Ganwyd ef a'i efaill, John Harris Hughes, yng Nghroesoswallt ar 3 Rhagfyr 1910, yn feibion i'r Parchedig Howell Harris Hughes, gweinidog yn y dref, a'i briod, Mrs Annie Myfanwy Hughes (gynt Davies) o Garth, ger Llangollen, a fu'n brifathrawes yn Rhosllannerchrugog. Symudodd y teulu yn fuan o Groesoswallt i Fangor pan aeth eu tad yno'n weinidog eglwys y Tabernacl ac yn Ysgol y Garth y cafodd y meibion y rhan helaethaf o'u haddysg elfennol. O'r Tabernacl, Bangor, derbyniodd eu tad alwad i gapel Cymraeg y Presbyteriaid yn Waterloo, Gogledd Lerpwl, a derbyniodd yr efeilliaid eu haddysg yn ysgol Christchurch, ac Ysgol Ramadeg Waterloo ger Seaforth (1921-1925), ac yna yn ysgol ramadeg John Bright, Llandudno, pan ddaeth eu tad yn weinidog capel Shiloh yn y dref.
Cafodd R. Arthur Hughes yrfa nodedig, fel myfyriwr meddygol ym Mhrifysgol Lerpwl yn 1928 hyd 1933, ac roedd yn un o fyfyrwyr mwyaf galluog ei genhedlaeth. Derbyniodd fedal aur am lawfeddygaeth a graddiodd yn feddyg ym 1933. Apwyntiwyd ef yn llawfeddyg ty i Mr (yr Athro yn ddiweddarach) O. Herbert Williams, blaenor Presbyteraidd yn Lerpwl, a chynorthwyydd i'r Dr (yr Athro wedi hynny) Norman Capon yn y Royal Southern Hospital. Gwahoddwyd ef i fod yn Gymrawd John Rankin mewn Anatomeg Ddynol ym Mhrifysgol Lerpwl cyn treulio dwy flynedd yn y David Lewis Northern Hospital fel cofrestrydd llawfeddygol a thiwtor. Etholwyd ef yn FRSC yn 1937.
Cyflwynodd ei hun fel cenhadwr meddygol gydag Eglwys Bresbyteraidd Cymru ar Fryniau Casia yng ngogledd-ddwyrain yr India. Cafodd ei gais dderbyniad twymgalon gan Bwyllgor Gwaith Bwrdd y Genhadaeth yn ei swyddfa yn Falkner Street, Lerpwl, a llwyddodd i gael hyfforddiant ychwanegol ym Mhrifysgol Llundain, gan ennill Diploma mewn Meddygaeth Drofannol, a hyfforddiant yn y Radium Institute ac Ysbyty Mount Vernon.
Yn Ysbyty David Lewis, Lerpwl cyfarfu â'r prif nyrs Nancy [Anne Beatrice] Wright o Heswall, ac ar ôl priodi ar 7 Ionawr 1939, hwyliodd y ddau i'r India o Benbedw ar 28 Ionawr 1939. Dechreuodd ar ei gyfrifoldebau ar Ddydd Gwyl Ddewi 1939 yn Ysbyty Genhadol Shillong yn gynorthwywr i Dr H. Gordon Roberts. Cymerodd ofal o'r holl wardiau, gyda Dr Roberts yng ngofal y gweinyddu, ac ar ei ymddeoliad ef yn 1942 daeth Dr R. A. Hughes yn Swyddog Meddygol Hyn yr Ysbyty, yn weinyddwr ac yn swyddog ariannol. Fel pe na bai hynny'n ddigon, gwahoddwyd ef yn swyddog cyswllt iechyd cyhoeddus rhwng y fyddin ac awdurdodau gwladol Assam, a rhwng byddin Prydain a Gwasanaethau Meddygol y Diwydiant Cynhyrchu Te; bu'n ymwneud hefyd â threfnu gofal meddygol i'r milwyr a'r ffoaduriaid a fu'n dianc rhag y fyddin Siapaneaidd ar y ffordd o Kohima i Diampur, y ffordd enwog a elwid y 'Burma Road'. Rhwng 1942 a 1945 deliodd ef â miloedd o filwyr a'u swyddogion o bob rhan o'r byd oedd ag angen meddyginiaeth gan gynnwys nifer o Gymry a oedd yn y lluoedd arfog yn y rhanbarth Assam.
O dan ei ofal ef a'i staff daeth Ysbyty Genhadol Gymreig Shillong yn un o ysbytai pwysicaf is-gyfandir India, gyda chleifion yn tyrru yno am feddyginiaeth. Ymhlith y cleifion yr oedd gweision sifil y Llywodraeth, perchnogion y planhigfeydd te a'u teuluoedd o wastadeddau Assam a Cachar, yn ogystal â phobl ddosbarth canol a ddeuai o ardaloedd mor bell i ffwrdd â Calcutta. Y cleifion hyn oedd prif ffynhonnell ariannol yr ysbyty, gan hwyluso'r ffordd i Hughes a'i staff gyflwyno yn rhad ac am ddim safon uchel o feddyiniaeth a llawfeddygaeth i dlodion Khasi, llawer ohonynt yn barod i gerdded can milltir ar lwybrau anhygyrch er mwyn derbyn meddyginiaeth.
Gweithiai yn ddiarbed, y rhan amlaf o ddydd Llun i ddydd Gwener am 12 awr, a chlinig ar foreau Sadwrn. Foreau Mawrth a Iau byddai yn yr ysbyty o 7.30 y bore hyd 10.30 yr hwyr yn fynych. Digwyddai'r llawdriniaethau ar ddydd Llun, Mercher a Gwener o 8.30 y bore tan 8.00 yr hwyr. Er bod ganddo gynorthwywyr llawfeddygol o bryd i'w gilydd, tra bu yn y maes cenhadol ni dderbyniodd gymorth person wedi'i hyfforddi'n feddygol gan Eglwys Bresbyteraidd Cymru, er iddo wneud sawl cais. Sylweddolodd mai'r unig ateb oedd mynd ati i hyfforddi bechgyn a merched ifanc o blith y Khaseaid i ymgymryd â'r gwaith.
Arloeswr oedd Dr R. Arthur Hughes yng ngogledd-ddwyrain yr India a gyflawnodd gyfnewidiadau nodedig mewn gofal meddygol. Ef oedd y cyntaf i gyflwyno llu o ddulliau i wella clefydau yn ymwneud â'r stumog, yr esgyrn a'r gwaed, gan lunio pamffledi lu ar iechyd cyhoeddus a malaria a'r teiffws. Dechreuodd ymchwil helaeth i gyflwr meddygol pentrefi anhygyrch ar y ffyrdd troed i ganol gwlad llwyth y Bhoi, a thrwy ei ymdrech ef perswadiwyd yr awdurdodau yn Delhi i ddechrau ymgyrchu o ddifrif i ddileu malaria o dan nawdd Sefydliad Iechyd y Byd. Sefydlodd wasanaeth fferyllfa symudol gyda jîp a oedd yn ymweld â threfi marchnad ar y tair ffordd allan o dref Shillong.
Yn ddyn o ffydd ddofn rhoes wasanaeth sylweddol i'r Eglwys Bresbyteraidd yn Shillong ac ar y Suliau yr oedd ef a'i wraig yn weithgar ym mywyd yr eglwysi. Etholwyd ef yn flaenor yn 1944 a bu'n ymwneud llawer ag addysg grefyddol. Yn ei waith byddai ganddo ofal arbennig am anghenion ei gyd-genhadon pan fyddent yn sâl yn ogystal ac am genhadon o genhedloedd ac eglwysi eraill. Dyfarnwyd OBE iddo yn 1960.
Bu rhaid i genhadon ymadael â'r India yn 1969. Cynhaliwyd gwasanaeth ffarwelio ag ef a'i wraig Nancy 16 Mai 1969 pan dyrrodd pobl Bryiau Khasia i dalu teyrnged i un a adeinid yn 'Schweitzer Assam'. Dychwelodd Arthur Hughes i Shillong yn 1984 i geisio datrys anhawsterau a oedd wedi codi yno, ac eto yn 1991 adeg dathlu 150 penblwydd yr eglwys pan gafodd gyfle i annerch torf a amcangyfrifwyd yn 150,000.
Ymgartrefodd Arthur Hughes yn Lerpwl yn 1969, y ddinas lle yr oedd ei dad wedi'i eni a lle y bu byw ei daid a'i deulu yn y Dingle yn y 19fed ganrif. Cafodd ei apwyntio'n Is-ddeon Academaidd Cyfadran Feddygaeth Prifysgol Lerpwl a bu yn y swydd o 1969 hyd 1976 pan ymddeolodd.
Cymerodd ran amlwg yng ngweinyddiaeth Eglwys Bresbyteraidd Cymru, yn flaenor yn Eglwys Heathfield Road, Lerpwl o 1971, Llywydd Henaduriaeth Lerpwl, 1980; Cadeirydd Cyfarfod Blaenoriaid Cymdeithasfa'r Gogledd 1982-3, a Llywydd y Gymanfa Gyffredinol ym 1992-3. Er ei fod yn dioddef o glefyd y galon, nid arbedodd ei hunan, a theithiodd i'r pwyllgorau a'r cynadleddau ar hyd a lled Cymru. Er bod ei lais yn wan, cyfaddefai ei fod yn fwy rhugl yn gyhoeddus yn yr iaith Khasi nag yr oedd yn Gymraeg na Saesneg. Ond perchid ef am dryloywder ei bersonoliaeth. Fel ei dad bu'n heddychwr o argyhoeddiad a gymerai ddiddordeb cyson yn y Mudiad Heddwch. Bu'n ymddiriedolwr Ymddiriedolaeth Gogledd-ddwyrain India-Cymru a'i gyfraniad bob amser yn gadranhaol a defnyddiol. Lluniodd yn rheolaidd ysgrifau ar hyd y blynyddoedd i'r Goleuad, Treasury a'r Cenhadwr. Ef oedd arweinydd y Cymry ar Wasgar yn Eisteddfod Genedlaethol Llandudno yn 1963.
Bu R. Arthur Hughes farw ar fore Sadwrn, 1 Mehefin 1996 yn Ysbyty'r Galon, Broadgreen, Lerpwl a bu ei arwyl yng nghapel Bethel, Heathfield Road ar 10 Mehefin 1996, ac yna yn Amlosgfa Springwood. Gwasgarwyd ei weddillion wrth ymyl eglwys Sant Tudno ar ben y Gogarth, Llandudno. Gadawodd briod a mab, Dr John Hughes, meddyg a ordeiniwyd yn offeiriad yng Nghaer yn 2007. Trefnwyd Darlithiau Coffa R. Arthur Hughes gan Ymddiriedolaeth Gogledd-dwyrain India-Cymru a thraddodwyd chwech ohonynt rhwng 1997 a 2007 gan y Parchedigion D. Ben Rees, D. Andrew Jones, Elfed ap Nefydd Roberts, yr Athro Aled Jones, Dr Gwyn A. Evans a'r Parchedig Alwyn Roberts. Cyhoeddwyd y tair darlith gyntaf yn y gyfrol, The Call and Contribution of Dr Robert Arthur Hughes, OBE, FRCS, 1910-1996 and some of his predecessors in North East India (Lerpwl, 2004).
Dyddiad cyhoeddi: 2011-02-09
Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.