Canlyniadau chwilio

3913 - 3924 of 3977 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

3913 - 3924 of 3977 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

  • WILLIAMS, WILLIAM MORRIS (1883 - 1954), chwarelwr, arweinydd corau, datgeiniad a beirniad cerdd dant Ganwyd 17 Ionawr 1883 yn Nhan-y-fron, Tanygrisiau, Meirionnydd, yn fab i William Morris Williams, chwarelwr, a Jane ei wraig. Yr oedd yn un o saith o blant. Bu'r tad yn godwr canu yn eglwys Bethel (MC), Tanygrisiau am 25 mlynedd a dechreuodd y mab gynorthwyo gyda'r gwaith pan oedd yn 17 oed. Priododd ef yn 1905 a Mair, merch Daniel a Mary Williams, Conglog, Tanygrisiau, a magasant deulu cerddgar
  • WILLIAMS, WILLIAM NANTLAIS (1874 - 1959), gweinidog (MC), golygydd, bardd ac emynydd Ganwyd 30 Rhagfyr 1874 yn Llawr-cwrt, Gwyddgrug, ger Pencader, Sir Gaerfyrddin, yn ieuangaf o ddeg plentyn Daniel a Mari Williams. Cafodd addysg yn ysgol elfennol New Inn, ac yn 12 oed prentisiwyd ef yn wehydd gyda'i frodyr. Magwyd ef yn eglwys y New Inn, ac yno y dechreuodd bregethu yn 1894. Addysgwyd ef ar gyfer y weinidogaeth yn ysgol ramadeg Castellnewydd Emlyn ac yng Ngholeg Trefeca
  • WILLIAMS, WILLIAM OGWEN (1924 - 1969), archifydd, Athro prifysgol Ganwyd yn Llanfairfechan, Caernarfon, 12 Rhagfyr 1924, yr hynaf o ddau fab William Henry Williams a Margaret (ganwyd Pritchard); addysgwyd yn yr ysgol genedlaethol, Llanfairfechan, 1928-35, Ysgol Friars, Bangor, 1935-42, Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, 1942-47 (B.A., Hanes, dosbarth cyntaf, 1945), Prifysgol Llundain 1947-48 (diploma mewn Archifyddiaeth, 1949); penodwyd ef yn ddarpar-archifydd Sir
  • WILLIAMS, WILLIAM PRICHARD (1848 - 1916) mab David Williams, ganwyd c.1824 Glasdo, Llan Ffestiniog, (un o ddisgynyddion William Prichard, Clwchdyrnog, sir Fôn), a'i wraig Ann Owen (c.1823-1867). Ganwyd 21 Gorffennaf 1848. Bu am ysbaid mewn ysgol yn y pentref a gedwid gan hen wraig, yna aeth i Fanceinion i wasanaeth J. a N. Phillips, a bu'n trafaelio drostynt hwy yng Ngogledd Cymru hyd derfyn ei oes. Ef oedd un o sylfaenwyr eglwys
  • WILLIAMS, WILLIAM RETLAW JEFFERSON (?1863 - 1944), cyfreithiwr, achydd a hanesydd Yr oedd yn un o blant nodedig Aberclydach ym mhlwy Llanfeugan, sir Frycheiniog (gweler WILLIAMS, Alice Matilda). Meddyg a chapten yn y First Brecknockshire Rifle Volunteers oedd y tad, John James Williams (bu farw 31 Mawrth 1906). Ei enw ef yng Ngorsedd y Beirdd oedd 'Brychan'. Jane Robertson oedd enw morwynol y fam. Prif orchest y mab hynaf, Howell Price, oedd cyflawni'r daith ar hyd cyfandir
  • WILLIAMS, WILLIAM RICHARD (1896 - 1962), gweinidog (MC) a Phrifathro'r Coleg Diwinyddol Unedig, Aberystwyth Ganwyd 4 Ebrill 1896 ym Mhwllheli, Sir Gaernarfon, mab Richard a Catherine Williams, ei fam o linach Siarl Marc o Fryncroes. Addysgwyd ef yn ysgol ddyddiol yr eglwys, Penlleiniau, ac yn ysgol sir Pwllheli. Enillodd ysgoloriaeth Mrs Clarke, a'i galluogodd i fynd i Goleg y Brifysgol, Aberystwyth, lle graddiodd gydag anrhydedd yn y dosbarth cyntaf mewn Groeg ac ail ddosbarth mewn athroniaeth
  • WILLIAMS, Syr WILLIAM RICHARD (1879 - 1961), arolygwr trafnidiaeth rheilffyrdd Ganwyd 18 Mawrth 1879 yn fab i Thomas Williams ac Elizabeth Agnes ei wraig, Pontypridd, Morgannwg. Priododd, 8 Ebrill 1902, â Mabel Escott Melluish ond ni fu iddynt blant. Yn un a adweinid mewn cylchoedd yn ymwneud â rheilffyrdd fel ' y dyn a lwyddodd i sylweddoli uchelgais bachgen ysgol i redeg rheilffordd ', addysgwyd ef yng Nghaerdydd a chychwynnodd ar ei yrfa yn glerc bach i Gwmni Rheilffordd
  • WILLIAMS, WILLIAM SIDNEY GWYNN (1896 - 1978), cerddor a gweinyddwr Ganed Gwynn Williams yn Plas Hafod, Llangollen ar 4 Ebrill 1896, yn fab i W. Pencerdd Williams (1856-1924), saer maen, cerddor ac arweinydd Cymdeithas Gorawl Llangollen. Bu ei fam farw cyn i Gwynn gyrraedd ei bedair oed. Cafodd hyfforddiant mewn sol-ffa gan ei dad, a derbyn Cymrodoriaeth y Coleg Tonic Sol-ffa (FTSC) yn ddiweddarach. Ymgymhwysodd fel cyfreithiwr ac ymuno â chwmni Emyr Williams yn
  • WILLIAMS, WILLIAM WYN (1876 - 1936), gweinidog (MC) a bardd
  • WILLIAMS, ZACHARIAH (1683 - 1755), meddyg a dyfeisydd a thad Anna Williams; Ganwyd yn Rosemarket, Sir Benfro, a bu'n dilyn ei alwedigaeth fel meddyg am beth amser yn Neheudir Cymru. Derbyniwyd ef i'r Charterhouse, Llundain, yn 1729 fel 'poor brother pensioner.' Rhydd teitlau ei lyfrau syniad am ei ddiddordebau - The Mariner's Compass Compleated, 1740 a 1745; A True Narrative of certain Circumstances relating to Zachariah Williams in the Charterhouse
  • WILLIAMS, ZEPHANIAH (1795 - 1874), Siartydd iddo gyrraedd Tasmania ceisiodd ddianc yn rhydd fwy nag unwaith. Yng nghwrs amser cafodd ei ollwng yn rhydd ar 'ticket of leave.' Yna darganfu lo ar yr ynys, ac ymhen amser daeth yn bur gyfoethog. Ymunodd ei wraig, Joan, a'i ferch, Rhoda, ag ef yn Tasmania yn 1854. Bu Zephaniah Williams farw 8 Mai 1874 yn Launceston, Tasmania. LLEWELLYN WILLIAMS 'Pencerdd y De', 'Alawydd y De' (1822 - 1872), telynor
  • WILLIAMS, Syr WILLIAM (1634 - 1700), cyfreithiwr a gwleidyddwr Mab hynaf Hugh Williams (1596 - 1670), rheithor Llantrisant a Llanrhyddlad, sir Fôn (B. Willis, Bangor, 170-1; Pryce, Diocese of Bangor in the Sixteenth Century, 41, 43, 44; An Inventory of the Ancient Monuments in Anglesey, 114). Cafodd ei addysg yng Ngholeg Iesu Rhydychen ac yn Gray's Inn (ei dderbyn yno yn 1650 a dyfod yn fargyfrethiwr yn 1658; etholwyd ef yn drysorydd, 1681). Yr oedd yn