Canlyniadau chwilio

1381 - 1392 of 3961 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

1381 - 1392 of 3961 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

  • HUGHES, JOHN (1896 - 1968), cerddor Ganwyd 16 Tachwedd 1896, yn 6 Broad Street, Rhosllannerchrugog, Sir Ddinbych, yn un o naw plentyn William Hughes a'i wraig Catherine. Addysgwyd ef yn ysgol y Grango, Rhosllannerchrugog; gadawodd yr ysgol i dreulio wyth mlynedd yng nglofa'r Hafod, ger ei gartref. Ymgollai mewn cerddoriaeth yn ieuanc, a bu'n arwain corau yn y Rhos, gan astudio cynghanedd a gwrthbwynt gyda'r Dr. J.C. Bridge
  • HUGHES, JOHN (1850 - 1932), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, awdur, a bardd . Ymneilltuodd i Forgannwg yn niwedd oes; bu farw ym Mhenybont-ar-Ogwr 24 Gorffennaf 1932, a'i gladdu ym Machynlleth. Yr oedd yn bregethwr grymus, yn ysgolhaig rhagorol, ac yn llenor medrus. Ei brif weithiau llenyddol, oedd Rhagtuniaeth Duw mewn Anian ac mewn Hanesyddiaeth, 1886; The Sabbatical Rest of God and Man, 1888; Gwanwyn Bywyd a'i Ddeffroad, 1899; Ysgol Jacob, 1899; a The Christian Consciousness
  • HUGHES, JOHN (c. 1790 - 1869), cerddor Ganwyd John Hughes yn Ninbych c. 1790. Gwasanaethai yng ngwesty'r Wynnstay Arms, Wrecsam, ym more ei oes. Hoffai gerddoriaeth, dysgodd ganu amryw offerynnau cerdd, a phenodwyd ef yn arweinydd seindorf catrawd filwrol sir Ddinbych. Yn eisteddfod Wrecsam, 1820, enillodd wobr am 'Yr amrywiaeth gorau o un o Geingciau Cymru.' Yn eisteddfod y Fenni, 1838, enillodd y wobr a thlws am yr erddygan Gymreig
  • HUGHES, JOHN (Glanystwyth; 1842 - 1902), gweinidog Wesleaidd Ganwyd 15 Ebrill 1842 yng Nghwm-magwr Isaf, ger y Cnwch Coch, Sir Aberteifi. Wedi ychydig addysg yn ysgol Llanfihangel y Creuddyn aeth yn was fferm (1854), yna am dymor i waith mwyn, dychwelyd am dymor yn was fferm, ac yna i chwarel ym Mlaenau Ffestiniog (1863). Dechreuodd bregethu yno. Aeth i ysgol Jasper House, Aberystwyth (1865). Derbyniwyd ef i'r weinidogaeth yn 1867. Llafuriodd yn
  • HUGHES, JOHN (1787 - 1860), archddiacon Ceredigion, clerigwr efengylaidd, a llenor Ganwyd yn Llwynglas, Llanfihangel Geneu'r Glyn. Addysgwyd ef yn Ystrad Meurig yn nyddiau John Williams, mab ' Yr Hen Syr.' Wedi hynny, bu'n athro cynorthwyol yn ysgol Putney, ger Llundain, am 18 mis. Ordeiniwyd ef yn ddiacon ac offeiriad gan esgob Llanelwy yn 1811. Ei guradiaeth gyntaf oedd Llandrillo-yn-Rhos, ger Colwyn. Bu yno chwe mlynedd a'r wlad ogylch yn tyrru i'w wrando. Derbyniodd
  • HUGHES, JOHN CEIRIOG (1832 - 1887), bardd eiriau. Y mae'r geiriau yn ei gerddi yn fwy na geiriau; y maent yn eiriau wedi eu priodi â nodau. Yn Songs of Wales (Brinley Richards) y gwelir cerddi Ceiriog yn eu cyfle iawn. Yn ei lythyrau fe welir iddo lunio rhai caneuon ar gais cantorion, ac adroddiadau ar gais adroddwyr, i'w canu a'u hadrodd mewn cyngherddau a chyfarfodydd adloniadol. Bardd y piano oedd Ceiriog; bardd y gyngerdd. Yn 1865
  • HUGHES, JOHN EDWARD (1879 - 1959), gweinidog (MC) ac awdur Ganwyd 8 Mehefin 1879 yn y Gronglwyd, Cerrigydrudion, Sir Ddinbych, mab John a Jane Hughes. Addysgwyd ef yn ysgol y pentref, ysgol ramadeg y Bala, Coleg y Brifysgol, Aberystwyth (lle graddiodd yn y celfyddydau), a Choleg Diwinyddol y Bala (lle graddiodd mewn diwinyddiaeth). Ei gydletywr yn Aberystwyth oedd ei gyfyrder, R.T. Jenkins - wedi hynny ei gyd-frawd-yng-nghyfraith. Dechreuasai bregethu yn
  • HUGHES, JOHN GRUFFYDD MOELWYN (1866 - 1944), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd Caniadau cyhoeddodd Yr Athro o Ddifrif, 1903, Cofiant a Phregethau'r Parch. Griffith Davies, Aberteifi, (cydolygiaeth â'r Dr. J. Cynddylan Jones), Llewyrch y Cwmwl, Anfarwoldeb yr Enaid, A New Method for the Study of the German Language, Pedair Cymwynas Pantycelyn, 1922, Mr. Saunders Lewis a Williams Pantycelyn, 1928, Addoli, 1935, Pregethau Moelwyn, 1925. Yr oedd yn dra chymeradwy fel darlithydd a
  • HUGHES, JOHN HENRY (Ieuan o Leyn; 1814 - 1893), gweinidog a bardd Ganwyd yn Ty'n-y-pwll, Llaniestyn, Sir Gaernarfon, 11 Hydref 1814. Cafodd addysg yn ysgol Botwnnog, a bu am ysbaid yn athro cynorthwyol yn yr ysgol a gadwai Arthur Jones ym Mangor. Yna aeth i Goleg Aberhonddu, ac ordeiniwyd ef yn weinidog yn Llangollen yn 1843. Yn 1847 aeth yn weinidog ar eglwys Gynulleidfaol Demerara, British Guiana. Bu raid iddo ddychwelyd oddi yno oherwydd afiechyd ei wraig
  • HUGHES, JOHN JAMES (Alfardd; 1842 - 1875?), newyddiadurwr Ganwyd yn y Garreg Lefn, plwyf Llanbadrig, Môn. Llafurwr amaethyddol oedd ei dad, a bu yntau yn gweini ar ffermydd am ysbaid cyn myned i Fangor yn was saer maen. Ym Mangor daeth dan ddylanwad gŵr arall o Fôn, ' Gweirydd ap Rhys ', a dechreuodd ei ddiwyllio ei hun. Yn 1866 ymunodd â heddlu sir Gaernarfon, ond ymddiswyddodd tua 1869 pan benodwyd ef yn is-olygydd Yr Herald Cymraeg yng Nghaernarfon
  • HUGHES, JOHN RICHARD (1828 - 1893), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, nodedig fel efengylydd Edwards, aeth i athrofa'r Bala. Wedi tymor byr fel bugail yn Birmingham ac yng Nghemaes, Maldwyn, symudodd, yn 1859, i Frynteg, ym mro Goronwy ym Môn, lle y trigodd weddill ei oes, oddigerth pedair blynedd (1878-82) y bu'n fugail ar eglwys 'Armenia,' Caergybi. Llanwai le blaenllaw yn y sir ynglŷn ag addysg a dirwest, ond y gwaith yr oedd o ran dawn a thueddfryd yn rhagori ynddo ydoedd efengylu. Bu
  • HUGHES, JOHN WILLIAM (Edeyrn ap Nudd, Edeyrn o Fôn; 1817 - 1849), llenor crwydrad