Fe wnaethoch chi chwilio am *
Ganwyd Glyndwr Michael 4 Ionawr 1909 yn 136 Commercial Street, Aberbargoed, Mynwy. Ei fam oedd Sarah Ann Chadwick a halier oedd ei dad Thomas Michael a fu farw yn 1925. Symudodd y teulu'n fynych gan ymgartrefu o'r diwedd ym Mhen-y-graig a Threalaw yng nghwm Rhondda. Wedi marw ei dad bu Glyndwr, a oedd yn glaf diorffwys ac yn ansefydlog yn emosiynol, yn byw gyda'i fam (yr oedd ei chwiorydd priod yn byw mewn man arall) hyd ei marw yn 1940. Erbyn 1942 yr oedd yn Llundain, yn ddiymgeledd, yn unig a digartref, ac yno y bu farw o wenwyn 28 Ionawr 1943.
Yn ystod y misoedd blaenorol yr oedd y gwasanaethau cudd wybodaeth Prydeinig wedi llunio a dechrau datblygu cynllwyn twyllodrus tra mentrus: byddai corff swyddog yn y morlu, yr Uwch-gapten William Martin, yn cael ei olchi i'r lan ar draeth yn Sbaen lle y gellid disgwyl i ysbiwyr yr Almaen ddysgu amdano. Byddai'r corff yn cludo dogfennau tra chyfrinachol y byddai ysbiwyr Almeinig yn sicr o lwyddo i gael copiau ohonynt, a dangosai'r dogfennau hyn mai ar dde gwlad Groeg y byddai ymosodiad disgwyliedig y Cynghreiriaid ar ddeheudir Ewrop, nid ar ynys Sisilia fel y tybid yn gyffredinol. Mewn gwrionedd, ffrwyth dychymyg oedd William Martin. Rhoddid i'r corff hunaniaeth ffug ond argyhoeddiadol, gyda llythyrau a ffotograffau personol, bwriedid y dogfennau 'cyfrinachol' i gamarwain. Wedi cryn drafod, dewiswyd corff Glyndwr Michael a'i baratoi ar gyfer swyddogaeth yr Uwch-gapten Martin. Llwyddodd y twyll yn syfrdanol. Anfonwyd lluoedd Almeinig i wlad Groeg ac yr oedd yr ymosodiad ar ynys Sisilia yn llai ffyrnig na'r disgwyl. Dylanwadodd y cynllwyn ar gwrs yr Ail Ryfel Byd.
Claddwyd 'Major William Martin, 29 March 1907-24 April 1943, beloved son of John Glyndwyr [sic] Martin and Antonia Martin of Cardiff, Wales' ym mynwent Huelva, Sbaen. Ni ddatgelwyd pwy ydoedd mewn gwironedd tan 1997 pan ychwanegwyd at yr arysgfrif ar y bedd, 'Glyndwr Michael served as Major William Martin RN.'
Dyddiad cyhoeddi: 2013-07-17
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.