Ganed Gwendolen (Gwen) Rees ar 3 Gorffennaf 1906, yn Abercynon, Morgannwg, merch iau Ebenezer Rees (1865-1948) ac Elizabeth Agnes ganed Jones, o Gilybebyll (1877-1921). Symudodd y teulu'n fuan i 4 Elm Grove, Aberdâr pan benodwyd ei thad yn Uwcharolygydd yr Heddlu.
Addysgwyd hi yn Ysgol Ramadeg y Merched, Aberdâr, a Phrifysgol Cymru, Caerdydd, lle y graddiodd yn BSc mewn söoleg a threulio blwyddyn yn ymarfer dysgu, gan dderbyn Tystysgrif y Bwrdd Addysg yn 1928. Gydag ysgoloriaeth gan Neuadd Aberdâr lle bu'n preswylio, dychwelodd i'r adran söoleg yn fyfyriwr ymchwil mewn parasitoleg ac ennill ei gradd PhD yn 1930 am waith canmoladwy ar falwod yn heigio o arfilod a achosai lyngyr yr iau mewn diadelloedd defaid.
O ganlyniad penodwyd hi'n Ddarlithydd Cynorthwyol mewn Söoleg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, yn 1930, ac yn ddarlithydd yn 1937. Cafodd yr enw o ddefnyddio techneg arbrofi di-fai, a rhoi sylw trwyadl i fanylion, a meddai ddawn arbennig i ddarlunio'i gwaith. Âi â myfyrwyr ar ymweliadau o ddwy-dair wythnos ar y tro i amgueddfeydd yn Leningrad, Mosgo, Berlin a Pharis, ac i orsafoedd ymchwil yn yr Alban, Denmarc, Sbaen a Phortiwgal. Yn ogystal â gweithio yn ei meysydd ymchwil ei hunan, goruchwyliodd waith llawer o ymgeiswyr am radd MSc a PhD.
Rhoddodd ddarlithoedd dylanwadol ar ei gwaith yn ystod y tri mis y bu yn wyddonydd gwadd Prifysgol Ghana yn 1961, ond yr oedd yn rhy wylaidd i dderbyn gwahoddiadau i dreulio cyfnodau o flwyddyn dramor mewn prifysgolion eraill. Yr oedd yn enwog am ei hastudiaeth derfynol o strategaeth hanes bywyd rhai llyngyr arbennig a daflodd olwg newydd ar y berthynas rhwng parasitau a'u horganeddau lletyol di-asgwrncefn. Enillodd detholiad o'i phapurau ymchwil niferus cyhoeddedig (gan mwyaf yn y Journal of Parasitology) radd DSc Prifysgol Cymru iddi yn 1942 a dyrchafiad yn Uwch-ddarlithydd (1946) a Darllenydd (1966). Yn 1971 penodwyd hi'n Athro Söoleg wedi iddi gael ei hethol yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol ac yn Gymrawd y Sefydliad Biolegol. A hithau'n Athro Emeritws ar ôl ymddeol yn 1973 cyhoeddodd ragor o bapurau ar y gwaith ymchwil yr oedd yn parhau i'w wneud.
Mynychai'n gyson gyfarfodydd Cyngres Ryngwladol Parasitoleg, ac etholwyd hi'n Aelod Anrhydeddus o'r American Society of Parasitologists (1975), ac o'r British Society for Parasitology (1976). Yn 1990 cyflwynodd y Gymdeithas Linneaidd fedal iddi am ei gwasanaeth i söoleg.
Ni fu'n briod a gwnaeth ei chartref yn Grey Mist, Ffordd y Gogledd, Aberystwyth. Bu farw yn yr ysbyty lleol ar 4 Hydref 1994.
Dyddiad cyhoeddi: 2012-06-20
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.