Canlyniadau chwilio

73 - 84 of 703 for "Catherine Roberts"

73 - 84 of 703 for "Catherine Roberts"

  • EDWARDS, FANNY WINIFRED (1876 - 1959), athrawes, llenor plant a dramodydd Ganwyd 21 Chwefror 1876 ym Mhenrhyndeudraeth, Meirionnydd, yn chwaer i'r bardd Gwilym Deudraeth a'r ieuengaf o'r deuddeg plentyn a aned i William Edwards, master mariner, a'i wraig Jane (ganwyd Roberts). Addysgwyd hi yn ysgol elfennol Penrhyndeudraeth lle y bu wedyn fel disgybl-athrawes ac yna'n athrawes hyd nes iddi ymddeol fis Rhagfyr 1944 ar ôl cyfnod o dros hanner canrif o wasanaeth
  • EDWARDS, Syr FRANCIS (1852 - 1927), barwnig ac aelod seneddol Ganwyd 28 Ebrill 1852, yn bedwerydd mab Edward Edwards, Llangollen. Addysgwyd yn ysgol Amwythig a Choleg Iesu, Rhydychen, lle graddiodd yn B.A. yn 1875. Priododd yn 1880 Catherine, merch David Davies o Faesyffynnon, Aberdâr, a bu iddynt un ferch. Bu'n ustus heddwch a dirprwy-raglaw dros sir Faesyfed, ac yn uchel siryf yn 1898. Cynrychiolodd sir Faesyfed yn y Senedd, 1892-5, 1900-Ionawr 1910
  • EDWARDS, GEORGE ROWLAND (1810 - 1894), milwr a meistr tir goleuedig with the heavy oak stick who would go at any fence.' Dychwelodd i'r India yn 1839, a bu yn y 2nd Madras Cavalry. Ymneilltuodd o'r fyddin yn 1862 - yn gyrnol erbyn hyn - a dychwelodd i Sir Amwythig. Priodasai yn 1847 Catherine Jane, merch Major-General Armstrong, C.B., ac yn 1850 etifeddasai ystadau ei dad - Ness Strange a Cefnymaes, gerllaw Croesoswallt. Yr oedd yn feistr tir da, yn credu y dylai pob
  • EDWARDS, HUW THOMAS (1892 - 1970), undebwr llafur a gwleidydd . Ganwyd iddynt ddau o blant, Elizabeth Catherine (Beti) a Gwynfor, a fu farw ym 1926 yn ddwy flwydd oed. Cafodd marwolaeth ei fab, a achoswyd, ym marn Huw T, gan leithder ym mwthyn llwm y teulu yng Nghapelulo, effaith ddwys arno ac roedd yn un o'r sbardunau a barodd iddo gymryd rhan weithredol mewn gwleidyddiaeth gyhoeddus yn lleol. Erbyn hyn roedd hefyd wedi dod yn actifydd mewn undeb llafur a chollodd
  • EDWARDS, JOHN (1692? - 1774), clochydd a bardd mab John Edwards a'i wraig Elinora (?). Bedyddiwyd ef yn 1692 yn eglwys plwyf Manafon, Sir Drefaldwyn, ac yno y priodwyd ef a Catherine, merch Evan Evans, Cwm-yr-annel, Carno, yn 1730. Bu'n glochydd Manafon am 50 mlynedd. Cyfansoddodd englynion a charolau, a chyhoeddwyd peth o'i waith yn almanac Evan Davies ('Philomath'), Manafon, 1738, ac yn almanaciau Gwilym Howell, Llanidloes, 1766-75
  • EDWARDS, ROBERT (1796 - 1862), cerddor am ei lafur. Efe a gyfansoddodd y dôn ' Caersalem,' 8.7.4., un o donau mwyaf poblogaidd Cymru. Cyfansoddwyd hi yn 1824, ymddangosodd yn Peroriaeth Hyfryd (John Parry), 1837, ac adwaenid hi fel ' Tôn Bob y Felin.' Ymddangosodd yn Y Cysegr a'r Teulu (Thomas Gee), 1878, gydag enw E. Roberts fel cyfansoddwr iddi, ond ysgrifennodd John Edwards, Bedford Street (olynydd Robert Edwards), ac eraill i brofi
  • EDWARDS, ROGER (1811 - 1886), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, awdur, a golygydd gyffredinol, 1872. Fel golygydd Y Drysorfa (1847-86; hyd 1853 yn gyd-olygydd â John Roberts) gwnaeth un peth nodedig - trwy gyhoeddi, mewn rhifynnau olynol, ei nofelau ei hunan, gan ddechrau gyda Y Tri Brawd, 1866; llwyddodd i ladd rhagfarn y Methodistiaid yn erbyn ffug-chwedlau ac felly paratodd y ffordd i Daniel Owen; efe a 'ddarganfu' Daniel Owen ac a'i darbwyllodd i ysgrifennu Y Dreflan i'r Drysorfa
  • EDWARDS, THOMAS CHARLES (1837 - 1900), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, esboniwr a phregethwr, prifathro cyntaf y Coleg Cenedlaethol, Aberystwyth (1872-91), ac ail brifathro Athrofa'r Bala (1891-1900) D.D. honoris causa o brifysgolion Edinburgh (1887) a Chymru (1898). Priododd Mary Roberts, 1867; ganwyd iddynt bedwar o blant. Bu farw 22 Mawrth 1900. Dechreuodd bregethu yn 1856 a dylanwadodd diwygiad 1859-60 yn gryf arno. Yn ystod ei wyliau yn Rhydychen gwnaeth waith cenhadol ymhlith y sawl a osodai y rheilffordd i lawr ym Mhenfro. Yn 1866-72 yr oedd yn weinidog eglwys Saesneg Windsor Street
  • EDWARDS, Syr WILLIAM RICE (1862 - 1923), llawfeddyg a chyfarwyddwr cyffredinol gwasanaeth meddygol India Ganwyd yng Nghaerlleon, sir Fynwy, 17 Mai 1862, mab y canon H. Powell Edwards. Addysgwyd ef yn Ysgol Coleg Madlen, Rhydychen, Coleg Clifton, a'r London Hospital. Enillodd radd M.D. yn 1886, a'r flwyddyn honno ymunodd â gwasanaeth meddygol India fel llawfeddyg, a gweithio yn nhalaith Bengal. Yn 1890, fe'i penodwyd yn llawfeddyg personol i'r arglwydd Roberts, ac arhosodd gydag ef am bedair blynedd
  • teulu EDWIN LLANFIHANGEL, MORGANNWG ar wahân i enwi ei ail ferch, Mary, a briodwyd â Robert Jones o Fonmon (gweler dan Jones, Philip, 1618? - 1674), ni bydd a fynnom ni yma ond â llinach uniongyrchol Llanfihangel. Mab hynaf Syr Humphrey oedd SAMUEL EDWIN, a fedyddiwyd 12 Rhagfyr 1671 ac a fu farw yn Llanfihangel 27 Medi 1722; ei wraig oedd Lady Catherine Montagu, merch i ail iarll Manchester, a chawsant dri o blant. O'r rhain, daeth
  • ELLIS, ELLIS OWEN (Ellis Bryncoch; 1813 - 1861), arlunydd Ganwyd ym mhlwyf Abererch, Sir Gaernarfon, ei fam yn ferch John Roberts ('Siôn Lleyn'); yr oedd yr arlunydd yn perthyn hefyd i John Thomas ('Siôn Wyn o Eifion'). Prentisiwyd ef i saer coed, ond gan fod ganddo beth talent arlunio fe drefnodd Syr Robert Williames Vaughan, Nannau, Sir Feirionnydd, iddo ddyfod i adnabod Syr Martin Archer Shee, paentiwr, a roes iddo lythyrau i'w gyflwyno i arlunwyr
  • ELLIS, JOHN (1674 - 1735), clerigwr a hynafiaethydd 1710 a'i benodi'n un o ganoniaid eglwys gadeiriol Bangor yn yr un flwyddyn. Rhoes y swydd olaf i fyny wrth dderbyn prebend Llanfair Dyffryn Clwyd ar 26 Mawrth 1713. Derbyniodd reithoriaeth Llanbedr-y-cennin ynghyd â ficeriaeth Caerhun, 24 Gorffennaf 1719. Priododd, 13 Mai 1720, Catherine, merch Richard Humphreys, Hendregwenllian, Penrhyndeudraeth, hanner-chwaer Humphrey Humphreys, esgob Bangor a