Canlyniadau chwilio

49 - 60 of 275 for "Hywel%20Dda"

49 - 60 of 275 for "Hywel%20Dda"

  • HYWEL ap LLYWELYN ap MAREDUDD (fl. c. 1500?), bardd Brodor o Gyfeiliog, plwyf yn sir Ddinbych. Cadwyd dwy enghraifft o'i waith mewn llawysgrifau, sef cywyddau marwnad i aelodau teulu bonheddig Carno a Manafon, Sir Drefaldwyn. Ceir Gruffudd Hiraethog mewn llawysgrif achau ganddo (Peniarth MS 176) yn cydnabod gwaith tebyg o eiddo Hywel, ond ni wyddys heddiw am unrhyw enghraifft o waith achyddol y bardd.
  • EDWARD ap HYWEL ap GRUFFYDD (fl. 15 ganrif), cywyddwr nad oes ond ychydig o'i waith ar gael Yn NLW MS 6471B ceir dau gopi o'i gywydd 'i ofyn klog i Syr Richard.' Gellir casglu o'r cywydd mai Richard Redman, esgob Llanelwy o 1471 hyd 1496, oedd y gŵr hwn. Priodolir dau englyn i Edward ap Hywel yn NLW MS 3047C, eithr yn ôl Peniarth MS 99 eiddo Sion Tudur yw un ohonynt.
  • INCO BRYDYDD (fl. c. 1480), bardd Dywedir ei fod yn fab i Robin ab Inco, ac yn frawd maeth i Ieuan ap Maredudd o'r Gesail Gyfarch yn Sir Gaernarfon. Cadwyd un o'i gywyddau, sef moliant Hywel ap Madog ab Ieuan ab Einion o'r Berkin a'r Plas Hen ym mhlwyf Llanystumdwy, yn Cwrtmawr MS 454B (120) ac NLW MS 9166B (22).
  • POWEL, MORGAN (fl. c. 1563), bardd, un o gwndidwyr Morgannwg, a chlerigwr o Lanhari yr oedd, y mae'n debyg, yn aelod o deulu Powel Tir Iarll (gweler Powel, Antoni). Ymddengys iddo fod yn glerigwr yn Nhrelales, ger Penybont-ar-Ogwr, tua 1563. Cadwyd enghreifftiau o'i waith, ac yn eu plith gywydd i Wiliam Prys o Lansawel (Briton Ferry), a chywydd i heddychu Siôn Mawddwy a Tomas ap Wiliam ap Hywel; bu hefyd ddau ymryson rhyngddo a Llywelyn Siôn a Tomas Llywelyn.
  • IEUAN LLWYD BRYDYDD (fl. c. 1460-90), bardd y ceir peth o'i waith mewn llawysgrifau megis cywydd marwnad Ifan ap Tudur ap Gruffudd Llwyd o blwyf Henllan yn sir Ddinbych, cywydd i Hywel Coetmor, a chywydd y gŵr dall. Ceir ei farddoniaeth yn y llawysgrifau canlynol: Brogyntyn MS. 2, NLW MS 552B, NLW MS 644B, NLW MS 6471B, NLW MS 6495D, NLW MS 6681B, NLW MS 9166B, Wynnstay MS. I. Dywedir yn Cymru (O.J.) iddo gael ei gladdu yn Llanuwchllyn.
  • HYWEL AERDDREN (neu AEDDREN neu AEDDREM) (fl. c. 1540-70?), bardd Ni wyddys unrhyw fanylion am ei fywyd. Yn ôl Llanstephan MS 15 (44) a Cwrtmawr MS 5B (i-ii) (441), yr oedd lle o'r enw Aeddren ym mhlwyf Llangwm, sir Ddinbych, lle y bu Bedo Aeddren yn byw. Efallai fod Hywel hefyd yn frodor o'r un man. Ni wyddys a oedd perthynas rhyngddo a Bedo. Ceir ychydig o'i gywyddau mewn llawysgrifau, ond ni ellir ei ddyddio'n fanwl oddi wrth y rheini.
  • HYWEL ap IEUAF (bu farw 985), brenin Gwynedd
  • LEWIS, HYWEL DAVID (1910 - 1992), Athro ac athronydd Ganwyd Hywel D. Lewis yn Llandudno ar 21 Mai 1910 ond magwyd ef yn y Waunfawr yn fab i David John Lewis, gweinidog yn yr Eglwys Bresbyteraidd, a'i wraig Rebecca (gynt Davies). Wedi gyrfa, heb ddangos unrhyw ddisgleirdeb arbennig, yn Ysgol Ramadeg Caernarfon, aeth i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, i astudio Athroniaeth gan gael ei gyfareddu'n llwyr gan y pwnc a fu'n ganolbwynt ei fywyd
  • LLOYD, DAVID (1724 - 1779), gweinidog Ariaidd Ganwyd yng Nghoedlannau-fawr, Llanwenog. Hanoedd ei dad o David ap Llewelyn Lloyd, arglwydd Castell Hywel, Ceredigion, yntau o linach yr arglwydd Rhys. Ei fam oedd Hester, chwaer Jenkin Jones (1700? - 1742), Llwynrhydowen. Bu yn ysgol John Evans (1680 - 1741), Llanwenog. Ni bu yn academi Caerfyrddin, ond dywed Thomas Morgan iddo fod yn ysgol Samuel Thomas, Caerfyrddin, yn 1743, gydag ef (Cofiadur
  • IDWAL FOEL (bu farw 942), brenin Gwynedd mab Anarawd ap Rhodri Fawr. Dechreuodd deyrnasu yng Ngwynedd yn 916 ac wedi peth gwrthsefyll cydnabu benarglwyddiaeth teyrnas Wessex. Collodd ei fywyd mewn cyrch aflwyddiannus yn erbyn y Saeson yn 942, alltudiwyd ei feibion, a daeth yr awdurdod i ddwylaw ei gefnder, Hywel Dda. Er i ddau o'i feibion, sef Iago ac Ieuaf, gael dychwelyd yng nghwrs amser, trwy fab iau, Meurig, y trosglwyddwyd ei waed
  • teulu MARSHAL, ieirll Penfro a'i nai, Rhys Ieuanc, arnynt yn 1215. Daeth y rhyfela i ben gyda Chytundeb Caerwrangon (Mawrth 1218) ac er mwyn sicrhau heddwch trwy'r deyrnas caniataodd William Marshal i Lywelyn ap Iorwerth fod yn geidwad cestyll brenhinol Aberteifi a Chaerfyrddin, ond daliodd ei afael ar Gaerlleon a enillasai oddi wrth Morgan ap Hywel yn 1217. Bu'n gymwynaswr i abatai Tintern, Penfro, a Pill, a chyflwynodd siartr
  • OWAIN ab EDWIN (bu farw 1105) Nhegeingl, uchelwr Dywedid mai meibion oedd ef a'i frawd, Uchtryd, i Edwin ap Gronw (gor-or-ŵyr Hywel Dda) ac Iwerydd, hanner-chwaer Bleddyn ap Cynfyn. Serch i Owain gynorthwyo yr iarll Hugh o Gaer yng nghyrch annhymig hwnnw yn erbyn Gwynedd yn 1098, priododd Angharad, ei ferch, â Gruffydd ap Cynan. Gronw ei fab, oedd tad Christina, ail wraig Owain Gwynedd. Ni ddylid cymysgu rhyngddo â chefnder ei dad, hwnnw hefyd