Canlyniadau chwilio

13 - 24 of 275 for "Hywel%20Dda"

13 - 24 of 275 for "Hywel%20Dda"

  • IEUAN DEULWYN (fl. c. 1460), bardd brodor o Gydweli, Sir Gaerfyrddin. Cadwyd llawer o'i waith mewn llawysgrifau, y rhan fwyaf ohono yn gywyddau i gylch eang o foneddigion cyfoes. Yn eu plith ceir rhai i Wiliam, iarll Penfro, a'i frawd Syr Rhisiart Herbert, a laddwyd ym mrwydr Banbury (1469), ac i fab ifanc Syr Rhisiart, i Dr. Siôn Morgan, esgob Tyddewi, Wiliam Siôn o Lanegwad, Dafydd Llwyd ap Gwilym o Gastell Hywel, Llywelyn ap
  • HYWEL DDA (bu farw 950), brenin a deddfwr Gelwid ef yn gyffredin yn ' Hywel Dda fab Cadell, tywysog Cymru oll,' ac yn Brut y Tywysogion gelwir ef yn 'ben a moliant yr holl Frytaniaid.' Ef oedd yr unig dywysog Cymreig a gyfenwid yn 'Dda.' Ganed ef tua diwedd y 9fed ganrif; ni wyddys ym mha le. Un o feibion Rhodri Mawr oedd Cadell, a rhan ddeheuol tywysogaeth ei dad a etifeddodd ef, sef Seisyllwg (Ceredigion ac Ystrad Tywi). Gadawodd hi
  • MERFYN FRYCH (bu farw 844), brenin Gwynedd mab Gwriad, pennaeth yn Ynys Manaw (y mae'n bosibl) ac yn disgyn (meddid) o Lywarch Hen, ac Ethyllt, tywysoges o Wynedd. Pan fu farw Hywel ap Rhodri Molwynog, ewythr ei fam, yn 825, daeth Merfyn Frych yn frenin ym Môn; yn ddiweddarach, pan fu Hywel ap Caradog farw, ymddengys iddo ddyfod yn frenin cantrefi yr ochr arall i afon Menai. Adunwyd felly etifeddiaethau disgynyddion uniongyrchol diwethaf
  • RHYS, HYWEL (1715? - 1799), bardd
  • DAFYDD ap HYWEL GRYTHOR, crythor
  • HYWEL BANGOR (fl. 1540), clerwr Yr un, efallai, â Huw Bangor y dywedir yn The Cambrian Biography ei fod yn ei flodau rhwng 1560 a 1600. Cadwyd rhyw 18 o englynion Hywel Bangor, ac oddi wrth y rheini gellir casglu mai gŵr o Faelor ydoedd, a thebyg yw mai o Fangor Iscoed y cymerodd ei enw. Cyfansoddodd englynion ar newid siryfion y Fflint yn 1540. Gyferbyn ag un o'i englynion yn llawysgrif Llanstephan 41 y mae'r dyddiad 1577, ond
  • DAVIES, HYWEL (1919 - 1965), darlledwr darllenydd newyddion ac wedi hynny'n olygydd y newyddion Cymraeg. O 1946 ymlaen yr oedd yng Nghaerdydd yn drefnydd rhaglenni, yn is-bennaeth rhaglenni ac, o 1958 hyd ei farw, yn bennaeth rhaglenni. Yn 1961 teithiodd yn helaeth yn T.U.A. gydag ysgoloriaeth Sefydliad Ford. Yn weinyddwr gwych, yr oedd Hywel Davies yn enwog drwy'r Deyrnas Unedig fel darlledwr radio ac yn ddiweddarach fel holwr mewn rhaglenni
  • HUW ap DAFYDD (fl. c. 1550-1628), bardd Gan mai boneddigion Gogledd Cymru oedd gwrthrychau ei farddoniaeth mawl a marwnad, gellir tybio mai brodor o'r Gogledd oedd yntau (er bod Cambrian Biography, Cymru (O.J.), Enwogion Cymru: a Biographical Dictionary of Eminent Welshmen, a Blackwell yn rhoi ei gartref yn Euas, sir Henffordd). Cadwyd llawer o'i farddoniaeth mewn llawysgrifau, yn cynnwys cywyddau i Hywel ap Sion ap Dafydd ab Ithel
  • IEUAN ap HYWEL SWRDWAL (fl. 1430-80), bardd mab i'r bardd Hywel Swrdwal. Cysylltir y tad a'r mab â Chydewain ac â'r Drenewydd; dywedir iddynt fyw hefyd ym Machynlleth. Ymhlith y cerddi a briodolir i Ieuan ceir awdl i'r Forwyn Fair yn Saesneg ac mewn cynghanedd ac orgraff Cymraeg - sef ' Owdyl i Fair a wnaeth kymbro yn Rhudychen … ', yn dechrau ' O meichti ladi our leding tw haf.' Ceir marwnadau iddo gan Hywel ap Dafydd ap Ieuan ap Rhys
  • GRUFFUDD ap DAFYDD FYCHAN (fl. 15fed ganrif), bardd O Dir Iarll ym Morgannwg. Ef, yn ddiau, yw'r gŵr, 'Gruffudd mydrydd a enwir gŵr o Fetws Tir Iarll,' y ceir ei achau gan G. T. Clark (Limbus Patrum). Cadwyd nifer o'i gywyddau, ac yn eu plith farwnad i Harri VI, nifer o gywyddau brud, a thri chywydd serch; ceir hefyd y ddau gywydd a ganodd Llywelyn Goch y Dant ac yntau pan welsant farwnad Hywel ap D. ap Ieuan ap Rhys i Ieuan ap Hywel Swrdwal
  • CYFEILIOG (bu farw 927), esgob Llandaf yr oedd pump yn diroedd yn Gwent, sef Trefynwy, Roggiet, Pool Meyrick, Bishton, a Caldicot. Brochwel ap Meurig, brenin Gwent yn adeg Asser, oedd y rhoddwr; rhoddwr arall oedd Hywel ap Rhys, brenin Glewysing (Morgannwg yn awr); y trydydd rhoddwr ydoedd Arthfael, mab Hywel.
  • HARRI MASTR (fl. 15fed ganrif), bardd o Gydweli, Sir Gaerfyrddin, a oedd, yn ôl ei deitl, yn ŵr mewn urddau eglwysig; dywedir mai offeiriad Llandyfaelog oedd ef, ond ni wyddys am ddim i ategu hyn. Enwir ef yn Harri (ap) Hywel mewn rhai llawysgrifau (e.e. Hafod MS. 3), a ' Syr ' Harri ap Rhys yn NLW MS 566B; gelwir ef yn Mastr Harri ap Hywel, a hefyd yn Harri Hir yn Cwrtmawr MS 200B. Cadwyd peth o'i farddoniaeth mewn llawysgrifau, ac