Canlyniadau chwilio

349 - 360 of 3960 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

349 - 360 of 3960 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

  • DAVID (bu farw 1139?), esgob Bangor ar 4 Ebrill cysegrwyd yr esgob newydd yn Westminster wedi i'r archesgob yn gyntaf ei fodloni ei hun ynglŷn â'i deilyngdod a chael ganddo broffesu ufudd-dod. Y mae'r dystiolaeth ynghylch tras yr esgob yn gymysglyd. Dywed croniclydd yr 'Annals of Worcester' ei fod yn Gymro, a byddai hynny'n naturiol. Ond yn ôl William o Falmsbri nid neb amgen na 'David the Scot' ydoedd, y gŵr a ysgrifennodd hanes
  • DAVID, JOHN (1701? - 1756), gweinidog Annibynnol a breswyliai yn y Cilast yn ymyl Maenor Deifi; ffermwr cefnog. Ymddengys mai tua 1736 y dechreuodd bregethu. Yn 1745, dilynodd Lewis Thomas o Fwlch-y-sais fel gweinidog Rhydyceisiaid yn Sir Gaerfyrddin a Glandŵr yn Sir Benfro. Pregethai'n deithiol ar draws lled mawr o wlad, yn ymestyn mor bell â Llandudoch; cynorthwyid ef yn 1747-8 gan Evan Williams o Gwmllynfell. Efo, yn bur sicr, oedd y John
  • DAVID, PHILIP (1709 - 1787) Mhenmain, gweinidog gyda'r Annibynwyr Ganwyd 11 Mehefin 1709, yng Nghwm Ebwy Fawr. Tueddwyd ef at grefydd tua 1720 gan bregethu James Davies o Ferthyr Tydfil; dechreuodd bregethu ei hunan yn 1732; ac yn 1739 urddwyd ef yn weinidog cynorthwyol i David Williams (a fu yno o 1710 hyd ei farwolaeth yn 1759) ym Mhenmain. Bu yno hyd ei farwolaeth 3 Chwefror 1787. Tua 100 oedd rhif yr eglwys ar hyd ei weinidogaeth. Gŵr ceidwadol a chrabet
  • DAVID, REES (fl. 1746), Bedyddiwr Arminaidd cynnar Ni wyddys ond ychydig iawn amdano. Yn ôl Walter J. Evans (NLW MSS 10327B), yr oedd yn academi Caerfyrddin dan Perrott; ond yr unig enw tebyg yn rhestr Wilson (llyfrgell y Dr. Williams - copi yn NLW MS 373C) o fyfyrwyr Perrott yw 'Rees Davies,' ac uniaethir hwnnw yno a Rees Davies o'r Canerw; nid yw'r naill ddywediad na'r llall yn gwbl argyhoeddiadol. Sut bynnag, nid gweinidog oedd Rees David, ond
  • DAVID, Syr TANNATT WILLIAM EDGEWORTH (1858 - 1934), daearegwr Ganwyd 28 Ionawr 1858, yn fab i William David, rheithor Sain Ffagan. O Ysgol Magdalen yn Rhydychen, aeth yn 1876 i'r Coleg Newydd yno, a'i fryd ar urddau eglwysig; yn 1878 enillodd le yn y dosbarth blaenaf yn yr arholiad 'Moderations' yn y clasuron, ond yn herwydd afiechyd bu raid iddo ohirio ei arholiad terfynol, a graddio yn 1881 heb 'anrhydedd.' Yn y cyfamser, yr oedd wedi newid cwrs ei fywyd
  • DAVIDS, THOMAS WILLIAM (1816 - 1884), gweinidog gyda'r Annibynwyr a hanesydd eglwysig
  • DAVIDS, THOMAS WILLIAM RHYS (1843 - 1922), athro astudiaeth gymariaethol crefydd - gweler DAVIDS, THOMAS WILLIAM
  • teulu DAVIES Yr oedd HUW DAVIES, gof, yn byw yn y Groes-foel, Esclusham, yn yr 17eg ganrif. Fe'i claddwyd ym mynwent Wrecsam 2 Medi 1702. Priodolir iddo ganllaw haearn wych yng nghôr eglwys Wrecsam a llidiard fechan ym mynwent Malpas, sir Gaerlleon. Yr oedd iddo ef a'i wraig Eleanor bedwar mab, ROBERT (bu farw 1748/9), JOHN (bu farw 1755), Huw a Thomas, a chwe merch (Anne, Magdalen, Jane, Sarah, Elinor a
  • DAVIES, ALUN TALFAN (1913 - 2000), bargyfreithiwr, barnwr, gwleidydd, cyhoeddwr a dyn busnes Ganwyd Alun Talfan Davies ar 22 Gorffennaf 1913 yng Ngorseinon ger Abertawe, yr ieuengaf o bedwar mab William Talfan Davies (1873-1938), gweinidog Methodistaidd, a'i wraig Alys (g. Jones, 1879-1948). Ei dri brawd oedd Elfyn Talfan Davies, Aneirin Talfan Davies, a Goronwy Talfan Davies. Cafodd Alun ei addysg yn Ysgol Ramadeg Tre-gŵyr, ac aeth ymlaen i astudio'r gyfraith yn Ngholeg Prifysgol Cymru
  • DAVIES, Syr ALFRED THOMAS (1861 - 1949), ysgrifennydd parhaol cyntaf (1907-25) adran Gymreig y Bwrdd Addysg Ganwyd 11 Mawrth 1861 yn Lerpwl yn fab i William Davies. Cafodd ei addysg yn Lerpwl ac yng ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Rhwng 1883 a 1907 bu'n gyfreithiwr yn Lerpwl yn arbenigo yng nghyfraith trwyddedi. Bu iddo ran amlwg ym mudiad dirwest y ddinas. Gwasanaethodd fel ysgrifennydd amryw bwyllgorau ac ymddiriedolaethau addysgol, ac o 1904 i 1907 bu'n aelod o gyngor sir a phwyllgor addysg
  • DAVIES, ALUN (1916 - 1980), hanesydd , Abertawe, ond ganwyd Alun wedi i'r teulu symud oddi yno i Bontarddulais ac yna i Landysul. Collwyd dau fachgen arall yn fabanod a chladdwyd y rheini ym meddrod y teulu ym Mwlchnewydd, Sir Gaerfyrddin. Goroesodd Sarah Davies hyd 1965 wedi marw ei mab Hywel. Cafwyd bedd arall ym Mwlchnewydd i Nan ac i lwch Alun Davies. Bu Alun Davies yn yr ysgol elfennol a'r ysgol sirol yn Llandysul (gadawyd iddo fynychu'r
  • DAVIES, ALUN HERBERT (CREUNANT) (1927 - 2005), Cyfarwyddwr cyntaf Cyngor Llyfrau Cymru (y Cyngor Llyfrau Cymraeg yn wreiddiol) Ganwyd Alun Herbert Davies (sylwer mai enw mabwysiedig yw'r enw canol Creunant) ar 31 Mai 1927 yn Llansamlet, Morgannwg, yn unig blentyn y Parchedig Thomas Herbert (Creunant) Davies a Hannah Davies (née Thomas). Symudodd y teulu i Bumsaint, Sir Gaerfyrddin yn 1936 a chafodd Alun ei addysg uwchradd yn Llanymddyfri. Ar ôl marwolaeth annhymig ei dad aeth i Goleg y Drindod, Caerfyrddin, ac wedi dwy