Canlyniadau chwilio

37 - 48 of 275 for "Hywel%20Dda"

37 - 48 of 275 for "Hywel%20Dda"

  • RHODRI MOLWYNOG (bu farw 754), brenin Gwynedd mab Idwal ap Cadwaladr Fendigaid o linach Cunedda Wledig Dilynwyd ef gan ddau fab - Hywel a Chynan.
  • HUGHES, HYWEL STANFORD (1886 - 1970), ranshwr, cymwynaswr a chenedlaetholwr Jones, hanesydd lleol adnabyddus a llyfrgellydd tref Llangollen. Addysgwyd Hywel yn ysgolion Grove Park, Wrecsam, a Kingswood, Caerfaddon, sefydliad Wesleaidd. Wedi gadael yr ysgol bu'n brentis i filfeddyg yn Llangollen, nes hwylio, yn 1907, am Bogota, Colombia, i ymuno â dau ewythr, Ifor ac R.J. Jones, a oedd yn y fasnach mewnforio. Dangosodd Hywel graffter masnachol anghyffredin ac ym mhen amser
  • IEUAF (neu IDWAL) ab IDWAL FOEL (bu farw 985), cyd-frenin Gwynedd Am fraslun o'i hanes gweler dan Iago ab Idwal. Bu farw yng ngharchar. Bu dau fab iddo, Hywel a Cadwallon, yn frenhinoedd Gwynedd yn ddiweddarach.
  • GRUFFUDD ap LLYWELYN (bu farw 1063), brenin Gwynedd a Phowys, ac ar ôl 1055 brenin Cymru oll Gruffudd ap Llywelyn yn frenin Gwynedd a Phowys. Yn union wedyn trawodd ergyd yn erbyn Saeson Mercia ym mrwydr Rhydygroes-ar-Hafren a gyrrodd hwynt yn waedlyd ar ffo. Dug y fuddugoliaeth hon ef i amlygrwydd, ac o hyn hyd ei farwolaeth parhaodd yn darian i'w wlad ac yn ddychryn i'w gelynion. Ar ôl taro gwŷr Mercia a sicrhau'r gororau troes ei sylw at y Deheubarth, lle yr oedd Hywel ab Edwin yn frenin. Ni
  • RHYS ap TEWDWR (bu farw 1093) Wyr Cadell ab Einion ab Owen ap Hywel Dda. Cymerth lywodraeth Deheubarth i'w ddwylo yn 1075 ar farw ei gyfyrder, Rhys ab Owain ab Edwin. Yn 1081 cymerwyd y llywodraeth oddi arno gan Garadog ap Gruffydd, eithr yn nes ymlaen yn y flwyddyn honno, gyda chymorth Gruffydd ap Cynan, fe'i cadarnhawyd mewn meddiant ohoni ar ôl brwydr bwysig Mynydd Carn. Yn yr un flwyddyn aeth William y Concwerwr ar daith
  • CYNAN ap HYWEL (bu farw 1242?), tywysog a sefydlwyd gan ei dad Hywel Sais (bu farw 1204) yn St Clears ac a gydunai fel rheol â Maelgwn ap Rhys yn y cwerylon teuluol. Ceir sôn amdano gyntaf yng ngosgorddlu Maelgwn pan gymerwyd ef yn garcharor yn 1210 gan ei gefndyr Rhys ac Owain yr amser yr ymosodwyd ganddynt ar wersyll eu hewythr yn Cilcennin. Daw i'r golwg yn nesaf yn 1223, pryd y'i ceir yn erbyn Llywelyn, tywysog y Gogledd, ac yn
  • EVANS, HUGH (Hywel Eryri; 1767 - 1841?), bardd North Wales Chronicle, Corff y Gaingc, Blodau Arfon, Tywysog Cymru, Y Gwladgarwr, etc. Cyhoeddwyd tair neu bedair o gerddi o'i waith - e.e., ' Achwyniad Hywel o'r Yri wrth Wragedd Gwynedd am dderbyniad Morgan Rondl a gwrthodiad Syr John Haidd o'r Gadair Seneddol.' Bu farw ym Mhenygroes rywbryd ar ôl mis Mai 1840.
  • LEWIS, THOMAS (fl. 18fed ganrif), emynydd a fu'n byw yn Ynyswen, ym mhlwyf Llanegwad, Sir Gaerfyrddin, ac, mewn cyfnod arall, yng Nghastell Hywel, Sir Aberteifi. Cyhoeddwyd yn 1795 gyfrol o'i emynau hirion, Caniadau Duwiol. Ceir cywydd gan David Richards ('Dafydd Ionawr') i'r awdur yn y gyfrol.
  • MAB Y CLOCHYDDYN (fl. c. 1380), bardd Dywedir mai brodor o Lanafan Fawr yn sir Frycheiniog ydoedd. Cadwyd dwy enghraifft o'i waith yn 'Llyfr Coch Hergest' a rhai llawysgrifau eraill, sef marwnad i Wenhwyfar ferch Madog, gwraig Hywel ap Tudur ap Gruffudd o Fôn, a dau englyn.
  • MORYS ap HYWEL (ap TUDUR) (fl. c. 1530), bardd ni wyddys unrhyw fanylion am ei fywyd, ond cadwyd peth o'i farddoniaeth mewn llawysgrifau. Cywyddau crefyddol yw'r mwyafrif ohonynt, ond ceir hefyd rai i Siôn Wyn o'r Tŵr, Edwart Pilstwn o Emral, a Llywelyn ap Ieuan ap Hywel o Foelyrch.
  • HARRIES, HYWEL (1921 - 1990), athro celf, arlunydd, cartwnydd Ganed Hywel Harries yn y Tymbl, sir Gaerfyrddin 7 Hydref 1921, yn fab i David John Harries a'i wraig Sarah Ann. Derbyniodd ei addysg yn lleol ac yn ysgol ramadeg y Gwendraeth. Dangosodd dalent arbennig mewn arlunio ac aeth i Ysgol Gelf Llanelli ond ymunodd â'r Llu Awyr ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd yn 1941 gan wasanaethu am bum mlynedd. Wedi'i ryddhau yn 1946 bu'n fyfyriwr yng Ngholeg Technegol
  • BEDO BRWYNLLYS (fl. c. 1460), bardd o Frycheiniog Priodolir iddo lawer o ganu serch o'r math sydd yn nodweddiadol o ddilynwyr Dafydd ap Gwilym, ynghyd â nifer bychan o gywyddau ac awdlau crefyddol a mawl a marwnad i uchelwyr, yn eu plith gywydd marwnad i Syr Richard Herbert, 1469. Ceir hefyd gywyddau dychan rhyngddo ef ac Ieuan Deulwyn a Hywel Dafi.