Canlyniadau chwilio

553 - 564 of 3960 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

553 - 564 of 3960 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

  • DAVIES, Syr WILLIAM (1863 - 1935), newyddiadurwr Ganwyd 7 Hydref 1863 yn Nhalyllychau, Sir Gaerfyrddin, yn fab i Herbert Davies. Symudodd y teulu i Lanelli, a phrentisiwyd William yn swyddfa'r papur wythnosol, y Guardian, yn y dref honno. Wedyn bu'n ohebydd yng Nghaerdydd, yn olygydd yr Evening Express ac yn olygydd cynorthwyol i Lascelles Carr ar y Western Mail cyn ei benodi'n brif olygydd pan ymddiswyddodd Carr yn 1901. Yn ei waith beunyddiol
  • DAVIES, WILLIAM (1805 - 1859), gweinidog ac athro Annibynnol lawr a dychwelodd adre. Yn 1835, cyflogwyd ef yn athro i blant tirfesurydd o'r enw Davies, yn Ffrwd-y-fâl (Llansawel); cododd Davies ysgoldy iddo, a ddaeth yn bur enwog fel cartref ysgol ragbaratoawl i ddarpar-weinidogion, ysgol a enillodd ganmoliaeth brin iawn dirprwywyr 1846 (gweler t. 227 o'r gyfrol gyntaf o'u hadroddiad). Pregethai William Davies hefyd yng nghapelau'r cylch, ac o 1841 hyd 1856
  • DAVIES, WILLIAM (1785 - 1851), gweinidog Wesleaidd a chenhadwr Ganwyd 12 Hydref 1785 ger Llandyrnog. Ymunodd â'r seiat Wesleaidd wedi clywed Edward Jones, Bathafarn, yn 1800. Yn 1805, cyn bod yn llawn 20 oed, aeth yn weinidog i Fiwmares; o 1806 hyd 1813 gweinidogaethodd yn Sir Drefaldwyn a'r De, gan sefydlu achosion newydd lawer. Aeth i Lundain yn 1814, a chyn diwedd y flwyddyn gadawodd y wlad hon i fynd yn genhadwr (y cyntaf o'r Wesleaid Cymraeg) i Sierra
  • DAVIES, WILLIAM (Gwilym Teilo; 1831 - 1892), llenor, bardd a hanesydd gyfeillgarwch Islwyn a Dewi Wyn o Esyllt. Cystadleuodd lawer mewn llên a barddas ac enillodd wobrwyon pwysig. Ei waith mwyaf yw'r traethawd ar ' Llenyddiaeth y Cymry ' a enillodd iddo'r wobr o £60 yn eisteddfod genedlaethol Caernarfon, 1862; bwriedid i'r gwaith fod yn barhad i lyfr Thomas Stephens, The Literature of the Kymry, ond nis cyhoeddwyd (y mae'r MS. yn awr yn y Llyfrgell Genedlaethol). Ysgrifennodd
  • DAVIES, WILLIAM (1874 - 1949), hanesydd lleol Ganwyd 6 Mehefin 1874, ym Mhlas Corniog, Llanegryn, Sir Feirionnydd. Cafodd afiechyd yn gynnar yn ei oes a phan oedd tua 13 oed cyfyngwyd ef i'w wely am tua 10 mlynedd. Pan ddaeth yn well prentisiwyd ef yn deiliwr yn Abermo a Llanegryn. Yn 1907 fe'i penodwyd yn glerc cyngor plwyf Llanegryn ac yn dreth-gasglydd. Yn 1921 aeth i Groesoswallt i gadw gwesty ond dychwelodd i Lanegryn yn 1928. Bu farw
  • DAVIES, WILLIAM (bu farw 1593), cenhadwr dros grefydd Eglwys Rufain a merthyr dros grefydd Eglwys Rufain. Codwyd capel coffa iddo ym Miwmares yn 1909. Ymysg ei ddisgyblion, heblaw Roger Gwynne, yr oedd William Robins, Caernarfon (a ordeiniwyd yn Valladolid, 1602), ac, efallai, Robert Edmonds o sir Ddinbych (ganwyd 1583, aeth i Valladolid yn 1603, a chredir iddo farw yn y Gatehouse yn 1615). Cyfeiria Gwilym Pue at Davies fel 'seren ei Wlad,' a dywed T. P. Ellis amdano - 'one of
  • DAVIES, WILLIAM (1899 - 1968), botanegydd ac arbenigwr mewn gwyddor tir glas Ganwyd 20 Ebrill 1899 yn Norman Road, Llundain, yn fab hynaf William a Margaret Davies, dau Gymro o wehelyth amaethyddol gogledd Ceredigion. Cafodd ei addysg yn ysgol Sloane, Llundain, ac ar ôl gwasanaethu gyda'r fyddin yn 1917-18 aeth yn fyfyriwr i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, ac ennill gradd B.Sc. yn 1923 gydag anrhydedd yn y dosbarth cyntaf mewn botaneg. Fe'i penodwyd ar staff Bridfa
  • DAVIES, WILLIAM (Mynorydd; 1826 - 1901), cerflunydd a cherddor dosbarthiadau canu a gynhelid gan John Thomas ('Ieuan Ddu'), Trefforest, Sir Forgannwg. Daeth yn arweinydd y 'Welsh Choral Society' ar ôl Dan Jones. Dangoswyd peth o'i waith fel cerflunydd tua deugain o weithiau yn y Royal Academy; gwnaeth gerfluniau o bregethwyr Cymreig, etc. - cerflun Thomas Charles 'o'r Bala,' sydd o flaen capel Methodistiaid Calfinaidd y Bala, yn eu plith. Bu farw 22 Medi 1901 a chladdwyd
  • DAVIES, WILLIAM (1756 - 1823), casglwr defnyddiau at ysgrifennu hanes sir Forgannwg Ganwyd 1756, a threuliodd ei oes yn Cringell, Llanfair-juxta-Neath, hyd ei farwolaeth 21 Mawrth 1823. Cynullodd William Davies ddefnyddiau hanes ei sir enedigol ac ysgrifennodd rai penodau. Argraffodd 'gynigiadau' at gyhoeddi ei waith yn 1803 a thrachefn yn 1810; ei fwriad yn 1810 oedd cyhoeddi tair cyfrol pedwarplyg i gostio dwy gini y gyfrol. Eithr ni chwplaodd mo'i lafur, a bu ei lawysgrifau
  • DAVIES, WILLIAM (1814 - 1891), palaeontolegwr Ganwyd 13 Gorffennaf, 1814, yn Nhreffynnon, Sir y Fflint, mab Thomas Davies. Fe'i dewiswyd yn un o swyddogion yr Amgueddfa Brydeinig yn 1843 a bu'n gweithio am gyfnod ar y casgliad mwnofyddol. Yn nes ymlaen rhoes ei sylw i ffosylau pysgod ac yna i ffosylau creaduriaid-ag-iddynt-asgwrn-cefn, a daeth mor gyfarwydd ag enghreifftiau o'r ail ddosbarth ac mor fedrus yn y gwaith o ailgreu modelau o
  • DAVIES, WILLIAM (1820 - 1875), gweinidog Wesleaidd ym Mangor. Ei wraig gyntaf oedd Jane Williams, Tŷ Newydd, Abergele (bu farw 26 Ionawr 1854, yn 33 mlwydd oed); mab iddynt hwy oedd William Edwards Davies. Ei ail wraig oedd Mary Humphreys o Aberystwyth (bu farw 1875), gweddw Hugh Humphreys o Dreffynnon. Bu ef ei hun farw yn fuan ar ôl ei ail wraig, 13 Awst 1875, chladdwyd ef gyda hi yn Aberystwyth.
  • DAVIES, WILLIAM (1729? - 1787), offeiriad Methodistaidd . Ross, 1777). Bu farw 17 Awst 1787, a chaddwyd ef ym mynwent S. Thomas, Castell Nedd. Canwyd marwnadau i'w goffadwriaeth gan Ddafydd William, Peter Williams, Pantycelyn.'