Canlyniadau chwilio

1357 - 1368 of 1816 for "david lloyd george"

1357 - 1368 of 1816 for "david lloyd george"

  • PUGH, JOHN (Ieuan Awst; 1783 - 1839), cyfreithiwr a bardd Ganwyd yn 1783 ym Melinfraenen, plwyf Celynnin, Meirionnydd, yn bumed mab David a Catherine Pugh. Ni chafodd ond naw mis o ysgol ond erbyn diwedd ei oes ystyrid ef yn ei ardal yn ŵr o wybodaeth eang. Symudodd i Ddolgellau yn 13 oed, a'i gyflogi yno'n glerc mewn swyddfa cyfreithiwr. Yn ddiweddarach fe'i prentisiwyd yn argraffydd gyda Thomas Williams, Dolgellau, ond rhoes hynny heibio gan ymrwymo
  • PUGH, LEWIS HENRY OWAIN (1907 - 1981), milwr cynllunio ac arwain cyrch yn 1941 yn erbyn pedair llong fasnach Almaenig ym mhorthladd Goa a oedd yn trosglwyddo gwybodaeth i longau tanforol yr Almaenwyr. Wedi codi'r rheolau cyfrinachedd, bu hyn yn destun llyfr gan James Leasor, Boarding Party (1978) ac yn 1980 gwnaed ffilm, 'Sea Wolves', am yr antur gyda Gregory Peck (yn chwarae rhan Pugh), David Niven a Roger Moore. Ailgyhoeddwyd llyfr Leasor dan y
  • PUGH, PHILIP (1679 - 1760), gweinidog gyda'r Annibynwyr Ganwyd yn 1679 yn Hendre, Blaenpennal, Sir Aberteifi. Gŵr o'r un enw oedd ei dad, a'i fam, Ann, yn ferch Dafydd Jones, y Coedmor, ac yn hanner chwaer, o du ei mam, i Peregrine Musgrave, Crynwr o Hwlffordd. Cafodd Pugh ei addysg yn academi Brynllywarch, ac wedyn yn y Fenni, wedi marwolaeth Samuel Jones yn 1697. Ordeiniwyd ef yn 1709 i gyd-lafurio â David Edwards, Abermeurig, a Jenkin Jones, Llwyn
  • PUGH, ROBERT (1749 - 1825), clerigwr Methodistaidd Ganwyd yn 1749 yn Nolgellau, mab ieuengaf Hugh a Jane Pugh, ac felly'n frawd i David Pugh a John Pugh. Bu yn ysgol un Conant yn Truro, Cernyw, cyn mynd i Goleg Exeter, Rhydychen, yn 1768; graddiodd yn 1772. Bu'n gurad yn Neston ac yn gurad parhaol Lee Brockhurst, Sir Amwythig, cyn cael ficeriaeth Donnington, swydd Lincoln, 1794-1825. Enwir ef yn aml yn llythyrau Thomas Charles o'r Bala ceisiodd
  • PUGHE, ELIZABETH ('Eliza') (1826 - 1847), darlunydd byddar Ganwyd Eliza Pughe yn 1826 yn Chwaen Wen, Tref Alaw, Môn, yr ifancaf o dri o blant David Roberts Pughe a'i wraig Elizabeth. Chwaen Wen oedd cartref teulu ei mam. Symudodd y teulu i Coch-y-Bug, Pontllyfni ger Clynnog Fawr tua 1828. Brawd hynaf Eliza oedd John Pughe (1814-1874), Cymrawd o Goleg Brenhinol y Llawfeddgon a gŵr adnabyddus yng nghylchoedd llenyddol Cymru fel cyfieithydd Meddygon Myddfai
  • PUGHE, DAVID WILLIAM (1821 - 1862), meddyg - gweler PUGHE, JOHN
  • PUGHE, JOHN (Ioan ab Hu Feddyg; 1814 - 1874), meddyg ac awdur Ganwyd 8 Medi 1814 yn Ysgubor Fawr, Chwaen Wen, sir Fôn, mab hynaf David Roberts Pughe ac Elizabeth ei wraig. Cymhwysodd ei hun fel meddyg yn Ysbyty S. Thomas, Llundain, ac ennill y radd o F.R.C.S. Ymsefydlodd am ychydig fel meddyg yn Abermaw ond yn Aberdyfi y cartrefai am y rhan fwyaf o'i oes. Treuliodd ran o dymor ei ieuenctid yng Nghlynnog, Arfon, lle'r oedd yn gyfaill i 'Eben Fardd
  • teulu PULESTON Emral, Plas-ym-Mers, Hafod-y-wern, Llwynycnotiau, Benfro a Kensington) y sedd oddi ar William Almer (gweler Almer neu Almor, Pant Iocyn), Pant Iocyn. Haerodd Almer iddo dderbyn cam ar law'r siryf, Owen Brereton, ac mewn achos a ddug gerbron Llys y Seren cyhuddodd Brereton ac amryw o bleidwyr Edwards, gan gynnwys Roger Puleston, o gam-ymddwyn yn yr etholiad. Priododd Puleston Susannah, merch Syr George Bromley, prif ustus Caer; urddwyd ef yn farchog 28
  • PULESTON, JOHN (c. 1583 - 1659), barnwr gwrthododd y brenin; yn 1648 rhoes y Ty'r radd o ' serjeant ' iddo; a phan ymddiswyddodd yr holl fainc ar ddienyddiad Siarl (1649), penododd y Senedd ef (1 Mehfin) yn farnwr yn y 'Common Pleas,' eithr ni pharhaodd Cromwell ef yn y swydd (1653). Yn herwydd marw ei ewythr Syr Roger Puleston yn ddiblant yn 1618, a'i ewythr iau George, yn 1634, yntau'n ddiblant, yr oedd John Puleston yn awr yn ben y teulu. Yr
  • PULESTON, Syr JOHN HENRY (1829 - 1908), bancer ac aelod seneddol . Wedi dychwelyd i Loegr bu'n aelod seneddol tros Devonport, 1874-92; ymgeisiodd yn erbyn David Lloyd George yn etholiad Sir Gaernarfon, 1892, ond ni lwyddodd i ennill y sedd. Gwnaed ef yn farchog yn 1887, a bu'n rhaglaw dinas Llundain a chwnstabl castell Caernarfon. Yr oedd Syr John yn Eglwyswr blaenllaw, yn Geidwadwr cydwybodol, ac yn Gymro cynnes a ymddiddorai ym mhob mudiad cenedlaethol Cymreig
  • RANDLES, EDWARD (1763 - 1820), telynor ac organydd dall Ganwyd yn Wrecsam, 1763, mab Edward Randles, cigydd yn y dref. Dysgwyd ef i ganu'r delyn gan John Parry, Rhiwabon. Yr oedd yn chwaraewr medrus ar yr organ, a phenodwyd ef yn organydd eglwys Wrecsam yn 1788. Cyfeiria George Thomson, Edinburgh, ato yn ei ragymadrodd i'w gyfrol Alawon Cymreig, 1809, fel telynor rhagorol. Bu ef a'i ferch Elizabeth Randles yn canu o flaen Siôr III a'r frenhines
  • teulu RAVENSCROFT Ravenscroft, Ravenscroft, nodwn ddau o feibion Ralph, sef (1) George a (2) John. (I) GEORGE RAVENSCROFT 'o Bretton,' mab hynaf y Ralph uchod; ohono ef y tardd rhes o uchelwyr blaenllaw yn eu sir; yr oedd ef yn fyw yn 1517, a'i fab THOMAS RAVENSCROFT yn fyw yn 1547. Mab hynaf Thomas Ravenscroft oedd GEORGE RAVENSCROFT, siryf 1578-9, a fu farw yn 1592 ac a goffeir (fel eraill o'r tylwyth) yn eglwys Penarlâg; bu'n aelod