hyn i fynd yn un o'r myfyrwyr cyntaf i Goleg y Brifysgol yn Abertawe yn 1920. Cafodd Ysgoloriaeth Ymchwil y Brifysgol ar ôl derbyn gradd BSc (Daeareg, dosbarth 1af, 1924), ac yntau eisoes wedi cyhoeddi dau bapur ymchwil ar y cyd â'r Athro A. E. Trueman. Cynhwysai ei draethawd ar gyfer gradd MSc o Abertawe yn 1925 astudiaeth o galchfaen carbonifferaidd (Avon-aidd) lle y daw i'r brig ar ymyl gogleddol maes glo de Cymru a'r haen uchaf Avon-aidd ym Mro Gwyr. Parhaodd gyda'r gwaith i'w gwblhau yn yr ardal o Gydweli i Ddyffryn Tawe ac archwilio milod bracïopod o'r calchfaen yn Port Eynon.

Yn 1926 dyfarnwyd iddo Ysgoloriaeth Prifysgol Cymru i dreulio dwy flynedd yn Amgueddfa Sedgwick, Caergrawnt, er mwyn parhau gyda'i ymchwil i ffosilau carbonifferaidd. Tra oedd yng Ngholeg St Ioan, Caergrawnt, enillodd Wobr Bonney am waith maes mewn daeareg, a gradd PhD (Cantab.) yn 1928 ar ffosilau troellog Avon-aidd.

Dychwelodd i Abertawe yn Ymchwilydd-Arddangosydd mewn Daeareg (1928-30), a arweiniodd at gyhoeddi astudiaeth bwysig ar fath arbennig o fracïopodau, a gwneud map o'r tir calchfaen rhwng Porthcawl a Saint-y-brid gyda chymorth ariannol gan y Gymdeithas Frenhinol. Yn 1930 cyflogwyd ef yn ddaearegydd i Arolwg Daearegol Prydain Fawr. Bu'n mapio daeareg canolbarth Lloegr, er mai'r dasg gyntaf a gafodd oedd rhoi cyngor ynglyn â'r dwr a orlifai dan ddaear mewn pyllau mwyn plwm yn Sir y Fflint.

Enillodd radd DSc Prifysgol Cymru yn 1932 am ei ymchwil ar Spirifidae, calchfaen carbonifferaidd, ac agweddau eraill ar ddaeareg; a'r flwyddyn ddilynol dychwelodd i Abertawe i olynu A. E. Trueman yn Athro Daeareg a Phennaeth yr Adran Daeareg a Daearyddiaeth (1933-1946). Yn ystod 1933 ymwelodd a daeth yn aelod gohebol o Gymdeithas Ddaearegol Gwlad Belg; cyhoeddodd chwe phapur mewn cylchgronau gwyddonol a pharhaodd gyda'i ymchwil ym Mro Gwyr.

Unwaith eto olynodd A. E. Trueman gan ddod yn Athro Daeareg ym Mhrifysgol Glasgow (1947-74), lle y penderfynid y maes llafur a chynnwys y darlithiau ganddo ef. Yr oedd yn ddarlithydd ardderchog. Cymerodd ran fel tiwtor yn Ysgol Haf Coleg Harlech yn Abertawe yn 1926; traddododd ddarlith gerbron Cymdeithas Bryste ar 'Hyfforddiant Prifysgol i Ddaearegwyr' (1948); bu'n Ddarlithydd Woodward ym Mhrifysgol Yâl (1956). Treuliodd flwyddyn sabothol (1964-65) yn Gymrawd Tramor Hyn ym Mhrifysgol Northwestern, Illinois. Yr oedd yn Athro Gwadd prifysgolion Witwatersrand, Cape Town a Natal (1967); a Darlithydd Ymweliadaol o Fri Prifysgol Saskatchewan (1974). Gelwid arno i arholi mewn llawer o sefydliadau prifysgol.

Gwasanaethodd yn gadeirydd ar amryw bwyllgorau, gan gynnwys Pwyllgor Glasgow o'r Gymdeithas Brydeinig, panel ar Adnoddau Mwynau Cyngor yr Alban, y Cyngor Cadwraeth Ddaearegol; ac yn llywydd Adran Ddaearegol y Gymdeithas Brydeinig (Lerpwl; 1953), Cymdeithas Athrawon Prifysgol (1959-60), Y Gymdeithas Baleontoleg (1962-64), Cymdeithas Ddaeareg Llundain (1968-70), a chymdeithasau eraill.

Ymhlith yr anrhydeddau niferus a dderbyniodd gellir rhestri: cael ei ethol yn Gymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol (1963), Hon. D-ès-Sc (Rennes; 1956), LLD er Anrhydedd (Cymru; 1970), ScD (Cantab., 1970); a derbyn Medal Lyell (Cymdeithas Ddaearegol Llundain, 1963), Medal Clough (Cymdeithas Ddaearegol Caeredin, 1973), Gwobr Kelvin (Cymdeithas Athronyddol Frenhinol Glasgow, 1975), Medal Neill (Cymdeithas Frenhinol Caeredin, 1978), a medal Prifysgol Charles (Prague).

Bu'n Olygydd Cysylltiol i'r Gymdeithas Frenhinol, ac yr oedd yn awdur: Evolution in Outline (1951), British Regional Geology Series - (gyda B. Smith) North Wales (1961) a (gyda J. Pringle) South Wales (1937 a diwygiadau), Aspects of the Variscan Fold Belt (yn rhannol; 1962), The British Caledonides (yn rhannol; 1963); The Geology of Scotland (yn rhannol; 1964), University Instruction in Geology (1965), (cyfraniad i) The Upper Palaeozoic Rocks of Wales (1974); a chyfraniadau ar ddaeareg a phaleontoleg i gylchgronau technegol.

Priododd yn ystod haf 1932 â Sarah Hannah Davies, MA, PhD, darlithydd prifysgol; ni fu iddynt blant. Bu ef farw yn 1 Princess Terrace, Glasgow, ar 8 Mehefin 1980.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2012-06-06

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.