JONES, WILLIAM ELWYN EDWARDS (1904-1989), gwleidydd Llafur

Enw: William Elwyn Edwards Jones
Dyddiad geni: 1904
Dyddiad marw: 1989
Priod: Dyddgu Jones (née Davies)
Rhiant: Elizabeth Jane Jones
Rhiant: Robert William Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gwleidydd Llafur
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: John Graham Jones

Ganed ef ar 4 Ionawr 1904 [mae rhai ffynonellau yn dyfynnu 1905], yn fab i'r Parch Robert William Jones, gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn Bootle, ac Elizabeth Jane, ei wraig. Addysgwyd ef yn Ysgol Uwchradd Bootle ac Ysgol Ramadeg Ffestiniog, Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, a Phrifysgol Llundain.

Daeth yn gyfreithiwr ym 1927, penodwyd ef yn glerc ynadon Bangor ym 1934 ac yn glerc tref Bangor ym 1939. Roedd Jones yn aelod o Gyngor Sir Gaernarfon, 1945-69. Gwasanaethodd fel aelod o Gomisiwn y Parciau Cenedlaethol, 1966-68, ac o Gomisiwn Cefn Gwlad Cymru o 1968 hyd at 1971. Bu'n aelod o lys a chyngor Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, gan weithredu fel trysorydd o 1970, ac yna'n is-lywydd o 1977 tan 1982. Cyhoeddodd nifer fawr o erthyglau yn y wasg yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd.

Safodd fel yr ymgeisydd Llafur ar gyfer etholaeth Sir Gaernarfon ym 1931 a 1935, Bwrdeistrefi Caernarfon ym 1945, cyn yr etholwyd ef yn AS Llafur dros Gonwy ym 1950. Yma eto trechwyd ef ym 1951 a 1955. Urddwyd ef yn farchog ym 1978, ac ym 1979 dyfarnwyd gradd Ll.D. iddo er anrhydedd gan Brifysgol Cymru.

Priododd Jones ym 1936 â Dyddgu, merch y Parch Dr E. Tegla Davies, a bu iddynt dri o blant, un mab a dwy ferch. Eu cartref oedd 23 Glyngarth Court, Glyngarth, Porthaethwy. Bu farw 4 Gorffennaf 1989.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2011-06-23

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.