REES, DAVID JAMES (DAI) (1913-1983), golffiwr ac awdur

Enw: David James Rees
Dyddiad geni: 1913
Dyddiad marw: 1983
Priod: Eunice Rees (née Thomas)
Plentyn: Gill Williams (née Rees)
Rhiant: Louisa Alice Rees (née Trow)
Rhiant: David Evans Rees
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: golffiwr ac awdur
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Chwaraeon a Gweithgareddau Hamdden
Awdur: D. Ben Rees

Ganwyd Dai Rees 31 Mawrth, 1913, ym mhentref Ffont-y-gari ger y Barri, Morgannwg, yn fab i David Evans Rees (bu farw 1959) a'i wraig Louisa Alice (née Trow). Gan fod ei rieni ym myd golff - ei dad yn gofalu am glwb golff Leys ym Mro Morgannwg a'i fam yn stiward yn yr un clwb - cafodd y bychan ei drwytho yn y gêm o'i blentyndod. Dechreuodd chwarae yn bum mlwydd oed. Addysgwyd ef yn Ysgol Gynradd Saint Athan yn Silstwn ac yna Ysgol Parc Jenner, y Barri ond gan i'w dad gael swydd i ofalu am glwb golff Aberdâr symudodd y teulu yn 1925 i Gwm Cynon a mynychodd y bachgen yr ysgol agosaf at y maes golff, sef ysgol pentref Aber-nant. Cychwynnodd ar ei yrfa ym myd golff yn 1929 yn Aberdâr pan oedd yn 15 oed fel dirprwy i'w dad. Trodd yn broffesiynol yn 15 oed a chafodd gryn lwyddiant, gan ennill campwriaeth Golffwyr Cynorthwyol Prydain yn 1935 a 1936.

Symudodd i Glwb De Swydd Hertfod, Totteridge ar ôl marwolaeth Harry Vardon yn 1937, a bu yn gysylltiedig â'r clwb hwn am 37 o flynyddoedd. (Diddorol nodi fod ei ferch Gill Williams yn Gapten Clwb Golff De Swydd Hertford yn 2008, anrhydedd y byddai ei thad yn falch ohono). Priododd Eunice Thomas yn 1939, ac yn ystod yr Ail Ryfel Byd bu yn y Llu Awyr a chyfrifoldeb am ymarfer corff yr awyrenwyr. Gwasanaethodd yn y Dwyrain Canol am gyfnod.

Fel golffiwr bu'n eilun y tyrfaoedd. Cysylltir ef yn bennaf gyda thîm Prydain ac Iwerddon yng nghystadleuaeth Cwpan Ryder yn erbyn yr Unol Daleithiau. Cymerodd ran mewn deg gornest gan ddechrau yn 1937, a bu yn Gapten tîm Prydain ar bum achlysur, yn 1955, 1957, 1959, 1961 a 1967. Ni chwaraeodd, fodd bynnag, yn 1967. Cyrhaeddodd anterth ei yrfa pan enillodd tîm Prydain ac Iwerddon y cwpan, o dan ei gapteniaeth, ar gwrs golff Lindrick yn Swydd Efrog. Hwn oedd yr unig dro i Brydain ac Iwerddon drechu'r Americanwyr rhwng 1933 a 1985. Cafodd fel canlyniad i hyn ei ddewis yn Bersonoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn y BBC. Anrhydeddwyd ef â'r CBE yn 1958 am ei gyfraniad i golff.

Enillodd 39 o deitlau yn ystod ei yrfa, gan gipio Pencampwriaeth Golffwyr Proffesiynol (PGA) De Affrig, yr Open yng ngwledydd Swistir, Belg ac Iwerddon, dwy British Masters a phedair News of the World Match Plays. Siom iddo oedd methu ennill gêm bwysicaf golffwyr Prydain, sef yr Open. Daeth yn ail i Ben Hogan yn 1953, i Peter Thomson yn 1954, ac i Arnold Palmer yn 1956. Bu yn Gapten tim y PGA (Cymdeithas y Golffwyr Proffesiynol) o 1967 hyd 1976.

Ymddiddorodd yn fawr fel newyddiadurwr ym myd y gêm, a chyhoeddwyd pum cyfrol o'i waith, sef Golf my Way (1951), Dai Rees on Golf (1959), The Key to Golf (1961), Golf Today (1962), a Thirty Years of Championship Golf (1967).

Yr oedd bob amser yn ymfalchïo yn ei gefndir Cymreig, ac yn pwysleisio'r angen am ddisgyblaeth bersonol. Gwrthodai smocio nac yfed diod gadarn. Cadwai ei hunan yn heini a chredai y dylai ei gyd-chwaraewyr goleddu'r un safbwynt. Hoffai wylio pêl-droed a'i hoff dîm oedd Arsenal. Ar ei ffordd i'w gartref yn 1981, ar ôl gweld Arsenal yn chwarae, cafodd ddamwain car echrydus. Arbedwyd ei fywyd ond ni fu'r un fath o ran iechyd ar ôl hynny. Bu farw yn Ysbyty Cyffredinol Barnet ar 15 Tachwedd 1983. Wedi amlosgiad claddwyd ei lwch yn Eglwys St Andrew, Totteridge.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2012-10-22

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/