Canlyniadau chwilio

3913 - 3924 of 3960 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

3913 - 3924 of 3960 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

  • WILLIS, JOHN WILLIAM - gweler WILLIS-BUND, JOHN WILLIAM
  • WILLIS-BUND, JOHN WILLIAM (1843 - 1928), ysgrifennwr ar hanes yr Eglwys yng Nghymru Ganwyd yn 1843 yn Wick Episcopi, sir Gaerwrangon; aeth i Eton ac i Goleg Caius yng Nghaergrawnt, a graddiodd yn y gyfraith gydag anrhydedd yn y dosbarth blaenaf; galwyd i'r Bar o Lincoln's Inn, ac yr oedd yn F.S.A. Gwasnaethodd ei sir enedigol ar hyd ei fywyd, a bu'n gadeirydd ei brawdlys chwarterol a'i chyngor sir. Bu farw 7 Mehefin 1928. Ymddiddorai yn hanes yr eglwys yng Nghymru; cyfrannai i
  • WILSON, HERBERT REES (1929 - 2008), gwyddonydd Ganwyd Herbert Wilson ar 20 Mawrth 1929 ar fferm ei daid yn Nefyn, Sir Gaernarfon, yn fab i Thomas Wilson, capten llong, a Jennie ei wraig. Addysgwyd Herbert yn Ysgol Ramadeg Pwllheli, ac aeth ymlaen i astudio ffiseg ym Mhrifysgol Bangor, gan raddio ag anrhydedd dosbarth cyntaf yn 1949. Enillodd ddoethuriaeth wedyn yn 1952 dan gyfarwyddyd yr Athro Edwin Owen. I gychwyn gweithiodd ym maes metelau
  • WILSON, RICHARD (1713 - 1782), arlunydd golygfeydd natur Aelod o deulu Wilsoniaid Bwlch-y-llyn a'r Ffinnant, Trefeglwys (Maldwyn), un o hen deuluoedd Cymreig Arwystli. Yr oedd HUGH WILSON, M.A. (1651 - 1687), ficer Crefydd Trefeglwys (1674) a hefyd Llangurig (1676) yn fab i RICHARD (bu farw 1688) a Joanna (bu farw 1678) Wilson, Bwlch-y-llyn. Ymbriododd Hugh yn 1679 â Maria (bu farw 1688) gweddw William Lloyd, Maesbangor, Llanbadarn Fawr. Cawsant bump o
  • WINSTONE, JAMES (1863 - 1921), arweinydd y glöwyr yn Neheudir Cymru Ganwyd yn Risca, Mynwy, 1863, mab William a Hannah Winstone. Dechreuodd weithio yn 8 oed mewn gwaith priddfeini ac wedyn aeth i'r pwll glo yn Risca. Bu raid iddo adael yno oherwydd ei ymdrechion gyda'r undeb llafur ac aeth i Dreharris. Yn fuan wedi mynd yno gwahoddwyd ef yn ôl i Risca gan y glöwyr i'w cynrychioli fel swyddog i bwyso'r glo. Yn 1901 etholwyd ef yn swyddog Undeb y Glöwyr dros
  • WINTER, CHARLES (1700 - 1773), gweinidog gyda'r Bedyddwyr Arminaidd , gweithredai fel meddyg, ac 'yr oedd ganddo lawer o lyfrau ar wyddoniaeth yn ei llyfrgell.' Dilynwyd ef fel bugail gan Morgan Thomas, gwr o Sir Gaerfyrddin, a fu farw yn 1774. Gweinidog nesaf Craig-y-fargod oedd JACOB ISAAC Yr oedd hwnnw'n wyr i'r Jacob Isaac (uchod) a oedd eisoes yn 1717 wedi bod yn gwingo yn erbyn 'union gred' ac a drowyd allan o Hengoed yn 1730, gan ymuno wedyn ag Annibynwyr Penmain
  • teulu WOGAN WOGAN, mab i Richard Wogan o Boulston o'i wraig Matilda, merch Syr Thomas Philipps o Gilsant, oedd siryf Sir Benfro yn 1566, 1574, 1584, a 1598 ?, ac yn aelod seneddol dros sir Benfro yn 1545-7 a 1553 (Williams, The parliamentary history of the principality of Wales, 154). Urddwyd ef yn farchog cyn 25 Tachwedd 1597. Priododd (1) â Jane, merch Richard Wogan o Gasgwîs, a (2) ag Elizabeth, merch Robert
  • teulu WOOD, sipsiwn Cymreig perthyn i Abram Wood. Yn ail: am bron ddwy ganrif cafodd Cymru delynorion hynod o'r tylwyth hwn. Y brif ffynhonnell ar hanes y tylwyth yw'r Journal of the Gipsy Lore Society (chwilier am yr enw ' Wood ' yn yr adran. 'Names' o'r mynegeion i'r cyfrolau), ac yn bennaf oll gyfraniadau John Sampson (1862 - 1931), diweddar lyfrgellydd Prifysgol Lerpwl. Derbynir ei drefn ef ar y tylwyth yn yr ysgrif bresennol
  • WOODING, DAVID LEWIS (1828 - 1891), achydd, hanesydd, llyfrgarwr a siopwr Ganwyd 13 Rhagfyr 1828 ym mwthyn Pen-y-bont, Llanfihangel Abergwesyn, Brycheiniog, yn fab hynaf Benjamin Wooding (bu farw 1861), Beulah ger Llanfair-ym-Muallt, Brycheiniog, siopwr a ffermwr, a'i wraig Susannah (ganwyd Davies). Mynychodd ysgol capel Beulah, 1834-36, yna preswyliodd flwyddyn (1837-38) yn ysgol fechan Thomas Price, ' Twm Corc ', Cefnllanddewi, cyn mynd i academi William Davies yn
  • WOOLLER, WILFRED (1912 - 1997), cricedwr a chwaraewr rygbi Ganwyd Wilfred Wooller yn Wentworth, Church Road, Llandrillo yn Rhos, sir Ddinbych, ar 20 Tachwedd 1912, yn fab i Wilfred Wooller, adeiladwr a chontractiwr, a'i wraig Ethel (ganwyd Johnson, bu farw 1924). Addysgwyd ef yn Ysgol Ramadeg John Bright, Llandudno ac Ysgol Rydal a Choleg Crist, Caergrawnt. Priododd 1) Gillian Windsor-Clive (1922-1961), Castell Sain Ffagan yn 1941, ysgarwyd yn 1946, a 2
  • WORTHINGTON, WILLIAM (1704 - 1778), clerigwr ac awdur ef yn ficer Llan-y-blodwel, Sir Amwythig; yn Nhachwedd 1731, yn ganon yn eglwys gadeiriol Llanelwy; yn rheithor Darowen, Gorffennaf 1737 hyd 1751; yr Hôb, Sir y Fflint, 1751-74; Llanfor, ger y Bala, 1774 (y tri hyn heb ofal y plwyf). Bu'n ficer Llanrhaeadr-ym-Mochnant o 1745 hyd ei farw, ac yn brebendari Meifod yn eglwys gadeiriol Llanelwy o 1773. O 1762 ymlaen yr oedd hefyd yn brebendari yn eglwys
  • WOTTON, WILLIAM (1666 - 1727), clerigwr ac ysgolhaig . Cyfarfu yn 1680 â'r esgob William Lloyd o Lanelwy, ac bu wrthi'n trefnu llyfrgell plas yr esgob yn Llanelwy; o 1691 hyd ei farwolaeth, daliai reithoraeth segurswydd Llandrillo yn Rhos (ei fywoliaeth breswyl oedd Middleton Keynes gerllaw Bletchley, Bucks). Yn 1714, yn herwydd anawsterau ariannol, daeth i fwrw rhai blynyddoedd yng Nghymru, ac yn ystod ei arhosiad dysgodd Gymraeg - traddododd y bregeth