Ganed ef ym Mhontypridd ar 31 Ionawr 1897, yn fab i William Pearson. Derbyniodd ei addysg mewn ysgolion lleol a chanolog. Pam nad oedd ond yn ddeuddeng mlwydd oed, dechreuodd weithio fel gwas negeseuon yn swyddfa'r post. Gweithiodd fel gweithiwr cadwynau yng Ngweithfeydd Cadwynau Pontypridd, cwmni Brown, Lennox, am chwarter canrif o 1913 tan 1938. Etholwyd ef yn drysorydd cangen leol Cymdeithas y Gweithwyr Cadwynau ym 1920, ac ym 1934 daeth yn ail yn y bleidlais ar gyfer safle ysgrifennydd cenedlaethol yr un gymdeithas. Bu hefyd yn gwasanaethu gyda'r Gwarchodlu Cymreig, 1916-19. Ym 1924 etholwyd ef yn ysgrifennydd grwp Llafur Cyngor Dinesig Pontypridd hyd yn oed cyn ei ethol yn aelod o'r cyngor.
Bu Pearson yn aelod o Gyngor Dinesig Pontypridd, 1926-38, yn cynrychioli ward Trallwn; bu'n gadeirydd ar y cyngor, 1937-38, a gwasanaethodd hefyd yn aelod o Gyngor Sir Forgannwg, 1928-45. Ym 1933-34 ef oedd cadeirydd Pwyllgor Addysg Pontypridd, a daeth yn ynad heddwch ym 1939.
Etholwyd Arthur Pearson yn AS Llafur dros etholaeth Pontypridd mewn isetholiad ym 1938 i olynu D. L. Davies. Parhaodd i gynrychioli'r un etholaeth hyd nes iddo benderfynu ymddeol o'r senedd ym Mehefin 1970. Dewiswyd ef yno'n wreiddiol yn dilyn canlyniad hynod o agos mewn cynhadledd ddewis ym Mhont-y-Clun ar ôl nifer o sesiynau pleidleisio. Yn y diwedd dewiswyd Pearson yn hytrach nag asiant lleol blaenllaw'r glowyr, W. H. May, ar 15 Ionawr 1938. Gwasanaethodd hefyd am nifer fawr o flynyddoedd yn ysgrifennydd Cyngor Masnach a Llafur Pontypridd. Roedd yn chwip Llafur, 1939-45, ac yn Rheolwr yr Osgordd, 1945-46. Ef hefyd oedd Trysorydd yr Osgordd ym 1945-51. Dyfarnwyd CBE iddo ym 1949. Ar ôl iddo ddal y swydd o chwip y Blaid Lafur yn ddi-dor am gyfnod o ugain mlynedd, mewn llywodraeth ac yn yr wrthblaid, penderfynodd sefyll i lawr ym mis Hydref 1959, er mwyn rhoi cyfle i wleidydd iau ym mherson Arthur Probert, yr AS ar gyfer Aberdâr, etholaeth lofaol gyfagos. Ar ôl iddo ddychwelyd i'r meinciau cefn, ar 4 Tachwedd 1959 etholwyd Pearson bron yn syth yn gadeirydd ar y Blaid Seneddol Gymreig. Yn Nhachwedd 1960 pleidleisiodd yn erbyn Mesur Trwyddedu'r llywodraeth Geidwadol i gynnal pleidleisiau lleol ar agor tafarndai ar y Sul. Bu'n frwd ac yn gyson ei gefnogaeth i'r symudiadau i ddenu diwydiannau newydd i gymoedd y de yn ystod y 1950au a'r 1960au. Ni wnaeth erioed briodi.
Ei gyfeiriad gartref oedd 24 The Avenue, Pontypridd. Bu Pearson farw ar 14 Hydref 1980.
Dyddiad cyhoeddi: 2011-07-07
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.