Canlyniadau chwilio

541 - 552 of 3960 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

541 - 552 of 3960 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

  • DAVIES, THOMAS (1512? - 1573), esgob Llanelwy Mab Dafydd ap Robert o Gaerhun, ac yn disgyn, trwy Syr Gruffydd Llwyd, arglwydd Dinorwig, o Ednyfed Fychan. Rhoddir blwyddyn ei eni yn 1512 (Strype, Ann., I, i, 371), yn 1515 (Griffith, Pedigrees), ac yn 1537 (Browne Willis, A Survey of the Cathedral-Church of St. Asaph, arg. 1801, i, 104) - y cyntaf sy'n fwyaf tebygol; y mae'r olaf yn amhosibl. Yn gynnar ar ôl graddio yn Rhydychen dechreuodd
  • DAVIES, THOMAS ESSILE (Dewi Wyn o Essyllt; 1820 - 1891) Ganwyd 20 Mehefin 1820 yn Ninas Powys, Sir Forgannwg, yn fab i William (ac nid ' Edward,' yr enw a roir yn nodiad coffaol 'Watcyn Wyn' yn rhifyn Gŵyl Dewi Y Geninen 1891) ac Elizabeth David. Melinydd oedd William David ac yn 'Y Felin' yr oedd yn byw; 'miller and farmer' meddai'r newyddiaduron adeg marw'r mab enwog; ond gelwir ef yn 'labourer' yng nghofnod bedyddio ei blentyn yng nghofrestr plwyf
  • DAVIES, THOMAS HUWS (1882 - 1940), ysgrifennydd comisiynwyr eiddo'r Eglwys yng Nghymru, llenor, a chasglydd llyfrau Ganwyd ym Mhenuwch, Sir Aberteifi, 20 Ebrill 1882, a dygwyd ef i fyny gan ei nain, gwraig o gymeriad uchel. O ysgol elfennol Penuwch aeth i ysgol sir Tregaron, gyda chymorth cymdogion caredig; oddi yno enillodd ysgoloriaeth i Goleg y Brifysgol, Aberystwyth, lle y bu'n astudio cemeg a mathemateg. Bu â'i fryd ar y weinidogaeth a bu'n pregethu gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, eithr heb ei ordeinio
  • DAVIES, THOMAS RHYS (1790 - 1859), gweinidog y Bedyddwyr briodas hon roddi benthyciadau arian i'r llu eglwysi bychain a sefydlwyd ganddo i godi capelau yng ngorllewin Dinbych a Sir y Fflint. Bu ffrwgwd rhyngddo ag eglwys Glanwydden ynglŷn ag eiddo, ac ymadawodd yntau â'r Bedyddwyr yn 1818 ac ymuno â'r Wesleaid, ond dychwelodd at ei hen enwad yn 1826. Bu yng Nglynceiriog (1827-9), yn Lerpwl yn Heol Stanhope a chodi capel yno (1829-35), ac yng Nghilgeran (1835
  • DAVIES, THOMAS WITTON (1851 - 1923), Hebreigydd ac ysgolhaig Semitaidd Ganwyd 28 Chwefror 1851, yn Nant-y-glo, sir Fynwy, o rieni anllythrennog ond duwiol. Symudodd y teulu i Witton Park, swydd Durham, ac yno, yn yr ysgol-bob-dydd, y derbyniodd ef yr unig addysg a gafodd hyd nes troi ohono ei 21 oed. Yn 1872 derbyniwyd ef i Goleg y Bedyddwyr, Pontypwl, ac ar wahan i gyrsiau arferol y coleg myfyriodd yn ddiwyd yng ngweithiau Thomas Carlyle a Samuel Taylor Coleridge
  • DAVIES, TIMOTHY (1802 - 1862), offeiriad a phregethwr Ganwyd 1802, mab D. Davies, curad Llanddeusant, Sir Gaerfyrddin. Cafodd ei addysg yn ysgol ramadeg Caerfyrddin o dan Hancock a D. A. Williams, canghellor Tyddewi wedi hynny. (Yr oedd ysgol ramadeg Caerfyrddin yn un o'r pedair ysgol ramadeg yn esgobaeth Tyddewi a drwyddedwyd gan yr esgob Burgess i addysgu rhai'n mynd am urddau eglwysig heb fedru mynd i brifysgol). Fe'i hordeiniwyd yn 1825 yn gurad
  • DAVIES, TIMOTHY EYNON (1854 - 1935), gweinidog gyda'r Annibynwyr Ganwyd yn Aberteifi, 1854, brawd J. Ossian Davies. Aeth i'r Coleg Coffa, Aberhonddu, Mehefin 1877. Bu'n gweinidogaethu yn Bethel, Cwmaman, a'r Christian Temple, Glanaman, am bedair blynedd, cyn symud i eglwys (Saesneg) y Countess of Huntingdon, Abertawe. Aeth i Lundain (East Finchley a Finsbury Park), i Elgin Place, Glasgow, Beckenham, a Wood Green, gan ymddiswyddo o'r lle olaf yn 1916
  • DAVIES, TOM EIRUG (Eirug; 1892 - 1951), gweinidog (A), llenor a bardd Ganwyd yn ffermdy Troed-y-rhiw, Gwernogle, Sir Gaerfyrddin, 23 Chwefror 1892, unig fab John a Mary Davies. Bu'n gweithio ar y fferm hyd nes yr oedd yn 18 oed, ac yna cymhellwyd ef i bregethu. Cafodd ei addysg yn ysgol gynradd Gwernogle, ysgol baratoi Tremle, Pencader, 1910-12, Coleg y Brifysgol a Choleg (A) Bala-Bangor, ym Mangor 1912-19. Graddiodd yn B.A. (anrhydedd athroniaeth) a B.D
  • DAVIES, TREVOR OWEN (1895 - 1966), gweinidog (MC) a phrifathro Coleg Trefeca Ganwyd 20 Tachwedd 1895 yng Nghae Adda, Llanwrin, Trefaldwyn, mab Owen Gruffydd Owen a Mary Winifred Davies, Cae Adda. Yr oedd ei dad yn frawd i Richard Owen, Mynydd Ednyfed (tad ' Dame ' Margaret LLOYD GEORGE). Addysgwyd ef yn ysgol y pentref, ysgol sir Machynlleth, Coleg y Brifysgol, Aberystwyth (lle graddiodd yn y clasuron) a Choleg Eglwys Crist, Rhydychen (lle graddiodd gydag anrhydedd mewn
  • DAVIES, TUDOR (1892 - 1958), datganwr . Portreadodd Rudolfo gyda'r cwmni yn Llundain yn 1922, ac yn 1924 ef a ganai ran y prif gymeriad yn y perfformiad cyhoeddus cyntaf o Hugh the drover (Vaughan Williams) yn His Majesty's Theatre. Bu hefyd yn brif denor yn Sadler's Wells, 1931-41, a chyda chwmni opera Carl Rosa, 1941-6, ac fel aelod parhaol o'r cwmni yn Sadler's Wells ef a brotreadai'r prif gymeriad yn y perfformiad Saesneg cyntaf o Don Carlos
  • DAVIES, WALTER (Gwallter Mechain; 1761 - 1849), offeiriad, bardd, hynafiaethydd, a beirniad Ganwyd 15 Gorffennaf 1761 yn y Wern, yn agos i Domen y Castell, Llanfechain, Sir Drefaldwyn. Hawliai berthynas ar ochr ei dad, William Davies, â theuluoedd urddasol Nant-yr-erw-haidd yn Edeirnion a Chyffiniaid Trebrys. Wedi gadael ysgol y pentre'n 12 oed dysgodd grefft cowper, a daeth yn feistr ar wneud 'picyn.' Ymunodd yn fore â'r frawdoliaeth farddol, a rhoes yr eisteddfod gyfle iddo gystadlu
  • DAVIES, WILFRED MITFORD (1895 - 1966), arlunydd Ganwyd 23 Chwefror 1895, ym Mhorthaethwy, Môn, ail fab Robert ac Elizabeth Davies. Symudodd y teulu yn fuan i'r Star, rhwng Llanfair-pwll a'r Gaerwen, ac yno y'i magwyd. Cafodd ei addysg gynnar yn ysgol elfennol Llanfair-pwll ac ysgol y sir, Llangefni. Rhoddodd ei fryd ar fod yn bensaer, ond dryswyd ei obeithion gan y Rhyfel Byd I. Wedi gadael y fyddin, aeth i ysgol gelfyddyd Lerpwl am bedair