Canlyniadau chwilio

1345 - 1356 of 1816 for "david lloyd george"

1345 - 1356 of 1816 for "david lloyd george"

  • PROTHERO, THOMAS (1780 - 1853), cyfreithiwr, perchennog glofeydd, a dinesydd dylanwadol yng Nghasnewydd, Mynwy deulu. Bu'n uchel siryf y sir yn 1846. Bu farw yn ddisyfyd yn Llundain, 24 Ebrill 1853, yn 73 oed. Priododd ddwywaith. Rhoddir lle yn y D.N.B. i ddau o'i wyrion, Syr George Walter Prothero 1848 - 1922), hanesydd, a Rowland Edmund Prothero, barwn Ernle (1851 - 1937), gweinyddwr ac awdur.
  • teulu PRYCE Newtown Hall, Yr oedd y teulu hwn, a roes saith siryf i Sir Drefaldwyn ac a fu am gyfnod hir yn flaenllaw ym mywyd y sir honno, yn hawlio eu bod yn disgyn o Elystan Glodrydd, sefydlydd pedwerydd llwyth brenhinol Cymru, a dygent yr arfau y dywedid eu dwyn ganddo ef - ' Gules, a lion rampant regardant or.' Yr aelod cyntaf a gysylitir â Newtown Hall oedd DAVID AP EINION (o Fochdre a Cheri). Canodd Lewis Glyn
  • PRYCE, THOMAS (1833 - 1904), hynafiaethydd Ganwyd 5 Medi 1833, mab David Pryce, Trederwen Hall, Llandrinio, Sir Drefaldwyn. Addysgwyd ef yn y Liverpool College. Ar ôl gadael yr ysgol ymfudodd i Java, lle priododd yn 1863 â merch i Jacobus G. T. a Aldous van Motman o Dramaga. Ar ôl treulio 28 mlynedd yn Java aeth am bum mlynedd i'r Hâg. Oddi yno dychwelodd i Gymru ac aeth i fyw i Bentre Heylin, Llandysilio, Sir Drefaldwyn. Cymerodd ran
  • PRYCE, THOMAS MALDWYN (1949 - 1977), rasiwr ceir Ganwyd Tom Pryce yn sir Ddinbych ar 11 Mehefin 1949, ac fe'i magwyd yn Nantglyn. Roedd yn ail fab i Jack Pryce (bu farw 2007), heddwas a ddaeth yn sarsiant yn ddiweddarach, a'i wraig Gwyneth (ganwyd Hughes, bu farw 2009), nyrs ardal. Bu farw ei frawd hŷn, David J. Pryce (1947-1950), yn dair oed. Roedd arwyddion cynnar y gallai'r mab ieuengaf gael ei ddenu gan fyd moduro: yn fachgen ifanc fe
  • PRYS, EDMWND (1544 - 1623), archddiacon Meirionnydd, a bardd hynaf, a'i aeres, sef Lowry, a Robert Evans, Tanybwlch. Erbyn 1632 hefyd yr oedd ei weddw, Elizabeth (merch Peter Meyrick, Ucheldre, Gwyddelwern), wedi priodi Griffith Lloyd. Cafodd Edmund Price fywoliaeth Llanllyfni, Sir Gaernarfon, 5 Chwefror 1637, a'i symud ym Mehefin 1639 i fywoliaeth Llanfechell, sir Fôn (erbyn hynny fe'i ceir yng nghofnodion esgobaeth Bangor fel 'Edmund Price M.A.'); y mae'n
  • teulu PRYSE Gogerddan, thros fwrdeisdref Aberteifi. Priododd Lewis Pryse Ann, merch John Lloyd, Aberllefenni, eithr gan iddo farw heb adael mab aeth y stad i'w gefnder, THOMAS PRYSE, aelod seneddol dros sir Aberteifi, 1741-3. Bu unig fab Thomas Pryse, JOHN PUGH PRYSE, yn cynrychioli sir Aberteifi a sir Feirionnydd yn y Senedd; ynglŷn â John Pugh Pryse a'i fam, Maria Charlotte Prys (Lloyd wedi hynny), gweler gatalog
  • PRYTHERCH, WILLIAM (1804 - 1888), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd Ganwyd 25 Ebrill 1804 yn Nhŷ'n-yr-heol, plwyf Cynwyl Gaeo, yn fab i Thomas William Rytherch. Bu dan addysg yn nhref Caerfyrddin, a chynorthwyai David Charles yn y cyfarfodydd cyhoeddus. Dechreuodd bregethu yn eglwys Caeo yn 1825. Yn 1831 priododd Joyce, merch Thomas Evans Pumsaint. Wedi gadael ardal Caeo preswyliodd mewn amryw fannau yn Sir Gaerfyrddin - Llanegwad, Llanfynydd, Betws, Nantgaredig
  • PUDDICOMBE, ANNE ADALISA (Allen Raine; 1836 - 1908), nofelydd Ganwyd 6 Hydref 1836 yn Bridge Street, Castellnewydd Emlyn, Sir Gaerfyrddin, yn blentyn hynaf Benjamin a Letitia Grace Evans. Cyfreithiwr oedd ei thad, ac yn ŵyr i David Davis, Castell Hywel, ac yr oedd ei mam yn ferch i Thomas Morgan, meddyg o Gastellnewydd, ac yn ŵyres i Daniel Rowland, Llangeitho. Yn ei mebyd aeth i ysgol i Gaerfyrddin, ac o 1849 hyd 1851 addysgwyd hi gyda theulu Henry Solly
  • PUGH, DAVID (1739 - 1817), clerigwr hysgol Sul - a mynychai gyfarfodydd pregethu, ond ni bu'n amlwg yn ei llysoedd. Pan ddaeth sôn am fudiad ordeinio, a digwydd hynny yn 1811, ffromodd Pugh, ac o dan ddylanwad ei gymydog David Griffith, Nanhyfer, troes i ymosod ar ei gyfeillion (Thomas Charles yn enwedig) a gefnogai y neilltuad. Yr oedd yn Nhrefdraeth gapel a godwyd 'by the voluntary contributions of divers well disposed persons' (1799
  • PUGH, ELLIS (1656 - 1718), Crynwr ac awdur Annerch ir Cymru Language by Rowland Ellis. Revis'd and corrected by David Lloyd ', ac argraffwyd y cyfieithiad hefyd, o dan y teitl A Salutation to the Britains, yn Philadelphia, 'Printed by S. Keimer, for W. Davies, Bookbinder, in Chesnut-Street, 1727.' Cafwyd hefyd argraffiadau o'r cyfieithiad yn Llundain yn ddiweddarach - yn 1732, 1739, a 1793.
  • PUGH, HUGH (1779 - 1809), gweinidog gyda'r Annibynwyr Ganwyd 22 Tachwedd 1779 yn Tynant Bach, Brithdir. Magwyd ef mewn gwell amgylchiadau na'r cyffredin. Nid oedd ei dad yn grefyddwr ond 'roedd ei fam yn aelod yn Rhydymain, ac y mae'n bosibl y cyrchai mor bell â Llanuwchllyn i gymundeb. Symudodd y teulu i'r Perthi Llwydion. Addysgwyd ef yn Nolgellau a High Ercall, Sir Amwythig. Yn 16 oed derbyniwyd ef yn aelod yn y Brithdir gan Dr. George Lewis a
  • PUGH, JOHN (1744 - 1799), clerigwr Ganwyd yn Nolgellau, ail fab Hugh a Jane Pugh. Yr oedd, felly, yn frawd i David Pugh a Robert Pugh. Aeth i Goleg Hertford, Rhydychen, yn 1767, gan raddio yn 1771. Yr oedd yn un o'r saith a gondemniwyd yn Rhydychen (1768) am eu 'duwioldeb.' Bu'n ficer Ranceby a Cranwell, swydd Lincoln, o 1771 hyd 1799. Cymynroddwyd iddo y rhan helaethaf o gyfoeth ei gyfaill, Joseph Jane, clerigwr efengylaidd Iron