Ganwyd Edgar Jones yn fab i lowr yn Ynys-hir, Rhondda, 11 Mawrth, 1912. Addysgwyd ef yn ysgol y pentref ac Ysgol Sir y Bechgyn, y Rhondda, yn y Porth. Bu rhaid iddo ymadael â'r ysgol a mynd i weithio yn y lofa leol, ond parhaodd i astudio, gyda'r bwriad o fynd i'r weinidogaeth. Cafodd addysg bellach yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd, lle enillodd B.A. gydag anrhydedd mewn Hebraeg, a Choleg Coffa yr Annibynwyr, Aberhonddu, lle derbyniodd B.D. (Cymru); yn nes ymlaen enillodd M.A. a Ph.D. Prifysgol Manceinion.
Ordeiniwyd ef yn 1940. Gwasanaethodd Eglwysi Cynulleidfaol Saesneg y Fflint (1940-1945), Union Street, Bradford (1945-52) a Walter Road, Abertawe (1952-56). Cafodd ei benodi yn 1956 yn Athro Astudiaethau Beiblaidd yn Ngholeg Annibynnol Swydd Efrog yn Bradford, 1956-58. Pan unwyd y Coleg hwnnw a'r Coleg Cynulleidfaol Golegleddol, Manceinion yn 1958, derbyniodd swydd Athro Hebraeg a'r Testament Newydd. Gwasanaethodd hefyd fel prifathro Coleg Cynulleidfaol Manceinion, 1968-77. Yn y swyddi hyn cafodd ddylanwad ar genedlaethau o weinidogion o fewn Cynulledifaoliaeth Lloegr a Chymru, yn eu plith arweinwyr y Ffederasiwn Cynulleidfaol a'r Eglwys Ddiwygiedig Unedig. Fel prifathro llwyddodd i sicrhau bod ei gyd-athrawon yn cydweithio fel tîm, i gynnig hyfforddiant i ddarpar weinidogion a'i seiliau yn gadarn yn yr Ysgrythurau, wedi ei ganoli yn y gymdeithas, yn ymwybodol o ddisgybliaethau eraill, yn ecwmenaidd ac yn flaengar.
Priododd, rai misoedd ar ôl ei ordeinio, ym mis Tachwedd 1940, Eirlys, merch ei weinidog annwyl yn Eglwys Gynulleidfaol Saesneg Ynys-hir, sef David Overton; ganwyd iddynt un mab, Gareth, ac un ferch, Valerie. Bu farw Eirlys, cymar ei fywyd a phartner ei waith, ym mis Chwefror 2006; adnabu bob un o fyfyrwyr ei gwr, gan rannu yn ei ofal bugeiliol drostynt.
Yr unig deitl a chwenychodd Edgar Jones oedd 'Gwas y Gair' ond bu'n was i weision y Gair, yn fugail llawn sensitifrwydd, yn bregethwr trawiadol, afieithus. Cyhoeddodd nifer o lyfrau bychain ar yr Hen Destament, megis The Triumph of Job (1966), Profiles of the Prophets (1968), God, Man and Community (1974), a nifer ar y Salmau: Testimony from the Temple (c.1976), Songs of the Sanctuary (c.1977), Statutes and Songs (1984), Psalms for Pilgrims. Cafodd ei gymharu â William Barclay am ei ddawn i gyflwyno'r Hen Destament yn iaith syml ei blentyndod, ond gydag eglurder a brwdfrydedd. Wedi iddo ymddeol i Abertawe, parhaodd i bregethu ac ysgrifennu ac arweiniodd nifer o ddosbarthiadau ar yr Hen Destament i aelodau eglwysi ei enwad yn Abertawe. Caiff ei gofio am ei frwdfrydedd dros ddehongli'r Ysgrythurau ar gyfer aelodau cyffredin yr eglwysi, am ei ddyngarwch, ei gariad at ei deulu, ei ofal dros ei fyfyrwyr, ei gyfeillgarwch parod i bawb ac yn arbennig i'w gyd-weinidogion, ei hiwmor a'i ymhyfrydwch mewn criced.
Bu farw yn Abertawe 31 Mai, 1991.
Dyddiad cyhoeddi: 2011-02-04
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.