Canlyniadau chwilio

1 - 12 of 69 for "Gwen"

1 - 12 of 69 for "Gwen"

  • AUBREY, THOMAS (1808 - 1867), gweinidog Wesleaidd Ganwyd 13 Mai 1808 yng Nghefncoedcymer, plentyn hynaf Thomas ac Anne Aubrey. Dechreuodd bregethu cyn bod yn 15 oed, a derbyniwyd ef i'r weinidogaeth Wesleaidd yn 1826. Teithiodd ar nifer o gylchdeithiau yng Ngogledd Cymru ac yn Llundain, Lerpwl, a Merthyr Tydfil rhwng 1826 a 1865, pan aeth yn uwchrif. Bu'n gadeirydd talaith Gogledd Cymru o 1854 i 1865. Priododd Elizabeth, merch Robert a Gwen
  • DAFYDD NANMOR (fl. 15fed ganrif), bardd Cafodd ei enw o Nanmor ger Beddgelert, sef Nanmor Deudraeth. Canodd gywyddau yn null Dafydd ap Gwilym i wraig briod, Gwen o'r Ddôl (Dolfrïog), yn yr ardal, ac o'u hachos deolwyd ef o Wynedd trwy ddedfryd deuddeg o reithwyr. Digwyddodd hyn, meddai ef, pan oedd Dafydd ab Ifan ab Einion yn Ffrainc, sef y gŵr a enillodd glod wedyn fel cwnstabl castell Harlech, am wrthsefyll yn ddygn ymosodiad Herbert
  • DAVIES, CATHERINE GLYN (1926 - 2007), hanesydd athroniaeth ac ieithyddiaeth, a chyfieithydd ). Priodasant yn 1952 ac er mai yn Otley, swydd Gaerefrog, y magodd eu pedwar plentyn, Eleri, Rhodri, Catrin a Gwen, ceisiodd drosglwyddo iddynt eu treftadaeth Gymraeg. Gyda'i gŵr cyfieithodd nofel André Gide La Symphonie pastorale dan y teitl Y Deillion (1965). Wedi i'w gŵr ymddeol o'r gadair Sbaeneg yn Leeds yn 1986, symudasant i Blaenpant, hen ysgoldy ger Llangwyryfon, Ceredigion, lle y byddent yn arfer
  • DAVIES, DAFYDD GWILYM (1922 - 2017), gweinidog, darlithydd a Phrifathro Coleg y Bedyddwyr Ganwyd Dafydd G. Davies ar 1 Gorffennaf 1922 yn Prysgol, y Ffôr, Pwllheli, unig blentyn John Clement Davies (1896-1982), gweinidog gyda'r Bedyddwyr, a'i wraig Gwen Ellen (g. Griffith, 1894-1970), athrawes Gymraeg. Symudodd y teulu pan alwyd ei dad i fugeilio'r eglwys yng nghapel y Graig, Castellnewydd Emlyn, yn 1922, ac yno y magwyd y mab. Addysgwyd ef yn Ysgol Gynradd Adpar, Castellnewydd Emlyn
  • DAVIES, DAVID THOMAS FFRANGCON (1855 - 1918), datganwr Ganwyd ym Mount Pleasant, Bethesda, Arfon, 11 Rhagfyr 1855, mab i Dafydd a Gwen Davies. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Genedlaethol Pontur, Bethesda, yn Ysgol y Friars, Bangor, ac yng Ngholeg Iesu, Rhydychen (graddiodd yn 1881). Yn Chwefror 1883 urddwyd ef yn ddiacon yn eglwys Llantysilio; aeth yn gurad i Lanaelhaiarn yn 1884, a Chonwy yn 1885. Cafodd wersi ar ganu'r organ gan y Dr. Roland Rogers
  • DAVIES, EDWARD TEGLA (1880 - 1967), gweinidog (EF) a llenor weinidog yn Abergele, Leeds, Porthaethwy, Y Felinheli, Tregarth deirgwaith, Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Dinbych, Manceinion ddwywaith, Lerpwl, Bangor a Choed-poeth. Yn 1908, priododd Jane Eleanor (Nel) Evans, Siop y Gwynlys, Bwlchgwyn, a ganwyd iddynt dri o blant: Dyddgu, Arfor a Gwen. Ymddeolodd yn 1946 oherwydd gwaeledd ei briod a symud i Fangor, lle y bu hi farw yn 1948. Bu'n llywydd y Gymanfa
  • DAVIES, GEORGE MAITLAND LLOYD (1880 - 1949), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ac apostol heddwch Ganwyd 30 Ebrill 1880 yn Peel Road, Sefton Park, Lerpwl, yn fab i John a Gwen Davies. Bedyddiwyd ef yn G. M. Temple Davies : ef a wnaeth y cyfnewid yn ei enw. Masnachwr te oedd ei dad a'i wreiddiau yn Sir Aberteifi, a merch i John Jones, Tal-y-sarn (1796 - 1857) oedd ei fam. Addysgwyd ef yn Lerpwl ac aeth yn gynnar i wasanaeth y Bank of Liverpool. Penodwyd ef yn rheolwr cangen yng Ngwrecsam yn
  • DAVIES, GWENDOLINE ELIZABETH (1882 - 1951), casglydd celfyddydwaith a chymwynasydd Ganwyd yn Llandinam, Trefaldwyn, 11 Chwefror 1882; ei thad Edward oedd unig fab David Davies, ' Top Sawyer '. Bu farw ei mam, Mary unig ferch Evan Jones, Trewythen, gweinidog (MC) yn 1888 ac ymhen tair blynedd fe briododd Edward ei chwaer Elizabeth (bu farw 1942). Addysgwyd Gwen Davies a'i chwaer Margaret yn ysgol Highfield, Hendon, a thrwy deithio tramor, yn enwedig yn Ffrainc. Eu bwriad wrth
  • DAVIES, JOHN (1652 - post 1716) Rhiwlas, achyddwr Yn ôl Archæologia Cambrensis, 1888, 51, ganwyd John Davies ar y 10 Hydref 1652. Yr oedd yn fab i Edward Davies o'r Rhiwlas (20 Chwefror 1618 - 14 Mawrth 1680) a Margaret, unig ferch William Llwyd ap Rowland o Goed y Rhygyn yn Nhrawsfynydd. (Gweler Peniarth MS 145 (71), Powys Fadog, iv, 353, Display of Heraldry, 47.) Ei daid oedd Dafydd ab Edward ap Dafydd ab Ieuan o'r Rhiwlas a'i nain Gwen
  • DAVIES, JOHN (c. 1567 - 1644), un o ysgolheigion mwyaf Cymru Ganwyd ym mhlwyf Llanferres yn sir Ddinbych, yn fab Dafydd ap Sion ap Rhys, gwehydd (meddir) wrth ei alwedigaeth, a'i wraig Elsbeth ferch Lewis ap Dafydd Llwyd; yr oedd ganddo dair chwaer, Jane, Catrin, a Gwen. Prin iawn yw'r hanes amdano cyn iddo fynd i Fallwyd. Dywedir iddo dreulio pedair blynedd yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, a graddio'n B.A. yno ar 16 Mawrth 1593-4. Gwyddys oddi wrth un o'i
  • DAVIES, JOHN GLYN (1870 - 1953), ysgolhaig, ysgrifennwr caneuon a bardd Ganwyd 22 Hydref 1870 yn 55 Peel St, Sefton Park, Lerpwl, yn fab i John a Gwen Davies. Masnachwr te oedd ei dad a'i fam yn ferch i John Jones, Tal-y-sarn; brodyr iddo oedd George Maitland Lloyd Davies, Stanley Davies, a'r Capten Frank Davies. Addysgwyd ef yn y Liverpool Institute. Bu'n gweithio gyda chwmnïau llongau hwylio Rathbone Brothers (1887-92) a'r Cambrian (1892-95), gyda Henry Tate & Sons
  • DAVIES, MARGARET SIDNEY (1884 - 1963), casglydd celfyddydwaith a chymwynasydd chwaer Gwendoline Elizabeth Davies Ganwyd yn Llandinam, Trefaldwyn, 14 Rhagfyr 1884. Er mai ar y cyd â'i chwaer y cyflawnwyd y rhan fwyaf o'i gweithgarwch, yr oedd hi ei hun yn arlunydd amatur eithaf derbyniol. Yr oedd ' Miss Daisy ' fel y gelwid hi fynychaf, yn fwy confensiynol ei chwaeth na'i chwaer, ond ar ôl marwolaeth Gwen fe helaethodd ei chasgliad o beintiadau i gynnwys Bonnard, Kokoschka