Canlyniadau chwilio

529 - 540 of 3960 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

529 - 540 of 3960 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

  • DAVIES, ROBERT (1790 - 1841), blaenor Methodist Humphreys, Llandyfaelog, Sir Gaerfyrddin, a gorŵyres y Parch. Peter Williams, a threuliodd weddill ei oes yn y Cwrt Mawr, Llangeitho. Gwnaethpwyd ef yn ynad heddwch dros Sir Aberteifi yn 1870, ac yn drysorydd cymanfa gyffredinol y Methodistiaid Calfinaidd yn 1873. Rhoddodd lawer o'i amser at wasanaeth ei gyfundeb. Bu farw 6 Mai 1892, a'i gladdu yn Llangeitho. O'i blant, priododd yr hynaf, SARA MARIA (1864
  • DAVIES, ROBERT (Cyndeyrn; 1814 - 1867), cerddor Ganwyd 16 Mehefin 1814 mewn amaethdy o'r enw Segar, Henllan, ger Dinbych. Collodd ei fam yn 4 oed, a dygwyd ef i fyny gan ei ewythr ym Mronhaul, Henllan. Prentisiwyd ef yn baentiwr yn Llanelwy. Yn 1834 symudodd i Fangor, ac yno y daeth yn amlwg fel cerddor, ac y dewiswyd ef yn arweinydd canu yng nghapel y Wesleaid. Yn 1837 priododd Margaret, merch Owen Williams, Tros-y-canol, ger Bangor, a
  • DAVIES, ROBERT HUMPHREY (Gomerian; 1856 - 1947), gohebydd papurau Cymraeg a Saesneg yn U.D.A. Ganwyd yn 1856 yn Pen-y-gogwydd, gerllaw Dinorwig, Sir Gaernarfon, mab Humphrey R. Davies a Janet (Hughes, gynt o Lanberis). Fe'i cymerwyd i America yn blentyn gan ei rieni a bu'n byw yn Dam, ger Slatington, Pa., nes oedd yn 16 oed pryd y symudodd i Pittsburgh, Pa., lle y prentisiwyd ef yn gysodydd yn swyddfa Y Wasg. Ac eithrio 15 mis yn Efrog Newydd ac Utica, yn Pittsburgh y treuliodd weddill ei
  • DAVIES, ROLAND (fl. c. 1730), bardd brodor o Langyniw, Sir Drefaldwyn. Ni wyddys dim am ei fywyd, ond cedwir o leiaf ddwy gân rydd o'i waith mewn llawysgrifau, sef cân serch a marwnad rhyw John Evans o'r un lle.
  • DAVIES, (FLORENCE) ROSE (1882 - 1958), actifydd y Blaid Lafur a henadur lleol Ganed hi yn 43 Cardiff Street, Aberdâr o fewn Cwm Cynon ar 16 Medi 1882, yn ferch i William Henry Rees, gweithiwr alcam lleol, a'i wraig Fanny (gynt Berry). Roedd yn un o saith o blant, a daeth chwech ohonynt yn athrawon yn eu tro. Yn y flwyddyn 1896 daeth Rose Davies yn fonitor yn Ysgol Genedlaethol Tref Aberdâr, ysgol gynradd, ac yna bwriodd ei phrentisiaeth fel disgybl-athrawes yno, gan ddod
  • DAVIES, SAMUEL (1788 - 1854), gweinidog gyda'r Methodistiaid Wesleaidd Cyfeirir ato fel ' Samuel Davies y Cyntaf.' Ganwyd Mehefin 1788 ym Maes-y-groes, plwyf Cilcain, Sir y Fflint. Daeth at grefydd pan oedd yn 13 oed ac ymunodd â'r Methodistiaid Wesleaidd ym Maeshafn, gerllaw yr Wyddgrug. Ym mis Ionawr 1807 danfonwyd ef gan Owen Davies i Sir Aberteifi yn bregethwr teithiol, ac am y 39 mlynedd nesaf bu'n 'trafaelio' mewn gwahanol gylchdeithiau yng Nghymru a hefyd yn
  • DAVIES, STEPHEN (1790 - 1858), bardd O Ddyserth, a adnabyddid hefyd wrth yr enw 'Stephan'; ganwyd ym Mhrestatyn, Sir y Fflint, 8 Tachwedd 1790. Symudodd ei rieni i fyw i'r Dyserth tra yr oedd ef eto'n ieuanc. Yn 1822 priododd Catherine Price o Moelfra, ger Abergele, yr hon a fu farw yn 1835. Mae ei farwnad ar farwolaeth ei wraig yn gyfansoddiad teimladwy a thyner. Cyhoeddwyd llawer o'i gynhyrchion mewn cylchgronau Cymreig, ac y mae
  • DAVIES, STEPHEN OWEN (1886? - 1972), arweinwyr y glowyr a gwleidydd Llafur 1919 ymbriododd S. O. Davies â Margaret Eley (fe'i hadweinid fel Madge ar adegau), merch o Gaerdydd. Bu iddynt dair o ferched. Bu hithau farw o gancr ym 1932. Ddwy flynedd yn ddiweddarach ailbriododd â Sephora Davies, merch o Wauncaegurwen, Sir Gaerfyrddin, ac athrawes. Bu iddynt hwy ddau fab. Roedd y briodas yn berthynas hapus gyda'r ddau yn gefnogol i'w gilydd. Eu cartref oedd Gwynfryn Park Terrace
  • DAVIES, THOMAS (1837 - 1892), arbenigwr mewn mwnofyddiaeth a mab William Davies, palaeontolegwr; ganwyd yn St Pancras, Llundain, 29 Rhagfyr 1837. Ar ôl treulio peth amser ar y môr aeth Davies yn gynorthwywr yn adran y mwnau yn yr Amgueddfa Brydeinig, 1858; o dan yr athro M. H. N. Story-Maskelyne daeth yn arbenigwr mewn mwnofyddiaeth, ac yr oedd yn arloesydd astudio creigiau gyda chymorth y chwyddwydr. Yn union yr un fath â'i dad ymddiddorai fwy yn ei
  • DAVIES, THOMAS (1812 - 1895), gweinidog Bedyddwyr a phrifathro coleg yr enwad yn Hwlffordd anogwyd ef gan ei weinidog Evan Jones ('Gwrwst') i ddechrau pregethu. Wedi blwyddyn o hyfforddiant yng Nghaerdydd gan William Jones, gweinidog eglwys Saesneg Bethany, aeth i Goleg y Bedyddwyr, Bryste, yn 1832, ac ar ben ei gwrs, yn 1836, derbyniodd alwad i eglwys Saesneg Merthyr. Bu'n cadw ysgol yno hefyd a daeth yn ŵr amlwg ym mywyd y dref. Yn 1856 etholwyd ef yn brifathro Coleg y Bedyddwyr yn
  • DAVIES, THOMAS (fl. 1700), bardd Disgrifir ef fel Thomas Davies o Sir Drefaldwyn ond ni wyddys dim mwy amdano. Ceir cerddi o'i waith yng nghasgliadau'r 18fed ganrif. Y mae copiau o'i gerdd fwyaf adnabyddus, ' Histori dduwiol sef Cerdd y Crys Gwaedlyd ar "loath to depart",' yn NLW MS 700A, t.16, ac yn Cwrtmawr MS 222D (22b).
  • DAVIES, THOMAS (Trithyd; 1810? - 1873?) Ganwyd yn sir Gaerfyrddin tua 1810. Yn ieuanc symudodd i fyw i ardal Llantrithyd ym Mro Morgannwg, ac yno y treuliodd ran fawr o'i oes fel amaethwr. Tra yno astudiodd gerddoriaeth, a daeth yn gerddor lled dda. Gwnaeth wasanaeth mawr trwy fynd o gwmpas y cymdogaethau cylchynnol i ddysgu canu. Tua 1853 symudodd i Gwmafon, Morgannwg, a pharhaodd i lafurio dros gerddoriaeth. Cyfansoddodd amryw donau