Canlyniadau chwilio

1 - 12 of 275 for "Hywel%20Dda"

1 - 12 of 275 for "Hywel%20Dda"

  • HYWEL ab OWAIN GWYNEDD (bu farw 1170), milwr a bardd Mab gordderch Owain a Gwyddeles o'r enw Pyfog. Cymerodd Hywel ran amlwg yn y gwaith o reoli Ceredigion, a feddiannwyd gan dŷ Gwynedd yn 1137. Rhoddodd ei dad dde Ceredigion yn ei ofal yn 1139. Yr oedd ymrafael byth a beunydd rhyngddo ef a'i ewythr Cadwaladr a feddiannai ogledd Ceredigion a Meirionnydd. Yn 1143 gyrrodd Hywel ei ewythr allan o Geredigion. Yn 1144 cymodwyd y ddau, ac adferwyd
  • RHYS PENNARDD (fl. c. 1480), bardd y dywedir amdano ei fod yn ŵr naill ai o Gonwy neu o Glynnog yn Sir Gaernarfon; dywedir ei gladdu yn Llandrillo, Sir Feirionnydd. Ceir nifer o'i gerddi mewn llawysgrifau, ac yn eu plith gywyddau i Elisau ap Gruffudd ab Einion o'r Plas yn Iâl, Gruffudd Fychan ap Hywel ap Madog a Rhys ap Hywel ap Madog o Dalhenbont, Hywel Ddu o Fôn a'i wraig Mallt, a hefyd i Wiliam, cwnstabl Aberystwyth. Canodd
  • HYWEL ab EDWIN (bu farw 1044), brenin Deheubarth mab Edwin ab Einion a gor-wyr i Hywel Dda. Pan fu'r cipiwr Rhydderch ap Iestyn farw yn 1033, daeth Hywel a'i frawd Maredudd, fel etifeddion hynaf Hywel Dda, yn gydfrenhinoedd Deheubarth. Bu Maredudd farw yn 1035, gan adael Hywel i deyrnasu ar ei ben ei hun, ac ar ei ysgwyddau ef y cwympodd y baich trwm o amddiffyn y De yn erbyn y Vikingiaid a chipiwr y Gogledd, Gruffydd ap Llywelyn. Alltudiwyd ef
  • IAGO ab IDWAL FOEL (fl. 942-79) Gyrrwyd ef o Wynedd gyda'i frawd, Ieuaf, gan Hywel Dda pan fu Idwal Foel farw, yn 942, eithr cawsant ddychwelyd pan fu Hywel farw yn 950. Dilynodd rhyfel cartrefol a gorchfygwyd Ieuaf yn 969. Carcharwyd Iago yn ei dro yn 979 gan Hywel, mab Ieuaf, a daeth Hywel yn frenin Gwynedd. Iago yw'r unig Gymro y gellir bod yn weddol sicr ei fod gyda'r isbenaethiaid eraill a blygodd lin i Edgar, yng Nghaer
  • HYWEL SWRDWAL (fl. 1430-60), bardd Awgryma ei enw anghymreig fod gwaed estron yn ei deulu, ac efallai ei bod yn iawn cysylltu'r enw Swrdwal â'r ' de Surda Valle ' a geir yn enw'r Normaniad ' Robertus de Surda Valle,' gŵr a ymrestrodd dan faner yr arglwydd Bohemond yn 1096 i fynd i un o ryfeloedd y crwsâd, os coelir tystiolaeth Matthew Paris. Fe all hefyd fod Hywel Swrdwal yn un o ddisgynyddion Syr Hugh Swrdwal y dywedir iddo
  • HYWEL ap RHEINALLT (fl. c. 1471-94), bardd
  • MORGAN HEN ab OWEN (bu farw 975), brenin Morgannwg ŵyr Hywel ap Rhys, sylfaenydd llinach newydd yng ngorllewin Morgannwg tua diwedd y 9fed ganrif. Yr oedd Morgan, a ddilynodd ei dad Owain c. 930, yn agos ei gyswllt â pholisi cyfeillgarwch â'r frenhiniaeth Sacsonaidd, a ddilynwyd gan Hywel Dda, a pharhaodd ar delerau da â'r Saeson am ychydig flynyddoedd o leiaf wedi marw Hywel. Yn ei ddyddiau ef yr oedd Morgannwg yn cynnwys Gwent unwaith yn rhagor
  • BLEGYWRYD (fl. c. 945), awdurdod ar hen gyfreithiau Cymru Tystia amryw o'r MSS. hynaf o'r cyfreithiau i bwysigrwydd Blegywryd yng ngwaith y cyngor y parodd Hywel Dda ei gynnull yn y Ty-gwyn-ar-Daf yn Nyfed, c. 945. Sonnir am ddewis 13 o ddoethion o blith y cynulliad mawr i drefnu a golygu'r cyfreithiau, a chan mai Blegywryd yw'r unig un ohonynt a grybwyllir wrth ei enw, tebyg mai ef oedd bennaf. Gelwir ef yn ' athro,' 'yr un ysgolhaig doethaf
  • MORGAN ap HYWEL (fl. 1210-48), arglwydd Cymreig arglwyddiaeth Gwynllwg neu Gaerlleon-ar-Wysg (deiliad i ieirll Caerloyw) disgynnydd o Rhydderch ap Iestyn (bu farw 1033; y mae taflen o'r tylwyth ar t. 771 o Lloyd, A History of Wales, a hwylus fydd crynhoi ei hanes yma, dan enw Morgan ap Hywel. Lladdwyd Caradog ap Gruffudd, ŵyr Rhydderch, ym mrwydr Mynydd Cam (1081); erbyn 1140 clywir am fab hwnnw, OWAIN ap CARADOG, yng Ngwynllwg; ac yn 1154 cydnabuwyd ei fab yntau, MORGAN ab OWAIN, gan
  • HYWEL ap RHODRI MOLWYNOG (bu farw 825), brenin Gwynedd Gor-ŵyr Cadwaladr Fendigaid a'r brenin olaf ym Môn o linach Cunedda. Trosglwyddwyd gwaed Cunedda, ar farw Hywel, i linell frenhinol newydd trwy ei nith, Ethyllt (nain Rhodri Mawr), merch ei frawd Cynan (bu farw 816), gŵr y bu Hywel yn cydymgeisio ag ef yn hir am yr oruchafiaeth ym Môn.
  • DAFYDD ap MAREDUDD ap TUDUR (fl. 1460) Dregynon, un o feirdd llai toreithiog hanner olaf y 15fed ganrif Canodd foliant i Hywel Colunwy (nid i Hywel ap Siencyn), Dafydd Deuddwr, Watcyn ap Tomas ap Rhoser, Dafydd ap Gruffudd Deuddwr (Peniarth MS 64, f.243) a Dafydd ab Owain, abad Ystrad Marchell, a hefyd gywyddau o nodwedd grefyddol, megis 'I'r Grog Dduw.' Gellir tybio oddi wrth gynnwys 'Tebic ywr byd kyngyd kaeth' i'r bardd fynd yn ddall yn ei henaint.
  • PERYF ap CEDIFOR WYDDEL (fl. 1170), bardd Yr oedd yn un o wyth o frodyr o leiaf, ac yr oedd Hywel ab Owain Gwynedd yn frawd maeth i saith ohonynt. Pan laddwyd Hywel ym mrwydr y Pentraeth, Môn (1170), gan lu Dafydd a Rhodri, ei hanner-brodyr, meibion Cristin, yr oedd y saith yno gydag ef. Lladdwyd rhai ac ni ddihangodd mwy na thri ohonynt yn ddianaf. Lladdesid Ithel, y brawd arall, cyn hynny, yn Rhuddlan, lle'r oedd yn ymladd tros Owain