Canlyniadau chwilio

445 - 456 of 3960 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

445 - 456 of 3960 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

  • DAVIES, HUGH EMYR (1878 - 1950), gweinidog (MC) a bardd Ganwyd 31 Mai 1878 ym Mrynllaeth, Aber-erch, Sir Gaernarfon, mab Tudwal ac Annie Davies. Addysgwyd ef yn ysgol sir Pwllheli, ysgol Clynnog, Coleg y Brifysgol, Aberystwyth a Choleg y Bala. Ordeiniwyd ef yn 1909, a bu'n gweinidogaethu yn Llanddona, Môn (1920-29). Priododd, 1910, Sidney Hughes o'r Bala, a bu iddynt un ferch. Ar ôl ymddeol bu'n byw yng Nghaergybi ac ym Mhorthaethwy. Bu farw 21
  • DAVIES, HUGH MORRISTON (1879 - 1965), arloeswr amlycaf llawfeddygaeth y thoracs ym Mhrydain Ganwyd 10 Awst 1879 yn fab i Dr. William Davies, brodor o Abertawe, a oedd yn feddyg teulu yn Huntingdon. Addysgwyd ef yn Ysgol Caerwynt; Coleg y Drindod, Caergrawnt; ac yn Ysbyty Coleg y Brifysgol, Llundain. Ar ôl ennill rhai o'r gwobrau mwyaf clodforus graddiodd yn 1903. Sicrhaodd y graddau uwch o M.Ch. ac M.D. yng Nghaergrawnt yn 1907, a dilynwyd hyn gan F.R.C.S. yn 1908, a'r flwyddyn ganlynol
  • DAVIES, HUGH THOMAS (1881 - 1969), cerddor, llenor, ac un o arloeswyr Cymdeithas Cerdd Dant Cymru Ganwyd 5 Ebrill 1881 yn y Felin Uchaf, Glanconwy, Sir Ddinbych, yn fab i Richard Davies a'i briod Eunice (ganwyd Williams). Priododd, 4 Medi 1909, â Margaret, merch Griffith R. Jones, gweinidog (B) Ffordd Las, Glanconwy, a ganwyd iddynt bump o blant, pob un yn ymddiddori yn y 'pethe'. Wedi byw am gyfnod yn Lerpwl ac yna yng Nglanconwy yn ei swydd fel tirfesurydd Conwy, symudodd H.T. Davies yn
  • DAVIES, HUGH TUDWAL (1847 - 1915), amaethwr a bardd Ganwyd yn Mynachdy, Clynnog, Sir Gaernarfon; nai i Robert Hughes, Uwchlaw'r Ffynnon. Pan oedd tua 18 oed symudodd gyda'i deulu i fferm yr Orsedd Fawr, Llangybi; yn 1872 gwnaeth ei gartref yn Brynllaeth, Llŷn. Priododd ferch i John Hughes, capten llong, Gellidara. Enillodd fel bardd yn eisteddfodau Pwllheli 1875, Caernarfon 1880, a Chaernarfon 1894. Canodd lu o englynion a rhai cywyddau. Treuliodd
  • DAVIES, HUMFFREY (fl. 1600?-64?), bardd Fe'i disgrifir weithiau yn glochydd ac weithiau'n glerc y plwyf, sef clerc yr eglwys. Un o'r straeon mwyaf adnabyddus amdano yw honno am Wiliam Phylip, yn canu ei 'Cywydd y Bedd' ar ôl ymweld â bedd Wmffre Dafydd ab Ifan; y mae'n bosibl, fodd bynnag, i'r bardd o Lanbrynmair oroesi'r bardd o Ardudwy, a fu farw yn 1669. Yn ei Montgomeryshire worthies, y mae Richard Williams yn dyfynnu'r cofnod hwn
  • DAVIES, HYWEL (1919 - 1965), darlledwr teledu. Yn 1959 enillodd ef a'r cynhyrchydd, David J. Thomas, y wobr gyntaf am eu rhaglen ' Out of this World ' mewn cystadleuaeth ryngwladol ym Monte Carlo. Eto, yn 1962, ef oedd holwr y rhaglen ' It happened to me ' a oedd yn llwyddiannus yn ei hadran yn yr un gystadleuaeth. Clodforwyd ef am ei delediadau o Eisteddfod Ryngwladol Llangollen ac enillodd gymeradwyaeth ac edmygedd gwylwyr ym mhob rhan
  • DAVIES, IDRIS (1905 - 1953), glöwr, ysgolfeistr a bardd Eingl-Gymreig -waith a threuliodd y pedair blynedd nesaf wrth yr hyn a alwai 'the long and lonely self-tuition game'. Yna aeth i goleg hyfforddi Loughborough a Phrifysgol Nottingham fel darpar athro, ac wyth mlynedd yn ddiweddarach enillodd ddiploma Prifysgol Llundain mewn hanes. Rhwng 1932 a 1947 bu'n dysgu yn ysgolion cyngor sir Llundain ac mewn ysgolion a oedd wedi gadael Llundain adeg y rhyfel i Pytchley Swydd
  • DAVIES, IFOR (1910 - 1982), gwleidydd Llafur . Roedd Davies yn aelod o'r Blaid Gydweithredol, Cymdeithas y Ffabiaid, pwyllgor gwaith De Cymru o Fudiad Addysg y Gweithwyr, 1950-60, Cyngor Bwrdeistref Abertawe a chyngor Sir Forgannwg, 1958-61. Penodwyd ef yn gadeirydd cyngor Coleg Prifysgol Abertawe ym 1969 ac roedd hefyd yn aelod o Fwrdd Ymddiriedolaeth Ddinesig Cymru ers 1972. Roedd yn ogystal yn chwip yr wrthblaid, 1961-64, yn Arglwydd
  • DAVIES, JACOB (1816 - 1849) Ceylon, cenhadwr gyda'r Bedyddwyr Ganwyd yn Cefn-mawr, ger y Drefnewydd, Sir Drefaldwyn, 22 Chwefror 1816. Ymunodd â'r Bedyddwyr, gan dderbyn bedydd trochiad, yn Ebrill 1835. Dechreuodd bregethu yn 1837, a phasiodd yn 1840 i Goleg y Bedyddwyr, Bradford. Ar derfyn ei gwrs fe'i cynigiodd ei hun i'r gwaith cenhadol. Yn 1844 neilltuwyd ef i lafurio yn Ceylon, a chyrhaeddodd yno ym mis Medi 1844. Gwnaeth enw iddo'i hun fel ieithydd
  • DAVIES, JAMES (Iago ap Dewi; 1800 - 1869), argraffydd a bardd Ganwyd gerllaw Pencader, Sir Gaerfyrddin. Ni chafodd ddim manteision addysgol pan yn ieuanc, a bu'n gweithio ar ffermydd. Ymunodd ag eglwys yr Annibynwyr ym Mhencader. Pan oedd tuag 20 mlwydd oed peidiodd â gweithio ar ffermydd ac aeth i Gaerfyrddin yn brentis argraffydd gyda John Evans, argraffydd, swyddfa Seren Gomer. Yno cyfarfu â rhai o anianawd gyffelyb i'r eiddo ei hun - e.e. W. E. Jones
  • DAVIES, JAMES (Iaco ab Dewi; 1648 - 1722), cyfieithydd, copïwr a chasglwr llawysgrifau ganolfannau pwysig yn ei ardal ef ei hun, fel llyfrgell William Lewes o'r Llwynderw. Cafwyd cylch o gopïwyr yn Sir Gaerfyrddin yn ddiweddarach, oll o dan ddylanwad 'Iaco ab Dewi' - William Bona o Lanpumpsaint; David Richards, curad Llanegwad; a Ben Simon o Abergwili. Aeth rhai o'i lawysgrifau i feddiant Siôn Rhydderch ac, ar ei ôl ef, i Lewis Morris. Dylid pwysleisio ei dymer feirniadol pan oedd yn llunio'r
  • DAVIES, JAMES (bu farw 1760), gweinidog gyda'r Annibynwyr Roger Williams, Armin, a breswyliai yng Nghefn Arthen ac a oedd yn ei swydd er 1698; ar ei farwolaeth ef (1730) darfu'r cyswllt rhwng y ddwy gynulleidfa, ond nid y gwahaniaethau diwinyddol oddi mewn i'r naill na'r llall. Yr oedd James Davies nid yn unig yn Galfin ond hefyd yn perthyn i'r adran 'genhadol' o'r Ymneilltuwyr. Teithiai'n ddyfal i bregethu ym Mlaenau Morgannwg a Gwent (Edmund Jones, History