Ganwyd yr Uwchfrigadydd Lewis Pugh yng nghartref y teulu, Cymerau, Glandyfi, Ceredigion, 18 Mai, 1907, yn fab i'r Uwchgapten H. O. Pugh (1874-1954) a'i wraig Edith Mary (née Smith). Wedi derbyn ei addysg yng Ngholeg Wellington aeth i Academi Filwrol Frenhinol Woolwich a derbyn comisiwn gyda'r Magnelwyr Brenhinol (Royal Artillery) yn 1927. Wedi cyfnod yn yr Almaen symudwyd ef i'r India i gyflawni amrywiol swyddogaethau a throsglwyddwyd ef i Heddlu'r India yn 1936. Dychwelodd i'r fyddin yn 1940. Bu'n arwain brigadau Indiaidd a Gurkha gan wasanaethu ar y Ffin Ogleddol-orllewinol ac yn Burma yn ystod yr Ail Ryfel Byd ac ar ôl hynny yn y Dutch East Indies a gyda'r Gurkha ym Malaya. Enillodd Fedal Heddlu'r India yn 1940, anrhydedd prin i swyddog yn y fyddin.
Ei orchest pennaf a mwyaf enwog oedd cynllunio ac arwain cyrch yn 1941 yn erbyn pedair llong fasnach Almaenig ym mhorthladd Goa a oedd yn trosglwyddo gwybodaeth i longau tanforol yr Almaenwyr. Wedi codi'r rheolau cyfrinachedd, bu hyn yn destun llyfr gan James Leasor, Boarding Party (1978) ac yn 1980 gwnaed ffilm, 'Sea Wolves', am yr antur gyda Gregory Peck (yn chwarae rhan Pugh), David Niven a Roger Moore. Ailgyhoeddwyd llyfr Leasor dan y teitl Sea Woves yn 1980. Yr oedd 1945-46 yn flwyddyn nodedig yn hanes Lewis Pugh pan enillodd dri DSO, dau am ei waith yn arwain blaengad y symudiad ymlaen yn Burma ac yna'r trydydd yn Java. Wedi cyfnod yn y Swyddfa Ryfel yn 1953 bu'n Bennaeth Staff y Brif Swyddfa Gorllewin Pell yn 1956-57 a Phrif Swyddog Cyffredinol y 53 Gatrawd Gwyr Traed Gymreig (Byddin Diriogaethol) 1958-61. Bu'n gyrnol catrawd Gurkha'r Brenin Edward VII o 1956 hyd 1961 ac yn Gyrnol Cynrychioliadol Brigâd y Gurkha. Blynyddoedd anodd ac argyfyngus oedd y rhain ac ymdrechodd Pugh yn ddiflino i warchod buddiannau'r milwyr Gurkha. Penodwyd ef yn CBE yn 1952 a CB yn 1957.
Ymddeolodd o'r fyddin yn 1961. Ar ôl ymddeol bu Lewis Pugh yn Uchel Siryf sir Aberteifi yn 1964 a Dirpwy Lefftenant o 1961 hyd 1972. Gwasanaethodd hefyd yn gadeirydd Cymdeithas Geidwadol y sir ac yn y cyfnod hwn rhoes gynnig ar ddysgu Cymraeg. Ymhlith nifer o benodiadau cyhoeddus eraill, bu'n Ysgrifennydd Cyffredinol Cyngor Gwarchod Cymru Wledig, yn aelod o lysoedd y Llyfrgell Genedlaethol a'r Amgueddfa Genedlaethol, ac yn Ustus Heddwch. Dyn dymunol, o natur dawel ydoedd, gyda synnwyr hiwmor da.
Yn 1978 symudodd y teulu o Gymerau i Blas Wonastow, Wonastow, sir Fynwy. Priododd Wanda Kendzior (o Kington Langley, swydd Wilts) yn 1941 a bu iddynt ddwy ferch. Bu farw Lewis Pugh, yn 73 oed 10 Mawrth 1981. Bu'r angladd yn eglwys St Thomas, Overmonnow, Trefynwy 16 Mawrth a'i ddilyn gan amlosgiad.
Dyddiad cyhoeddi: 2012-10-22
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.