JONES, WALTER IDRIS (1900-1971), Prif Gyfarwyddwr Datblygu Ymchwil i'r Bwrdd Glo Cenedlaethol (NCB)

Enw: Walter Idris Jones
Dyddiad geni: 1900
Dyddiad marw: 1971
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: Prif Gyfarwyddwr Datblygu Ymchwil i'r Bwrdd Glo Cenedlaethol (NCB)
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Gwyddoniaeth a Mathemateg
Awdur: Mary Auronwy James

Ganed Idris Jones ar 18 Ionawr 1900, yn fab i Frederick (rholiwr mewn gwaith tun) ac Elizabeth Jones, Old Castle Road, Llanelli, Sir Gaerfyrddin. Wedi ennill ysgoloriaeth i Goleg Prifysgol Cymru (CPC), Aberystwyth yn 1918, graddiodd yn BSc (Cemeg, anrhydedd dosbarth 1af) yn 1921, a chydag ysgoloriaethau ymchwil Rhondda a Frank Smart aeth i Goleg Gonville a Caius, Caergrawnt (1922-26), gan ennill gradd PhD (Cantab.) yn 1925 am ymchwil mewn cemeg organig.

Cyflogwyd ef yn 1926 gan yr Imperial Chemical Industries (ICI), Billingham, lle yr ymchwiliodd i syntheseiddio methanol ac amonia, nwyeiddio a hydrogenu glo, ac yn y blaen. Ac yntau'n Rheolwr Grwp yn yr Adran Olew dangosodd ei ddawn i ddatblygu prosesau newydd, megis cynhyrchu defnyddiau plastig, a throi glo yn nwy ac olew. Yn 1933 dychwelodd i Gymru i fod yn Rheolwr Ymchwil yng nghwmni Powell Duffryn. Un o'i brif gyfraniadau oedd datblygu'r tanwydd 'Phurnacite' a chyd-gynhyrchion eraill o lo-mân, gan liniaru'r anhawster o gael olew tanwydd i longau yn ystod y rhyfel.

Yn 1946 penodwyd ef yn Brif Gyfarwyddwr Datblygu Ymchwil (Prosesu a Llosgi Glo) i'r Bwrdd Glo Cenedlaethol (NCB). Arweiniodd un o'i ymchwiliadau at gynllunio offeryn a allai dynnu glo o wythïen denau, droellog, a gadael y graig ar ôl. Datblygodd un arall at ddull o ddefnyddio tanceri yn lle lorïau agored i fynd â glo i ddefnyddwyr trwm iawn. Anelai'r trydydd at gynhyrchu tanwydd di-fwg. Yn ystod haf 1955 aeth i Undeb y Gweriniaethau Sofiet Sosialaidd (USSR) yn aelod o ddirprwyaeth arbenigol y Bwrdd Glo Cenedlaethol i weld yr amodau cloddio, eu gwaith ymchwil a'u haddysg dechnegol. Ymwelodd â thri o feysydd glo mwyaf Rwsia (yn Siberia, ger Mosgo, a'r Donbas), safle nwyo glo dan ddaear, a phwll glo cwbl-hydrolig.

Bu'n llywydd a chadeirydd llawer o bwyllgorau a sefydliadau yn perthyn i Brifysgol Cymru, a rhai cysylltiedig ag adnoddau dwr, peirianneg gweithfeydd cemegol ac ymchwil tanwydd. Mynychodd gynadleddau yn yr Amerig, Ewrob benbaladr, a Rwsia. Gwahoddwyd ef i siarad yn gyhoeddus ar faterion gwyddonol gan amrywiol gymdeithasau, prifysgolion, a'r BBC (radio a theledu) yn Gymraeg a Saesneg. Derbyniodd lawer o anrhydeddau, gan gynnwys bod yn gymrodor y Gymdeithas Gemegol, Sefydliad Brenhinol Cemegwyr a Chymdeithas Frenhinol y Celfyddydau. Yn 1954 penodwyd ef yn CBE; a derbyniodd Dsc er Anrhydedd Prifysgol Cymru yn 1957, ac yntau wedi cyhoeddi erthyglau mewn cylchgronau gwyddonol a thechnegol dros y blynyddoedd. Ymddeolodd yn 1963. Sefydlwyd darlithiau coffa er ei anrhydedd gan y Sefydliad Ynni a chan Goleg Prifysgol Cymru Aberystwyth.

O 1963 hyd 1971 bu'n Is-lywydd CPC, Aberystwyth. Pan oedd yn fyfyriwr bu'n gapten y tîm rygbi yn Aberystwyth (1919-22), ac yn aelod o XV Rygbi Prifysgol Caergrawnt (1923-25). Chwaraeodd yn flaen asgellwr dros glybiau Cymry Llundain a Llanelli, a'r Barbariaid. Bu'n aelod o XV Rygbi Cymru, gan chwarae yn erbyn Lloegr, Ffrainc, Iwerddon a'r Alban (1924-25); bu'n gapten ar un achlysur. Yr oedd yn aelod amlwg a gweithgar yng nghymdeithasau Cymraeg Llundain. Yr oedd yr Arglwydd Elwyn-Jones yn frawd iddo. Ni fu Idris Jones yn briod a bu farw 5 Gorffennaf 1971 yn 9b The Cathedral Green, Llandaf, Caerdydd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2012-06-07

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.