Canlyniadau chwilio

1 - 12 of 154 for "Howel"

1 - 12 of 154 for "Howel"

  • BASSETT, CHRISTOPHER (1753 - 1784), offeiriad Methodistaidd Ganed yn Aberddawen, plwyf Penmarc, mab Christopher ac Alice Bassett, ill dau yn ddilynwyr Howel Harris. Addysgwyd ef yn ysgol ramadeg y Bontfaen a Choleg Iesu Rhydychen, lle y graddiodd yn B.A. yn 1772 (M.A. yn 1775). Ordeiniwyd ef gan esgob Llundain a bu'n gurad dan yr enwog William Romaine yn S. Anne, Blackfriars; dewiswyd ef hefyd yn ddarlithydd S. Ethelburga. Collodd ei iechyd a dychwelodd i
  • BEAUMONT, JAMES (bu farw 1750), cynghorwr bore gyda'r Methodistiaid Calfinaidd Dyn o sir Faesyfed, na wyddys ond hanes deng mlynedd olaf ei fywyd. Yr oedd yn aelod o gynulleidfa Annibynnol y Gore (yn ymyl Hen Faesyfed), ond syrthiodd dan ddylanwad Howel Harris, ac aeth i bregethu. Yn 1741 fe'i ceir yn Dilwyn (sir Henffordd) yn pregethu dan adain rhyw Mrs. Marlow yn ei thŷ; ac yn 1741-1744 pregethai hefyd yn Llanllieni. Yng Nghymdeithasfa Watford (Ionawr 1743) fe'i
  • BELCHER, JOHN (fl. 1721-1763), cynghorwr Methodistaidd Mab Edmund Belcher, Eglwys Ilan, Sir Forgannwg. Gofaint oeddynt ill dau, ond dechreuodd y mab bregethu gyda'r Methodistiaid. Dewiswyd ef i ymweld â'r brodyr sengl yn sasiwn Watford, 1743, ac ymhen blwyddyn fe'i penodwyd yn gynorthwywr i Howel Harris yn rhai o siroedd y De. Bu cryn amheuaeth yn ei feddwl ynghylch ymlyniad y Methodistiaid wrth Eglwys Loegr, ac yn 1745 arwyddodd, gydag eraill
  • BEYNON, TOM (1886 - 1961), gweinidog (MC), hanesydd ac awdur pwyllgor am dymor (1930-60), a cheidwad y greirfa gyfundebol yn y Llyfrgell Genedlaethol. Bu'n aelod hefyd o lys y Llyfrgell am lawer blwyddyn. Ymddiddorodd yn fawr yn y 'tadau' Methodistaidd, yn enwedig Howel Harris. Bu'n lloffa'n ddyfal yn nyddiaduron Harris, gan gyhoeddi dyfyniadau helaeth ohonynt yn y cylchgrawn hanes ac yn ei lyfrau. Cyhoeddodd lyfrynnau ar hanes capel y Gyfylchi a Phontrhyd-y-fen
  • BRWMFFILD, MATHEW (fl. 1520-1560), bardd Brodor o Faelor oedd yn ôl Cwrtmawr MS 12B, t. 629. Yn ei gywydd 'I Sant Tydecho a dau blwy Mowthwy,' wedi canmol Llanymawddwy a Mallwyd fel ei gilydd, dywed mai am Fallwyd yr hiraethai fwyaf. Canodd gywyddau mawl i Risiart ap Rhys ap Dafydd Llwyd o Ogerddan tua 1520; i Rys ap Howel o Borthamyl, Môn, 'o fewn mis Tachwedd 1539 '; i Lewis Gwynn a fu farw tua 1552; ac i Siôn Wynn ap Meredith o Wydyr
  • CARNE, Syr EDWARD (c. 1500 - 1561), llysgennad Mab Howel Carne, Pontfaen, sir Forgannwg, ac yn disgyn o dywysogion Gwent. Cafodd ei addysg yn Rhydychen, gan raddio'n B.C.L. yn 1519 a D.C.L. yn 1524; a daeth yn bennaeth Greek Hall. Yn 1530 fe'i hanfonwyd i Rufain i gyflwyno rhesymau'r brenin Harri VIII dros beidio ag ymddangos ei hunan pan benderfynwyd fod ei gyngaws am 'ysgariad' i gael ei drin yno. Gan i'r pab wrthod derbyn Carne fel
  • DAFYDD, RICHARD WILLIAM (fl. 1740-52), cynghorwr Methodistaidd Whitefield a Howel Harris. Penodwyd ef yn ymwelydd seiadau Gorseinon a Phenbre yn 1744. Gwyddys ei fod yn Llandyfaelog yn 1744, a chyfarfu Thomas William ag ef yno yn 1747. Cawn ef yn pregethu yn Nhrefeca yn 1752 a dyna'r olwg olaf arno. Ymddengys iddo ymsefydlu yn Abertawe, a bu'n gefn i'r seiat fore yn y dref.
  • DAVID, JOHN (1701? - 1756), gweinidog Annibynnol David a ymunodd â Henry Palmer a Rees Davies (gweler dan Davies, Benjamin, 1739? - 1817) mewn llythyr (Trevecka Letter 231) at Howel Harris, 22 Mawrth 1740). Bu farw 22 Gorffennaf 1756, a chladdwyd ym Maenor Deifi. Y mae marwnad iddo (argraffwyd hi yn y gwaith a enwir isod) gan Morris Griffith - efallai Morris Griffith o Hwlffordd; noder bod cofnod yn y gronfa Forafaidd yn Hwlffordd yn canmol John
  • DAVIES, BENJAMIN (1739? - 1817), athro a gweinidog Annibynnol Ganwyd yn 1739 neu 1740, yn ail fab i Rees Davies, rhydd-ddeiliad cefnog y Canerw ym mhlwyf Llanboidy. Haedda REES DAVIES ei hunan sylw, er mai diffygiol iawn yw ein gwybodaeth amdano; bu farw tua 1788. Yr oedd yn henuriad athrawiaethol yn eglwys Henllan Amgoed, a chyda Henry Palmer a John Davies anfonodd lythyr (Trevecka Letter 231) at Howel Harris ar 22 Mawrth 1740; ymddengys mai Calfin pybyr
  • DAVIES, EVAN (1694? - 1770), gweinidog ac athro Annibynnol roddwyd, ond tebyg fod achosion eraill mwy sylweddol. Aeth Davies i fugeilio eglwys Billericay (Essex), lle y bu farw 16 Hydref 1770, yn 76 oed. Gellid meddwl mai Calfin cymedrol oedd Evan Davies, o stamp academaidd braidd. Credai Richard Bennett (Blynyddoedd Cyntaf Methodistiaeth, 182), ar sail anhysbys, ei fod yn un o garedigion Ymneilltuol bore'r Diwygiad Methodistaidd, ac iddo yn 1737 wahodd Howel
  • DAVIES, HENRY (1696? - 1766), gweinidog Annibynnol . Cydredai gyrfa deithiol Henry Davies â dechreuadau Methodistiaeth yng Nghymru, a chydweithredodd yntau'n galonnog â hi - efallai yn herwydd cysylltiadau lleol. Yr oedd yn un o'r gweinidogion Ymneilltuol a wahoddodd Howel Harris i Forgannwg; ymwclai â Threfeca; yn wir, parhaodd i gydweithio â'r Methodistiaid yn hwy nag unrhyw weinidog Ymneilltuol arall yng Nghymru ac eithrio Edmund Jones. Mynychai'r
  • DAVIES, HOWEL (c. 1716 - 1770), offeiriad Methodistaidd Bernir mai brodor o sir Fynwy ydoedd, ond gwyddys fod ewythr iddo yn byw yn Llanspyddid, sir Frycheiniog. Daw i'r golwg gyntaf fel ysgolfeistr yn Nhalgarth yn 1737, a chafodd dröedigaeth dan weinidogaeth Howel Harris. Aeth i Landdowror ar gyngor Harris i'w addysgu gan Gruffydd Jones. Ordeiniwyd ef yn ddiacon yn 1739 ac yn offeiriad yn 1740. Bu'n gurad dan Gruffydd Jones yn Llandeilo Abercywyn