UNGOED-THOMAS, (ARWYN) LYNN (1904-1972), gwleidydd Llafur

Enw: (Arwyn) Lynn Ungoed-thomas
Dyddiad geni: 1904
Dyddiad marw: 1972
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gwleidydd Llafur
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: John Graham Jones

Ganed ef yng Nghaerfyrddin ar 26 Mehefin 1904, yn fab i'r Parch Evan Ungoed-Thomas a Katherine Howells. Bu ei dad, gweinidog gydag enwad y Bedyddwyr Cymraeg, yn gwasanaethu yng Nghaerfyrddin am dros ddeugain mlynedd. Bu'r cefndir hwn yn bendant yn gyfrifol am ffurfio syniadau a chymeriad Ungoed-Thomas. Roedd ymhob ystyr o'r gair yn fab i'r mans anghydffurfiol. Drwy gydol ei fywyd nid anghofiodd ef fyth ei fod yn Gymro ac yn anghydffurfiwr.

Addysgwyd ef yn Ysgol Ramadeg y Frenhines Elizabeth, Caerfyrddin, Ysgol Haileybury a Choleg Magdalene, Rhydychen. Galwyd ef i'r bar yn y Deml Fewnol ym 1927, derbyniodd Sidan (KC) ym 1947, a daeth yn feinciwr llawn ym 1951. Derbyniodd Wobr Profumo a derbyniodd Ysgoloriaeth Yarborough Anderson y Deml Fewnol.

Gwasanaethodd yn y fyddin drwy gydol yr Ail Ryfel Byd, gan ddringo i reng uwch-gapten. Ef oedd AS Llafur etholaeth Llandaf a'r Barri, 1945-50 (sedd a ddiddymwyd gan y comisiynwyr ffiniau), safodd yn aflwyddiannus yn sir Gaerfyrddin ym 1950, ac yna cynrychiolodd Gogledd-orllewin Caerlyr o is-etholiad ym 1950 tan 1962.

Daeth Ungoed-Thomas yn aelod o Gyngor Cyffredinol y Bar ym 1946 a daeth yn ddiweddarach yn gadeirydd ar Gymdeithas Bar y Siawnsri. Roedd yn aelod o Bwyllgor Uthwatt ar Ddiwygio'r Drefn Brydlesol ym 1948 (wedi ei benodi gan yr Arglwydd Ganghellor), a llofnododd adroddiad y pwyllgor lleiafrifol a argymhellodd freinio prydlesau. Roedd hefyd yn aelod o'r Pwyllgor ar Lysoedd Marsial y Llynges ym 1949 (fe'i penodwyd gan Brif Arglwydd y Morlys a bu'r Meistr Ustus Pilcher yn llywyddu drosto), a hefyd o Bwyllgor Diwygio'r Gyfraith Statudol (a benodwyd gan yr Arglwydd Ganghellor). Bu'n llywydd Cymdeithas Hardwicke. Ef oedd y cynrychiolydd Prydeinig ar Gyngor Ewrop ym 1949. Gwasanaethodd yn Gyfreithiwr-Cyffredinol ym 1949-51 a phenodwyd ef yn Farnwr yr Uchel Lys ym mis Ebrill 1962, cam a arweiniodd at ei ymddiswyddiad o Dy'r Cyffredin.

Er gwaethaf ei gefndir, daeth yn hynod o gyfeillgar gyda'i gydweithwyr Ceidwadol ym Mar y Siawnsri ac ar y Fainc. Ysgubwyd i ffwrdd unrhyw wahaniaethau gwleidyddol gan ei gyfeillgarwch di-ffael, ei hiwmor iach a'i allu i gymdeithasu'n hawdd. Er ei gefndir a'i fagwraeth Gymraeg, anghydffurfiol, roedd bob amser yn hollol esmwyth ymhlith y dosbarthiadau proffesiynol Seisnig. Yn gynnar yn y flwyddyn 1972 clywodd achos enwog o dor hawlfraint a ddaethpwyd gerbron gan Miss Nora Beloff, gohebydd gwleidyddol yr Observer, yn erbyn Private Eye.

Yn ei ddyddiau iau roedd wedi dangos cryn allu fel chwaraewr rygbi ac ym 1924 bu'n chwaraewr rhyngwladol wrth gefn ar gyfer Cymru. Priododd Lyn Ungoed-Thomas ar 19 Ebrill 1933 â Dorothy, merch Jasper Travers Wolfe o swydd Cork, a bu iddynt ddau fab ac un ferch. Bu farw'n sydyn yn Llundain ar 4 Rhagfyr 1972.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2011-08-09

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.