Canlyniadau chwilio

85 - 96 of 703 for "Catherine Roberts"

85 - 96 of 703 for "Catherine Roberts"

  • ELLIS, ROBERT (1805 - 1872), clochydd Llanllyfni Bedyddiwyd yn Eglwys Llanllyfni 20 Hydref 1805, mab Ellis ac Ann Dafydd, Penbryn Bach, Llanllyfni. Priododd Catherine Williams, Llandwrog, yn 1830, a bu iddynt saith o blant. Yr oedd yn brydydd yn ogystal â chlochydd, ac adwaenid ef wrth yr enw ' Llyfnwy.' Cyhoeddodd Lloffion Awen Llyfnwy (1852), sef casgliad o'i gerddi, ond eddyf yn ei ragymadrodd nad yw'n 'ymestyn at ddim goruchafiaeth,' gan na
  • ELLIS, THOMAS (1625 - 1673), offeiriad a hynafiaethydd , cafodd swydd 'Censor' yn ogystal, ac yr oedd ar y pen blaen yn ymosod ar Dr. Michael Roberts, y prifathro newydd a'r rhagrithiwr Piwritanaidd. Yn 1660 adferwyd yr hen brifathro, Francis Mansell, a phenodwyd Ellis yn is-brifathro. Siomwyd ef yn fawr na chafodd le Mansell yn 1661, ac anaml y gwelid ef o gylch y coleg. Ar ôl marw Dr. John Ellis, perthynas iddo yn ôl pob hanes, penodwyd ef yn rheithor
  • ELWYN-EDWARDS, DILYS (1918 - 2012), cyfansoddwraig Ganed Dilys Roberts ar 19 Awst 1918 yn Nolgellau. Roedd ei thad yn gerddor, yn godwr canu ac yn arweinydd corau, a hefyd yn canu'r iwffoniwm. Mynychodd Ysgol Dr Williams yn Nolgellau a manteisio ar draddodiad cerddorol cryf yr ysgol; yno y dechreuodd ymserchu yng ngherddoriaeth Delius, Holst a Vaughan Williams, ac yno hefyd y cyfansoddodd ei chân gyntaf. Cafodd gynnig Ysgoloriaeth Turle yng
  • EMANUEL, HYWEL DAVID (1921 - 1970), llyfrgellydd ac ysgolhaig Lladin Canol Oesoedd Canol, a chyfrannodd yn helaeth i Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru Darllenwyd ei werthfawrogiad o A.W. Wade-Evans i Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, a'i gyhoeddi yn Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1965, 257-71. Priododd yn 1947 Florence Mary Roberts o Borth Tywyn, a ganwyd iddynt fab a merch. Bu farw 20 Ebrill 1970, yn Aberystwyth.
  • EMRYS-ROBERTS, EDWARD (1878 - 1924), Athro patholeg a bacterioleg cyntaf yr Ysgol Feddygol Gymreig Genedlaethol Ganwyd Edward Emrys-Roberts ar y 14eg o Fai 1878 yn Lerpwl, mab hynaf E. S. Roberts o Dawlish, Dyfnaint, a'i wraig Mary Evans, merch ieuengaf Emrys Evans, Cotton Hall, Dinbych. Fe'i haddysgwyd yng Ngholeg Lerpwl rhwng 1890 a 1895, ac yna bu'n fyfyriwr meddygol yng Ngholeg Prifysgol Lerpwl, gan ennill cymhwyster MB ChB yn yr hyn a oedd ar y pryd yn Brifysgol Victoria ym 1902. Ym 1900, tra oedd yn
  • teulu EVANS Tanybwlch, Maentwrog . Gwraig ei fab, EVAN AP ROBERT, oedd Gwen, merch Humphrey ap Maredudd ap Evan ap Robert, Cesailgyfarch, Sir Gaernarfon, a'u mab hwy, ROBERT, oedd, y mae'n debyg, y cyntaf i ddefnyddio'r cyfenw Evans - ROBERT EVANS; ei wraig ef oedd Elizabeth, merch John Wynn ap Cadwaladr, Rhiwlas, a'i aer oedd EVAN EVANS, siryf Meirionnydd yn 1634, a briododd Catherine, merch Morris ap Robert Wynn; Glyn(cywarch
  • EVANS, ANNIE FLORENCE (1884 - 1967), diwygwraig a chenhades fan cychwyn effeithiol y Diwygiad yng Nghymru. Aeth Joseph Jenkins â grwpiau o bobl ifainc ar draws Sir Aberteifi wedyn i ledu'r diwygiad, a Florrie Evans yn flaenllaw yn eu plith. Dywedodd Jenkins fod ei hesiampl hi yn fodd i'w waredu rhag hunan a philosoffi. Pan ddaeth Evan Roberts i Gastellnewydd Emlyn ym Medi y flwyddyn honno, cafodd brofiad ysbrydol nerthol mewn cyfarfod ym Mlaenannerch wedi ei
  • EVANS, CHRISTMAS (1766 - 1838), gweinidog gyda'r Bedyddwyr ac un o bregethwyr enwocaf Cymru . Ordeiniwyd ef yn haf 1789; priododd Catherine Jones yn eglwys Bryncroes, 23 Hydref 1789; cerddodd, marchogodd, pregethodd yn ei blwyf eang, a'r effeithiau yn rhyfeddol. Wrth draed Robert Roberts, Clynnog, pregethwr aruthraf pulpud Cymru, ryw brynhawn Sul, cafodd olwg a gafael newydd ar grefft pregethu, a chanfu yn y ddrama ddefnydd y pregethu hwnnw a weddai i'w ddawn arbennig ef. Robert Roberts a roes iddo
  • EVANS, DAVID EMLYN (1843 - 1913), cerddor gellid eu cael ar y pryd a chael gwersi yn achlysurol gan John Roberts ('Ieuan Gwyllt'). Enillodd lawer o wobrwyon mewn eisteddfodau am gyfansoddi. Daeth yn drafaeliwr dros ffyrm, gan barhau i roddi sylw i gyfansoddi, beirniadu, a beirniadaeth, serch bod ei iechyd yn fregus a'i fod yn gorfod teithio llawer. Ymysg ei lu cyfansoddiadau y mae llawer o ganeuon, anthemau, canigau, rhanganau, a thonau
  • EVANS, DAVID LLOYD (1861 - 1912), siopwr, trafaeliwr, a cherddor Ganwyd 29 Rhagfyr 1861, mab Evan ac Ellen Evans, Adwy-ddu, Penrhyndeudraeth, Sir Feirionnydd. Cafodd ei wersi cerddorol cyntaf yn nosbarthiadau John Roberts, Porthmadog, a thrwy astudio Gramadeg Cerddoriaeth ' Alawydd ' a llyfrau eraill daeth yn gerddor da. Bu ' Cân y Cryd ' a'r ddeuawd ' Mae'r byd yn llawn o ganu ' yn boblogaidd, a chafodd ei ranganau ' Trig gyda mi,' ' Oleuni Mwyn,' a'r
  • EVANS, DAVID TECWYN (1876 - 1957), gweinidog (EF) Ganwyd 5 Rhagfyr 1876 yn Aberdeunant Uchaf, Llandecwyn, Meirionnydd, mab Evan a Catherine Evans. Cafodd ei addysg yn ysgol genedlaethol Llandecwyn, ysgol fwrdd Talsarnau (lle bu hefyd yn ddisgybl-athro), Coleg y Brifysgol, Bangor a choleg diwinyddol Didsbury, Manceinion. Dechreuodd bregethu y Sulgwyn 1894 yn 17 oed a daeth i sylw gwlad yn fuan, ac yn 1902 ar ddechrau ei yrfa bu ar daith bregethu
  • EVANS, EVAN (Ieuan Fardd, Ieuan Brydydd Hir; 1731 - 1788), ysgolhaig, bardd, ac offeiriad Ganwyd 20 Mai 1731, yn ffermdy'r Gynhawdref, plwyf Lledrod, Ceredigion, mab Jenkin a Catherine Evans. Addysgwyd ef gan Edward Richard yn ysgol Ystrad Meurig, ond ni ellir rhoddi dyddiadau pendant i ddangos yn ystod pa flynyddoedd y bu yno. Ar 8 Rhagfyr 1750 ymaelododd yng Ngholeg Merton, Rhydychen; niwlog hefyd yw'r dystiolaeth am ei arhosiad yno - yr oedd yn bresennol yn ystod 1751, ac eto yn