Canlyniadau chwilio

361 - 372 of 3960 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

361 - 372 of 3960 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

  • DAVIES, ALUN WYNNE GRIFFITHS (1924 - 1988), cerddor a beirniad Ganwyd Alun Davies 6 Ionawr 1924 yn Llandybïe, Sir Gaerfyrddin, yn fab i William ac Emily Davies. Pan oedd yn dair blwydd oed symudodd y teulu i Tooting, Llundain i werthu llaeth ac yno y'i maged. Yr oedd y teulu yn aelodau yng nghapel Annibynnol Radnor Walk, lle y dechreuodd feithrin ei ddiddordeb naturiol mewn cerddoriaeth, ond gan iddo golli ei dad pan oedd yn ddeuddeg oed, methodd barhau â'i
  • DAVIES, ANEIRIN TALFAN (1909 - 1980), bardd, beirniad llenyddol, darlledwr a chyhoeddwr Ganwyd Aneirin Talfan Davies ar 11 Mai 1909 yn Dre-fach Felindre, Sir Gaerfyrddin, yn ail o bedwar o feibion y Parchedig William Talfan Davies (1873-1938), brodor o Ysbyty Ystwyth, Ceredigion, ac Alys (ganwyd Jones, 1878-1948). Brawd hŷn iddo oedd Elfyn Talfan Davies (g. 1907), a’i frodyr iau oedd Goronwy Talfan Davies (1911-1977) a Alun Talfan Davies (1913-2000). Yn 1911, pan oedd Aneirin yn
  • DAVIES, ANNIE (1910 - 1970), cynhyrchydd radio, a theledu'n ddiweddarach aeth i ysgol sir Tregaron. Aeth i Goleg Prifysgol Cymru yn 1929 a chymerodd ei harholiadau terfynol mewn Lladin a hanes ym Mehefin 1932, ond yn 1933 y graddiodd. Bu am gyfnod ar staff Llyfrgell Dinas Caerdydd cyn ymuno â'r B.B.C. yn 1935 fel ysgrifenyddes i Sam Jones. Bu'n ei gynorthwyo gyda sefydlu traddodiad gwych canolfan Bangor ym myd radio Cymraeg. Yn 1946 gadawodd y B.B.C. a dychwelyd i
  • DAVIES, BEN (1878 - 1958), gweinidog (A) Ganwyd yn Llanboidy, Sir Gaerfyrddin, 12 Ebrill 1878, yn fab i Thomas Davies, gweithiwr ar ystad Maes-gwyn, a'i wraig Sarah. Wedi bwrw prentisiaeth fel saer celfi, aeth i ysgol yr Hen Goleg, Caerfyrddin yn 1901 a derbyniwyd ef i'r Coleg Presbyteraidd yno yn 1902. Ordeiniwyd ef 28 Gorffennaf 1904. Priododd Sarah, merch Benjamin a Mary Bowen o blwyf Eglwys Newydd, ger Caerfyrddin, a oedd yn llinach
  • DAVIES, BEN (1864 - 1937), gweinidog Annibynnol Ganwyd yn y Ddolgam, Cwmllynfell, 1864. Cafodd ei addysg yn ysgol y pentref a bu yn y gwaith glo o 13 i 21 oed. Dechreuodd farddoni yn ieuanc, gan ennill yn aml yn y cyfarfodydd llenyddol a'r eisteddfodau; meistrolodd y gynghanedd yn 13 oed, ac enillodd gadair Tredegar am awdl, ' Rhinwedd,' yn 21 oed. Aeth i ysgol baratoi Llansawel, Sir Gaerfyrddin, 1885, a bu yng Ngholeg y Bala, 1886-8. Bu'n
  • DAVIES, BENJAMIN (1739? - 1817), athro a gweinidog Annibynnol ydoedd a phregethwr sylweddol ond di-ddawn, yn hoffi trin pynciau dadleuol. Os yw cofnod yn y Wilson MSS. yn llyfrgell Dr. Williams (copi ohono yn NLW MS 373C) wedi ei eirio'n gywir, gellid meddwl iddo fod yn academi Caerfyrddin dan Perrott, ond gellir yn haws gredu mai'r ysgol ramadeg a oedd yn gysylltiedig â'r academi a olygir. Honnir, heb sail ddigonol, i Rees Davies gael ei urddo'n weinidog ar
  • DAVIES, BENJAMIN (1814 - 1875), Hebreydd ieithoedd Semitaidd yng Ngoleg McGill, Montreal (1847-57); a (ch) athro yn yr ieithoedd clasurol a dwyreiniol yn Regent's Park Baptist College (gynt Stepney) (1857-75). Priododd Eliza Try, o Portland, Maine, yn ystod ei arhosiad cyntaf yng Nghanada; bu hi farw o'i flaen, a bu yntau farw 19 Gorffennaf yn nhŷ ei fab yn Frome. Ymysg ei weithiau y mae: nodiadau mewn argraffiad newydd o E. Robinson, Harmony of
  • DAVIES, BRYAN MARTIN (1933 - 2015), athro a bardd Ganwyd Bryan Martin Davies ym Mrynaman, Sir Gaerfyrddin, ar 8 Ebrill 1933, yn fab i Horace Davies (1900-1950), glöwr, a'i wraig Evelyn (ganwyd Martin, 1909-1997). Cafodd ei fagu o fewn cymuned glós yr ardal lofaol Gymraeg hon, gan gyfranogi o'i diwylliant barddonol bywiog a oedd wedi cynhyrchu enwogion megis yr englynwr Gwydderig (Richard Williams) a'r bardd a'r emynydd Watcyn Wyn. Er iddo, fel
  • DAVIES, CASSIE JANE (1898 - 1988), addysgydd a chenedlaetholwraig gefnogi ei doniau academaidd amlwg. Yn yr Ysgol Sir roedd yn un o blith nifer o dalentau nodedig, fel Ambrose Bebb a Kitchener Davies, a ddaeth o dan ddylanwad yr athro hanes carismatig S. M. Powell. Er mai Saesneg oedd iaith y mwyafrif o'r gwersi, credai Powell ym mhwysigrwydd dysgu peth o hanes a chwedlau'r fro i'r plant yn eu mamiaith. Bwriodd y Rhyfel Byd Cyntaf ei gysgod dros y teulu yn ystod ei
  • DAVIES, CATHERINE GLYN (1926 - 2007), hanesydd athroniaeth ac ieithyddiaeth, a chyfieithydd Ganwyd Caryl Davies yn Nhrealaw, Morgannwg, ar 26 Medi 1926, yn blentyn hynaf y gweinidog William Glyn Jones (1883-1958) a'i wraig Mabel (née Williams Lloyd, ganwyd 1897). Priodasant yn 1925 a chawsant fab a dwy ferch arall. Ar ôl mynychu ysgol sir y Porth, graddiodd Caryl gydag anrhydedd yn y dosbarth cyntaf mewn Ffrangeg yn 1946, ac yn ddiweddarach gydag anrhydedd mewn athroniaeth yng Ngholeg
  • DAVIES, CERIDWEN LLOYD (1900 - 1983), cerddor a darlithydd ), offeiriad yn yr Eglwys yng Nghymru a chanon yn Eglwys Gadeiriol Bangor ar y pryd, a hanai o ardal Llandysul, a chawsant un mab. Cefnogodd ei gŵr yng ngwaith yr eglwys, yn arbennig ei agweddau cerddorol, a bu darllediadau'r BBC yn rhan bwysig o'i bywyd. Urddwyd y ddau ohonynt yn aelodau o'r Orsedd. Yn ystod 1932, ar gais y golygydd, J. Lloyd Williams, cyfrannodd gyfres o ddeuddeg erthygl i gylchgrawn
  • DAVIES, CLARA NOVELLO (Pencerddes Morgannwg; 1861 - 1943), arweinydd corau Ganwyd yn Canton, Caerdydd, 7 Ebrill 1861, merch i Jacob Davies a'i wraig Margaret. Clywodd ei thad y gantores enwog Clara Anastasia, merch Vincent Novello, a phenderfynodd pe cai ferch y galwai hi ar enw'r gantores. Cafodd ei haddysg gerddorol gan ei thad, Dr. Frost, Frederick Atkins, Caerdydd, a Dr. Charles Williams, organydd eglwys gadeiriol Llandaf. Penodwyd hi yn ieuanc, oherwydd ei thalent