Canlyniadau chwilio

505 - 516 of 3960 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

505 - 516 of 3960 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

  • DAVIES, MATTHEW WILLIAM (1882 - 1947), cerddor
  • DAVIES, MORGAN (bu farw 1857), clochydd Llanelltyd, sir Feirionnydd, a bardd Ceir llawer o'i waith, yn englynion gan mwyaf, yn NLW MS 672D - efallai wedi eu hysgrifennu yn y gyfrol honno ganddo ef ei hun; gweler Cylchgrawn Cymdeithas Hanes Sir Feirionydd, i. Bardd cefn gwlad ydoedd a diddordeb ei waith yn gyfyngedig, felly, i'r hyn a ddywed am ddigwyddiadau a phersonau yn ei ran ef o Sir Feirionnydd yn hanner cyntaf y 19eg ganrif Gwelir 'anerch barddonol' ganddo yn
  • DAVIES, MORRIS (1796 - 1876), llenor, awdurdod ar emynyddiaeth, a cherddor Ganwyd Hydref 1796 (bedyddiwyd 19 Hydref) ym Mhennant-igi (' Pennant Igillt,' yn ôl cofnod yn 1761) Uchaf, Mallwyd, yn fab i dyddynnwr â'i dras o Ffestiniog. Cafodd ei addysg gyntaf mewn ysgolion ysbeidiol yn Ninas Mawddwy a Mallwyd, ac yn yr ysgol Sul. Ni hoffai waith y fferm, ac yn 1819 (gan fwriadu mynd yn ysgolfeistr) aeth i ysgol William Owen ('Gwilym Glan Hafren'), yn y Trallwng, am chwe
  • DAVIES, MORRIS (1891 - 1961), chwarelwr, hanesydd lleol a chwilotwr Ganwyd 24 Mehefin 1891 yn ffermdy Plas Capten, Trawsfynydd, Meirionnydd, yn fab i William Davies a'i wraig Ruth (ganwyd Humphreys). Addysgwyd ef yn ysgol fwrdd Trawsfynydd (yr oedd Hedd Wyn yn gyfaill iddo yno), ond fel llawer o'i gyfoedion bu'n rhaid iddo ymadael â'r ysgol yn gynnar i weithio gartref ar y fferm. Gwasanaethodd gyda'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig ym Mhalesteina a Ffrainc yn Rhyfel
  • DAVIES, MOSES (1799 - 1866), cerddor Ganwyd yn Defynnog, sir Frycheiniog, yn 1799, ond symudodd ei rieni i Ferthyr yn 1803. Meddai lais da, ac astudiodd gerddoriaeth, a thrwy ei hunan-ddiwylliant daeth yn gerddor da, a chynhaliai ddosbarthiadau cerddorol. Yn 1827 penodwyd ef yn arweinydd canu capel Methodistiaid Calfinaidd Pontmorlais. Ef oedd un o arloeswyr cyntaf canu cynulleidfaol Merthyr a'r cylch, ac ef oedd y cyntaf i osod y
  • DAVIES, MYLES (1662 - 1715?), dadleuydd crefyddol a llyfryddwr Mab George ac Elizabeth Davies, Tre'r Abbot, ym mhlwyf Whitford, Sir y Fflint. Hyfforddwyd ef yng Ngholeg Saesneg y Jesiwitiaid, Rhufain, lle'r urddwyd ef yn offeiriad 17 Ebrill 1688. Gadawodd y coleg 15 Hydref yr un flwyddyn, a dychwelodd adref i weithio gyda chenhadon y Jesiwitiaid yng Nghymru a siroedd y goror. Ond yn fuan troes at Brotestaniaeth, ac ysgrifennodd 'apologia' o'i droedigaeth yn
  • DAVIES, NOËLLE (1899 - 1983), llenor, addysgydd ac ymgyrchydd gwleidyddol in close touch with reality.' Arwydd o barch Lewis tuag ati yw'r ffaith iddo gael ei enwebu ganddi - ynghyd â'r Athro T. H. Parry-Williams - yn ei ymgais am sedd Prifysgol Cymru mewn etholiad seneddol yn 1931. Arweiniodd Noëlle a D. J. Davies ymgyrch hir y Blaid i gadw sir Fynwy'n rhan o Gymru, gan gyd-gyhoeddi Is Monmouthshire In Wales? yn 1943. Un peth pwysig a'u galluogodd i gynhyrchu swmp mor
  • DAVIES, OLIVER (fl. tua 1820), telynor meeting of the Royal Cambrian Institution, on the 22 May next (1822), and played by a young musician of the name of Davies, who promises to become a first rate performer.'
  • DAVIES, OWEN (1840 - 1929), gweinidog gyda'r Bedyddwyr bugeilo eglwysi Holywell (1865), Llangollen (1867), a Chaernarfon (1876). Yng Nghaernarfon dilynodd Robert Ellis ('Cynddelw'). Ymneilltuodd o waith bugeilio yn 1905. Bu'n ysgrifennydd Coleg y Bedyddwyr, Bangor, 1892-5, ac yn ddarlithydd ar fugeilio a phregethu o 1895 hyd 1915. Ef oedd ysgrifennydd cyntaf Undeb Bedyddwyr Cymru; bu'n llywydd yr Undeb yn 1888. [Gweler yr erthygl ar John Rufus Williams
  • DAVIES, OWEN PICTON (1882 - 1970), newyddiadurwr Ganwyd 6 Mehefin 1882, yn ffermdy Waunffynhonnau, Trimsaran, Sir Gaerfyrddin, mab i Stephen ac Anna Davies, Tre-lech. Symudodd y teulu i blwy Cilrhedyn, i fferm Morlogws Uchaf, yn 1884, ac y mae'r bumed genhedlaeth wedi parhau i ffermio yno. O 1886 hyd 1894 addysgwyd ef yn ysgol Pen-y-waun. Arhosodd gartref i weithio ar y fferm am ddwy fl. wedyn, gan ei fod yn rhy ifanc i fynd i ysgol y dref. Yn
  • DAVIES, RACHEL (Rahel o Fôn; 1846 - 1915), pregethwr a darlithydd Ganwyd ym Môn (?), merch William Cox Paynter o blwyf Llanfihangel-y-pennant, Sir Gaernarfon, a'i wraig Jane Mary (Williams), Cae Eithin Tew, Cwmystradllyn, yn yr un sir. (Bu rhai o hynafiaid ei thad yn swyddogion tollau'r Llywodraeth ym Minffordd a Llanfrothen, Sir Feirionnydd, ac yn Porthmadog, Sir Gaernarfon). Pan oedd yn ieuanc bu'n byw yn Brynsiencyn, sir Fôn. Codwyd hi i bregethu gyda'r
  • DAVIES, RANDOLF (bu farw 1695), offeiriad a dadleuydd ar faterion crefyddol Ni wyddys ddim, hyd yn hyn, am ei eni, ei dras, ei addysg, a'i ordeinio. Fe'i dewiswyd yn ficer Meifod, Sir Drefaldwyn, 13 Ebrill 1647, gan y ' Commissioners of the Great Seal' (Piwritanaidd); ymddengys, felly, mai clerigwr Anglicanaidd a gydymffurfiasai ydoedd. Er dywedyd o rai i un Stephen Lewis gymryd ei le ym Meifod yn 1648, nid oes amheuaeth na bu iddo barhau'n ficer y plwyf hwnnw hyd yr