WILLIAMS, DAVID REES (yn ddiweddarach REES-WILLIAMS, DAVID REES), BARWN 1af OGMORE (1903-1976), gwleidydd a chyfreithiwr

Enw: David Rees Williams
Dyddiad geni: 1903
Dyddiad marw: 1976
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gwleidydd a chyfreithiwr
Maes gweithgaredd: Cyfraith; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: David Lewis Jones

Ganwyd Rees Williams 22 Tachwedd 1903, yn unig blentyn William Rees Williams, milfeddyg, a Jennet David o Garthcelyn, Pen-y-bont ar Ogwr. Yr oedd yn perthyn, ar ochr ei dad, i'r Ferch o'r Sger.

Fe'i haddysgwyd yn Ysgol Mill Hill, ac yng Ngholeg Prifysgol De Cymru a Mynwy, lle'r ymgymhwysodd yn gyfreithiwr yn Hydref 1929, a'i ddyfarnu'n 'Honoursman' yng Nghymdeithas y Gyfraith. Wedi cyfnod byr gyda chwmni o Dde Cymru, treuliodd bedair blynedd ym Malaya lle'r ymgymhwysodd yn fargyfreithiwr ym Mar Treflannau'r Straits, darlithiodd ar gyfraith fasnachol a chwmnïoedd yn Penang, ac fe'i henwyd yn gwnsler amddiffyn ar rôl talaith Kedah. Wedi dychwelyd i Gaerdydd, sefydlodd Williams ei gwmni ei hun, Edwards a Rees Williams yn 11 Park Place. Fe'i hapwyntiwyd yn Glerc i Bwyllgor Asesiad Caerdydd, swydd a ddaliodd o 1935 i 1945, ac Ymgynghorydd Cyfreithiol Anrhydeddus i Gyngor Gwasanaethau Cymdeithasol De Cymru a Mynwy.

Fel ei dad, prif ddiddordeb Williams y tu allan i'w waith oedd y Fyddin Diriogaethol lle gwasanaethai fel swyddog gyda'r 6ed Bataliwn (Morgannwg) o'r Gatrawd Gymreig. Bu ar wasanaeth gweithredol drwy gydol yr Ail Ryfel Byd, gan godi i reng Lefftenant-Cyrnol yn y Magnelwyr Brenhinol, a Staff-swyddog, Gradd 1af. Yr oedd yn hyfforddwr cyfreithiol yn y ganolfan staff lle hyfforddid swyddogion i gymryd rhan mewn llywodraeth filwrol ym 1944. Tua diwedd y flwyddyn honno, newidiodd ei enw teuluol i Rees-Williams.

Daeth Rees-Williams yn brif swyddog cyfreithiol yn llywodraeth y Cadfridog Montgomery pan ffurfiwyd rhanbarth Prydeinig Berlin. Yn y cyfamser, fe'i hetholwyd yn Aelod Llafur De Croydon gyda mwyafrif bychan iawn yn 1945, gan drechu'r Aelod Ceidwadol, Sir Herbert Williams, mewn brwydr rhwng dau. Recriwtiwyd Rees-Williams gan y llywodraeth i baratoi'r ffordd tuag at ddatrys dwy broblem yn y Dwyrain Pell. Yr oedd y Siapaneaid wedi meddiannu Sarawak, protectoriaeth Brydeinig, a reolid gan deulu o Saeson, Brookes. Wedi'r rhyfel, penderfynodd Syr Charles Vyner Brooke, y Rajah, drosglwyddo'r diriogaeth i reolaeth uniongyrchol Brydeinig. Cyn cwblhau'r cytundeb, holwyd cwestiynau yn Nhy'r Cyffredin am farn pobl Sarawak. Fel ymateb, perswadiodd y llywodraeth Rees-Williams ac L. D. Gammans, aelod seneddol Ceidwadol Hornsey, i ymweld â Sarawak er mwyn sefydlu a oedd ildio'r diriogaeth yn dderbyniol yn gyffredinol i'r gymuned frodorol. Bu'n rhaid i'r ddau aelod weithio'n gyflym gan fod y Cyngor Negri, cyngor deddfwriaethol y diriogaeth, i gyfarfod ar 15 Mai 1946 i ystyried y cynnig ildio.

Gadawodd Rees-Williams Llundain ar 23 Ebrill 1946, ac fe'i dilynwyd ychydig yn ddiweddarach gan Gammans, a oedd yn gwella o salwch byr. Hwyliasant ar hyd arfordir Sarawak ar H.M.S. Public, gan ganfasio am y farn boblogaidd. Gan nad oedd yr un o'r ddau yn barod i gysgu ar y tir mawr, ymgynghorasant â'r cymunedau Malay a Tseiniaidd a oedd yn byw yn nhrefi'r arfordir, ond prin fu'r cyswllt â phobl y berfeddwlad. Wedi arolwg byr, casglodd Gammans a Rees-Williams bod y farn gyffredinol yn Sarawak yn ffafrio'r cynnig. Arosasant yn Sarawak i wylio cyfarfod y Cyngor Negri, lle'r oedd y dull o weithredu esgeulus yn tramgwyddo'r cyfreithiwr yn Rees-Williams. Cytunwyd i'r ildio o 18 pleidlais i 15, mwyafrif a sicrhawyd drwy'r pleidleisiau Ewropeaidd. Nid oedd yr un o'r ddau yn neilltuol ffafriol i'r teulu Brooks, ac yr oedd Gammans yn ddirmygus iawn o Sylvia Brooke, gwraig y Rajah, am iddi fynychu cabaret iselradd. Perswadiodd Gammans a Rees-Williams eu swyddog cyswllt i fynd â nhw ddwywaith i'r cabaret. Yr oedd eu taith drwy Sarawak yn frysiog a sinigaidd; yn ddoeth, penderfynodd y llywodraeth beidio cyhoeddi adroddiad eu taith. Parhaodd teimladau cryf yn erbyn yr ildio yn y diriogaeth am nifer o flynyddoedd.

Fe aeth Rees-Williams i Fyrma yn 1947. O dan reolaeth Brydeinig, yr oedd y wladfa'n cynnwys Byrma briodol, yn boblog gan Fyrmaniaid, ac ardaloedd y Goror, lle nad oedd y boblogaeth ym mhob ardal yn Fyrmaniaid. Yr oedd mudiad cenedlaetholgar Fyrmanaidd egnïol wedi ymddangos yn ystod y feddiannaeth Siapaneaidd, ac yr oedd Aung San, yr arweinydd, yn mynnu y dylai pobl ardaloedd y goror gael bod yn rhan o'r trafodaethau ar gyfansoddiad Byrma annibynnol. Cytunodd Rees-Williams, mewn ymateb i gais y llywodraeth, gadeirio pwyllgor i 'holi am y dull gorau o ymgysylltu pobl y goror â'r gwaith ar gyfansoddiad newydd i Fyrma'. Cyrhaeddodd Rangoon ar 2 Mawrth 1947 a darganfod taw Ysgrifennydd y Pwyllgor oedd W. B. J. Ledwidge, gwr ifanc o Swyddfa Byrma, a oedd a'i 'grys glas, trowsus byr caci a hosanau bach pinc yn cynddeiriogi'r Llywodraethwr, ac nid yn ddymunol iawn i mi'. John Lamb Leyden OBE oedd Cyfarwyddwr yr Ardaloedd Goror, gwr o Sir y Fflint, a oedd wedi ymddwyn yn arwrol yn ystod y rhyfel. Perswadiodd Rees-Williams Leyden i gyd-deithio gyda hwy i ardaloedd y goror, 'gan nad oedd ganddo awydd cael ei anfon i'r rhannau gwyllt yng nghwmni Mr Ledwidge yn unig, a oedd yn hollol ddieithr iddynt, yn ei sanau pinc.'

Yr oedd yn ofynnol i'r Pwyllgor, a oedd yn cynnwys Rees-Williams fel Cadeirydd, pedwar aelod o Byrma briodol, a phedwar aelod o ardaloedd y goror, gwblhau'r gwaith gyda thaith. Oherwydd diffyg amser a thrafnidiaeth cynhaliwyd cyfarfodydd mewn dwy ganolfan yn hytrach nag ymhob ardal lle gellid holi tystion yn lleol. Cymerwyd tystiolaeth mewn dau ar bymtheg o eisteddiadau rhwng 18 Mawrth a 21 Ebrill 1947; cytunwyd ar brif gasgliadau'r adroddiad ar Ebrill 23 ac arwyddwyd yr adroddiad y diwrnod canlynol. Mae'r adroddiad yn cynnwys arolwg gwych o ardaloedd gororau Byrma, ac mae'r casgliadau'n dangos bod yna awydd am ymreolaeth lawn o fewn Byrma annibynnol mewn rhai ardaloedd, ond yr oedd yn optimistaidd yn hawlio bod y tystion yn unfrydol yn dymuno cynrychiolaeth yn y cynulliad cyfansoddol. Amddiffynnodd Rees-Williams y Llywodraeth Brydeinig o'r cyhuddiadau bod pobl y goror wedi cael eu trosglwyddo i'r cenedlaetholwyr Byrmanaidd. Mae hanes y lleiafrifoedd o fewn Undeb Byrma wedi bod yn dorcalonnus ers yr annibyniaeth.

Yn ddiweddarach yn y flwyddyn, ar 7 Hydref, apwyntiwyd Rees-Williams yn Is-ysgrifennydd Seneddol gwladol yn y Swyddfa Drefedigaethol. Yr oedd gweinidogion y Swyddfa Drefedigaethol yn cario pwysau gwaith trwm; yr oeddynt yn delio gydag effeithiau'r Ail Ryfel Byd, disgwylid iddynt ymweld â'r trefedigaethau, ac yr oedd yn rhaid iddynt ateb i gryn feirniadaeth gan y Blaid Geidwadol yn y Senedd. Cymerai Rees-Williams ran yn y gwaith hwn i gyd; ymwelodd ag Affrica ddwywaith yn 1948; treuliodd fis Ebrill yn nwyrain Affrica, a theithiodd i Orllewin Affrica ym mis Gorffennaf, gan ddychwelyd adref ar 27 Medi yng nghwmni trigain cynrychiolydd y gynhadledd gyntaf o'r cynghorau deddfwriaethol yn Affrica Brydeinig, a chymerodd ran bron ar unwaith wedi dychwelyd.

Golygai'r ad-drefnu a fu ar etholaethau seneddol yng Nghofentri i Rees-Williams sefyll dros Orllewin Cofentri yn etholiad cyffredinol 1950. Methodd, o nifer fechan o bleidleisiau, i ennill y sedd, ond dychwelodd i wleidyddiaeth pan gafodd ei ddyrchafu'n farwn yn rhestr anrhydeddau mis Mehefin. Dewisodd y teitl Barwn Ogmore o Ben-y-bont ar Ogwr yn sir Forgannwg, ar ôl yr afon a lifai drwy Ben-y-bont ar Ogwr. Penderfynodd yr Arglwydd Holden, yr Is-ysgrifennydd Seneddol Gwladol dros gysylltiadau'r Gymanwlad ymddiswyddo am resymau personol. Yr Arglwydd Ogmore oedd y dewis amlwg i'w olynu, ac, o fewn mis o fynd i Dy'r Arglwyddi, yr oedd yn ôl yn y Llywodraeth.

Unwaith eto, teithiodd dramor i gynrychioli'r llywodraeth, gan fod yn rhan o'r ddirprwyaeth Brydeinig i'r Cenhedloedd Unedig o Fedi i Hydref 1950, ac yn arweinydd y ddirprwyaeth Brydeinig i'r gynhadledd ar amddiffynfa Affrica yn Nairobi yn Awst 1951. Daliodd y swydd Gweinidog hedfan masnachol am gyfnod byr, o 1 Mehefin 1951, tan i Clement Attlee, y Prif Weinidog, a oedd yn cael ei gyfyngu gan fwyafrif bach yn Nhy'r Cyffredin, alw a cholli etholiad cyffredinol ar 25 Hydref.

Yn yr wrthblaid, siaradai'r Arglwydd Ogmore yn gyson o'r meinciau Llafur yn Nhy'r Arglwyddi, yn enwedig ar faterion trefedigaethol. Cynorthwyodd i greu Cynghrair Cyfeillion Malaya, a daeth, gyda Tungku Abdul Rahman a Dato Sir Cheng-lock Tau, yn un o'r tri llywydd. Erbyn 1959 yr oedd yr Arglwydd Ogmore wedi ei ddadrithio gan y Blaid Lafur, ac yn benodol gyda'r polisi o wladoli diwydiant, rhywbeth y credai nad oedd yn dderbyniol i fwyafrif y bobl. Ni allai gefnogi'r Blaid Geidwadol oherwydd eu barn hen ffasiwn am faterion y byd, yn enwedig yn Affrica ganolog. Yn gredwr mewn rhyddid a democratiaeth radical, ac yn argyhoeddedig nad oedd gan yr un o'r ddwy brif blaid atebion i broblemau ac anghenion Cymru, ymunodd yr Arglwydd Ogmore â'r Blaid Ryddfrydol a oedd wedi eu cefnogi yn ei ieuenctid. Ymhen blwyddyn yr oedd y Blaid Ryddfrydol wedi ethol yr Arglwydd Ogmore i bwyllgor gweithredol y blaid. Gwasanaethodd fel Llywydd y Blaid Ryddfrydol yn 1963-64 a daeth yn ddirprwy arweinydd y Rhyddfrydwyr yn Nhy'r Arglwyddi yn 1965. Wrth siarad am faniffesto'r blaid i Gymru, a baratowyd ar gyfer etholiad cyffredinol 1966, tynnodd yr Arglwydd Ogmore sylw at y polisi am gorff deddfu etholedig neu gyngor i Gymru. Ar 30 Ionawr 1968, cyflwynodd yr Arglwydd Ogmore y mesur Seneddol am Lywodraeth i Gymru [H.L] i sefydlu Llywodraeth i Gymru. Ym mis Ebrill 1966 ymddiswyddodd fel llywodraethwr a gynrychiolai Gymru ar sefydliad y Gymanwlad am i'r llywodraeth wrthod sefydlu cangen yng Nghymru, fel yn yr Alban. Fel aelod o Bwyllgor yr Arwisgo, cariodd y goronig yn seremoni arwisgo Tywysog Cymru yn 1969.

Mae casgliad o bapurau gwleidyddol yr Arglwydd Ogmore 1957-1976 yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn ogystal â chopi o'i gofiant anghyhoeddedig 'The Dedication of a Prince' (NLW Facs 621 ), am yr arwisgo ym 1969.

Gan ei fod yn byw yn Chelsea, chwaraeai'r Arglwydd Ogmore ran weithredol ym mywyd cymunedol Cymry Llundain. Mynychai'r digwyddiadau'n gyson tra oedd yn Llywydd Cymdeithas Cymry Llundain, a llywyddodd yn Nawns Gwyl Dewi yn y Royal Festival Hall. Bu hefyd yn llywydd yr Wyl fawr a gynhaliwyd yn Neuadd Albert ym Mawrth 1958 i baratoi ar gyfer Gemau'r Gymanwlad yng Nghaerdydd yn yr haf, ac i nodi canlwyddiant geni Syr Owen Edwards. Ni fedrai'r Arglwydd Ogmore Gymraeg yn blentyn, ond dysgodd yr iaith yn oedolyn, a daeth yn gefnogwr cryf i'r iaith; yr oedd yn gadarn ei gefnogaeth i Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1967. Yr oedd y Fonesig Ogmore hefyd yn weithgar yn nigwyddiadau Cymry Llundain, ac yn gyfrannnogwraig frwd i'r 'ladies' circle' yng Nghanolfan Cymry Llundain.

Siaradai'r Arglwydd Ogmore yn bendant, ac yr oedd yn weithiwr caled. Trwy gydol ei yrfa yr oedd ynghlwm â chymdeithasau a phwyllgorau'n delio gydag amrywiaeth o bynciau. Ar 30 Gorffennaf 1930, priododd Alice Alexandra Constance Wills, merch Walter Robert Wills, Arglwydd Faer Caerdydd 1945-46. Bu iddynt dri o blant: Gwilym Rees, Joan Elizabeth a Morgan Rees. Bu'r Arglwydd Ogmore farw yn Ysbyty Westminster ar 30 Awst 1976; cynhaliwyd yr angladd ar 3 Medi yn yr Eglwys Ddiwygiedig Unedig, Stryd Allen, Llundain, ac yn ddiweddarach yr un diwrnod, yn Amlosgfa Canol Morgannwg, Llangrallo. Bu Constance, Arglwyddes Ogmore, farw ar 30 Tachwedd 1998. Olynwyd yr Arglwydd Ogmore yn y farwniaeth gan ei fab hynaf, Gwilym Rees Rees-Williams, 2il Farwn Ogmore (5 Mai 1931 - 9 Tachwedd 2004) a adawodd ddwy ferch; ac yna gan ei fab ieuengaf Morgan Rees Rees-Williams, 3ydd Barwn Ogmore (ganwyd 19 Rhagfyr 1937). Priododd Elizabeth Rees-Williams (ganwyd 1 Mai 1936) (1) Richard Harris, yr actor, 1957-1970; (2) Rex Harrison, yr actor, 1971-1975; (3) Peter Aitken, 1980-1985; (4) Jonathan Aitken, 2002-.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2012-01-24

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.