Canlyniadau chwilio

469 - 480 of 3960 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

469 - 480 of 3960 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

  • DAVIES, JOHN (1772 - 1855), cenhadwr ac athro ysgol Bu'n genhadwr o dan Gymdeithas Genhadol Llundain yn Ynysoedd Môr y Deau am 54 mlynedd, ac athro ysgol o dan Thomas Charles o'r Bala yn Llanwyddelan yn 1800; ganwyd 11 Gorffennaf 1772 yn fferm fechan Pendugwm, ym mhlwyf Llanfihangel-yng-Ngwynfa, Sir Drefaldwyn. Mab i wehydd ydoedd, ac wedi bod am ychydig addysg yn ysgolion Madam Bevan, bu'n cadw ysgol ei hun yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant. Ymaelododd
  • DAVIES, JOHN (Peirianydd Gwynedd; 1783 - 1855), peiriannydd, saer, gof, gwneuthurwr clociau, bardd a cherddor Ganwyd 1783 yn Hafod-y-foel, Llanbryn-mair, brawd i'r Parch. Evan Davies ' Eta Delta'). Yn 1820 ymsefydlodd yn y Ddol-goch, Talerddig, yn yr un plwyf, gan ddatblygu busnes gwneuthurwr peiriannau ffatrïoedd gwlân. Cynhyrchai beiriannau chwalu, cribo a nyddu i ffatrïoedd ym mhob sir yng Nghymru : ar un adeg sefydlasai ganghenau o'i fusnes yn Nolgellau a Chaerfyrddin. Bu ei fab, Robert, yn cyd
  • DAVIES, JOHN (1882 - 1937), ysgrifennydd rhanbarth de Cymru o Gymdeithas Addysg y Gweithwyr Ganwyd 5 Mai 1882, ym Mryn-bedd, Blaenpennal, Ceredigion, yn fab William a Jane Davies. Symudodd y teulu yn 1883 i Gwm Rhondda, a lladdwyd y tad yn nhanchwa pwll y Maerdy, 1885. Dychwelodd y fam a'i phlant i Geredigion, ac yn Llangeitho y magwyd John a'i frawd, Dan. Adweinid ef fel ' John Mardy ' gan ei gyfoedion. Daeth yn drwm dan ddylwanwad traddodiad crefyddol yr ardal. Addysgwyd ef yn ysgol
  • DAVIES, JOHN (John Davies, Taihirion; 1825 - 1904), gweinidog Annibynnol Ganwyd yn Nhreforus, Sir Forgannwg. Ordeiniwyd ef yn 1851 yn weinidog ar eglwysi Taihirion a'r Efail Isaf, Sir Forgannwg. Sefydlodd achos newydd yn y Bronllwyn yn 1858. Rhoddodd fugeiliaeth Taihirion i fyny yn 1893 ac eiddo'r Bronllwyn yn fuan wedyn. Bu farw 16 Medi 1904. Bu'n weinidog yr Efail Isaf hyd ddiwedd ei oes a chladdwyd ef ym mynwent y Tabernacl, Efail Isaf. Er bod John Davies yn ŵr
  • DAVIES, JOHN (1781 - 1848) Fronheulog,, un o arweinwyr lleyg amlycaf y Methodistiaid Calfinaidd yn ei ddydd Yr hynaf o chwe phlentyn GABRIEL DAVIES (1757 - 1828) Brodor o Glocaenog, sir Ddinbych, ond daeth i'r Bala, c. 1775-80, fel cyfrwywr. Yna bu'n ddilledydd a groser, ac, yn olaf, datblygodd ar raddfa eang fel cyfanwerthwr hosanau. Yr oedd y Bala yr adeg honno yn ganolfan bwysig i'r fasnach mewn hosanau a weid yn yr ardaloedd oddi amgylch. Allforiai Davies yr hosanau hyn o'r Bermo, gan eu danfon mor
  • DAVIES, JOHN (1843 - 1917), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, a hynafiaethydd Y Parch. Rees Davies (1804 - 1891), a anwyd yn Ysgubor Fawr, Myddfai, Sir Gaerfyrddin, oedd ei dad; yr oedd y Parch. Jeffrey Davies, Llangammarch, yn ewythr iddo. Bu John Davies yn ysgol Morgan Jones ym Myddfai, ac yn Ysgol Frutanaidd Cefnarthen. Dechreuodd bregethu yn 19 oed yn eglwys y Babell, cylchdaith Beilidu, sir Frycheiniog. Aeth am flwyddyn i ysgol yn Aberhonddu, ac yna i ysgol ramadeg ym
  • DAVIES, JOHN (1795 - 1861), offeiriad ac athronydd ,' Durham. Yn 1853 fe'i gwnaethpwyd yn ganon mygedol Durham. Ymddiswyddodd yn 1860 a bu farw 21 Hydref 1861 yn Ilkeley Wells, sir Gaerefrog. Ysgrifennodd yn helaeth. Ymysg ei gyhoeddiadau y mae (a) Essay on the Old and New Testaments, 1843, (b) The Ordinances of Religion, (c) First Impressions - a description of Swiss and French scenery, (d) The Cultivation of the Mind, a (e) ei waith mwyaf a phwysicaf
  • DAVIES, JOHN (1860 - 1939), llyfryddwr ac achyddwr Cymreig Ganwyd 7 Awst 1860 yn Llundain-fach, Llandysul, Sir Aberteifi, mab John William a Mary Davies. Addysgwyd ef yn ysgol genedlaethol Capel Dewi ac yn ysgol Eilir, Llandysul. Bu'n gweithio ar fferm yn yr ardal ac yna fel glowr yn y Maerdy, Rhondda. Wedi dioddef effeithiau nwy yn nhanchwa 1889 ymsefydlodd fel masnachwr esgidiau a chlocsiau yn Llanbedr-Pont-Steffan. Oherwydd ei ddiddordeb dwfn mewn
  • DAVIES, JOHN (1938 - 2015), hanesydd Ganwyd John Davies ar 25 Ebrill 1938 yn Ysbyty Llwynypia, Sir Forgannwg, yn fab i Daniel Davies (m. 1950), saer coed, a'i wraig Mary (g. Potter), athrawes, o Heol Dumfries, Treorci. Bu farw ei dad-cu, William Davies, yn Nhanchwa Maerdy yn 1885 ac roedd ei gysylltiad teuluol â Chwm Rhondda a'i ddiwylliant glofaol yn gyfan gwbl allweddol i'w weledigaeth o Gymru a'r byd. Enwyd John ar ôl brawd ei
  • DAVIES, JOHN (c. 1567 - 1644), un o ysgolheigion mwyaf Cymru . Rywbryd tua 1609 priododd Siân Prys o'r Llwyn Ynn ym mhlwyf Llanfair Dyffryn Clwyd, wyres o du ei mam i'r barwn Lewis Owen o Ddolgellau, a chwaer i wraig yr esgob Richard Parry, olynydd William Morgan yn Llanelwy. Ddechrau 1614 cafodd reithoriaeth Llanymawddwy gerllaw Mallwyd a segurswydd Darowen yn Sir Drefaldwyn, ond rhoddodd yr olaf i fyny yn 1621 pan gafodd segurswydd Llanfor ym Mhenllyn. Yn 1617
  • DAVIES, JOHN (1750 - 1821), offeiriad Methodistaidd Griffith Williams, tt. 457-61) yr oedd yn gurad Cynwyl yn 1774.] Ymunodd wedyn â'r Methodistiaid a bu'n pregethu yn eu plith dros Gymru oll. Codwyd capel Bancyfelin iddo yn 1788 a bu'n gweinyddu'r Cymun yno hyd 1811. Dywedir iddo gefnu ar y Methodistiaid y pryd hynny, ond tystiolaeth yr arysgrif ar ei feddfaen yn Llanddowror yw ei fod yn 'Minister of the Gospel at Bank-y-felin upwards of 36 years
  • DAVIES, JOHN BREESE (1893 - 1940), llenor, cerddor ac arbenigwr ym maes cerdd dant . Edrychid arno ef a J. E. Jones fel cymwynaswyr pennaf eu dydd yn y maes hwn. Yr oedd yn un o sefydlwyr Cymdeithas Cerdd Dant ac yn olygydd ei chylchgrawn, Allwedd y tannau, o'r rhifyn cyntaf hyd 1940. Fel y gellid disgwyl, yr oedd yn amlwg ym mywyd ei fro - yn aelod o gyngor sir Feirionnydd, yn un o noddwyr pennaf addysg y sir - addysg ysgol ac addysg pobl mewn oed, yn gadeirydd llywodraethwyr ysgol