Canlyniadau chwilio

1249 - 1260 of 1867 for "Mai"

1249 - 1260 of 1867 for "Mai"

  • PARRY, HUGH (Cefni; 1826 - 1895), gweinidog gyda'r Bedyddwyr, bardd, llenor, a diwinydd Ganwyd ym mhlwyf Cerrig Ceinwen, Môn, 20 Medi 1826, yn fab i Owen ac Ellinor Parry, Tyddyn Sawdwr, Llangefni. Codwyd ef yn Annibynnwr yn Llangefni a Rhos-y-meirch, a'i ordeinio'n weinidog ym Magillt 26 Rhagfyr 1848, ond ymunodd â'r Bedyddwyr yn Llangefni 6 Hydref 1850 a bu'n weinidog yn Rhos-y-bol (Ionawr–Mai 1851), Dowlais (Mai 1851–5), Bangor (1855–7), Brymbo a Moss (1857–60), Talybont
  • PARRY, JAMES RHYS (fl. 1570?-1625?), bardd a droes rai o'r salmau ar gân yn Gymraeg Morgan pan oedd yn esgob Llandaf ac y bu i hyn symbylu Edmwnd Prys i wneud gwaith cyffelyb - i Prys ddefnyddio fersiwn Parry (gweler cyfieithiad o'r geiriau Lladin yn Journal of the Welsh Bibliographical Society, ii, 287). Gan mai o 1595 hyd 1601 yr oedd Morgan yn Llandaf gellir tybio mai dyna'r pryd y gwnaeth Parry ei waith.
  • PARRY, JOHN (1775 - 1846), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, llenor a golygydd Ganwyd 7 Mai 1775 yn fab Owen a Jane Parry, Groeslon-grugan, plwyf Llandwrog, Sir Gaernarfon. Cafodd well addysg na'r cyffredin o ieuenctid yn y dyddiau hynny. Bu am dymor yn ysgol (Madam Bevan) ym Mrynrodyn, ysgol John Roberts (Llangwm), yn Llanllyfni, ac ysgol Evan Richardson yng Nghaernarfon. Yn 1793 aeth i gadw ysgol ym Mrynsiencyn, Môn - yr oedd honno'n ysgol ddydd i'r plant a hefyd yn ysgol
  • PARRY, JOHN (1812 - 1874), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, ac athro yng Ngholeg y Bala gwneud gormod o'r gwaith drostynt, ac mai Lewis Edwards oedd y gorau ar eu gwir les. Ordeiniwyd ef yn 1845, a bu'n llywydd y gymdeithasfa yn y Gogledd yn 1866. Priododd yn 1844 â Sarah Gee, chwaer y cyhoeddwr Thomas Gee. Pan gychwynnodd Gee Y Gwyddoniadur, yn 1853, perswadiodd John Parry i'w olygu; a'i gysylltiad â'r gwaith hwnnw (serch iddo farw ymhell cyn ei orffen) a'i gwnaeth yn enw cenedlaethol
  • PARRY, JOHN (Y telynor dall; 1710? - 1782) Ganwyd ef ym Mryn Cynan yn agos i Nefyn, Sir Gaernarfon, c. 1710. Dywed 'Carnhuanawc' mai Robert Parry, Llanllyfni, a ddysgodd iddo'r gelfyddyd o ganu'r delyn, a dywed Edward Jones ('Bardd y Brenin') iddo gael gwersi gan Stephen Shon Jones o Benrhyndeudraeth. Daeth John Parry yn un o delynorion gorau Prydain a bu'n canu'r delyn ym mhrif gyngherddau'r deyrnas yn Llundain, Caergrawnt, Rhydychen, a
  • PARRY, JOHN HUMFFREYS (1786 - 1825), hynafiaethydd 'Serjeant.' Y mae ysgrif arno yn y D.N.B.; yr oedd yn Radical cryf ac yn ddadleuydd enwog - cymerth ran mewn achosion hynod, e.e. y ' Tichborne Case ' ac achos Whistler yn erbyn Ruskin. Mab arall (y pedwerydd) i Edward Parry o'r Wyddgrug oedd THOMAS PARRY (1795 - 1870), esgob. Yn ôl yr ysgrif arno yn y D.N.B. (sy'n enwi ei dad yn anghywir) fe'i ganwyd 'yn sir Ddinbych ' (gall felly mai yn Llanferres) yn
  • PARRY, JOSEPH (1841 - 1903), cerddor Ganwyd 21 Mai 1841 ym Merthyr Tydfil. Deg oed ydoedd pan aeth i weithio mewn pwll glo, a 12 oed yn dechrau gweithio mewn gwaith haearn. Fe'i magwyd mewn awyrgylch gerddorol; canai alto mewn oratorïau a berfformid gan gôr Rosser Beynon. Yn 1854 symudodd gyda'i rieni i Dannville, Pennsylvania, U.D.A., lle y bu'n gweithio mewn melinau-rholio-haearn hyd 1865, ac astudio harmoni yn ei oriau hamdden
  • PARRY, JOSEPH (1744 - 1826), peintiwr ac ysgythrwr un arall o'i weithiau, ' Eccles Wake,' ceir 200 o luniau wedi eu tynnu, pob un ar wahân, o natur. Tynnai bortreadau hefyd a cheir llin-gerflun da ohono ganddo ef ei hun - y mae hwn yn un prin gan mai dim ond 10 copi a wnaed o'r plât. Bu farw ym Manceinion yn 1826. Peintiwr hefyd oedd ei fab, DAVID HENRY PARRY; ganwyd ef ym Manceinion yn 1793 a bu'n astudio o dan hyfforddiant ei dad. Yn 1816
  • PARRY, OWEN HENRY (1912 - 1956), cerddor jazz rhaglen boblogaidd ' Housewives Choice ' ar ôl dychwelyd a bu a wnelo â'r rhaglen blant ' Crackerjack '. Yn ôl rhai o golofnwyr y cyfnod bu farw pan oedd ar fin adennill ei boblogrwydd gan mai ef oedd y cyntaf i gyflwyno miwsig 'swing' i'r lleygwr. Fe'i disgrifiwyd gan golofnydd yr Evening Standard ar y pryd fel ' trydydd glarinedydd gorau'r byd '. Ei arwyr oedd Benny Goodman, Artie Shaw, Benny Carter
  • PARRY, RHISIART (1710 - 1763) Niwbwrch, bardd, ysgolfeistr, a chlochydd Argraffwyd peth o'i waith, ac yn ei blith ' Araith Wgan ar Gân ' (Y Brython, 1863), a hefyd nifer o gerddi (un o leiaf ohonynt yn gyfieithiad o'r Saesneg) a gyhoeddwyd yn y 18fed ganrif; ceir rhestr ohonynt gan ' Myrddin Fardd ' yn Y Traethodydd, 1886. Ceir un enghraifft bendant o'i waith yn NLW MS 1666B (209b), sef carol plygain. Y mae'n debyg hefyd mai ef yw'r Richard Parry y ceir cerddi eraill
  • PARRY, RICHARD (1560 - 1623), esgob a chyfieithydd Ganwyd yn 1560, yn fab John ap Harri, Pwllhalog, Cwm, Sir y Fflint, a Rhuthyn, a'i wraig, Elen ferch Dafydd ap John, Llanfair Dyffryn Clwyd. Addysgwyd Richard Parry yn Ysgol Westminster wrth draed Camden. Yn 1579 aeth i Goleg Eglwys Crist, Rhydychen, lle y graddiodd yn B.A. 5 Chwefror 1584. Ordeiniwyd ef yn ddiacon gan Robinson, esgob Bangor, 5 Ebrill 1584, ac ar 4 Mai rhoddwyd iddo gyfran o
  • PARRY, ROBERT (fl. 1540?-1612?), awdur a dyddiadurwr Carleton Brown, The Poems of Sir John Salusbury and Robert Chester (Brynmawr, U.D.A., 1913 a Llundain, 1914). Awgrymodd awdur yr ysgrif ar Parry yn y D.N.B. y gall mai Robert Parry ydyw'r 'R.P.' a fu'n cydweithio â Margaret Tyler yn y gwaith o gyfieithu (o'r Sbaeneg wreiddiol gan D. Ortunez de Calahorra, P. la Sierra, a M. Martinez), y gwaith a deitlwyd yn Mirrour of Princely Deeds and Knighthood; bu