Canlyniadau chwilio

145 - 156 of 244 for "Haf"

145 - 156 of 244 for "Haf"

  • NICHOLLS, JOHN (1555 - 1584?), diwinydd dadleugar Yr unig gysylltiad rhyngddo a Chymru oedd ei eni yn y Bont-faen, yn fab i un John Nicholls. Aeth i White Hall (Coleg Iesu wedi hynny), Rhydychen, symudodd oddi yno i Goleg Brasenose, a gadawodd heb raddio. Wedi gadael y brifysgol dychwelodd adref, a bu'n diwtor cyn iddo gael curadiaeth yn Withycombe, Gwlad yr Haf. Treuliodd weddill ei oes fer mewn rhan ar y Cyfandir ac mewn rhan yn Lloegr, gan
  • OWAIN ap THOMAS ap RHODRI (bu farw 1378), milwr wrth ei grefft ac ymhonnwr i dywysogaeth Cymru ' Yevain de Galles ' neu ' Owen of Wales ' a chael ei gyfrif yn wr eithriadol fel arweinydd lluoedd milwrol cyflogedig, nid yn unig yn Ffrainc eithr hefyd yn Lombardi, Llydaw, Alsas, a'r Yswistir. Daeth i Loegr yn haf 1365 er mwyn hawlio ei dreftadaeth o ochr ei dad (gweler Thomas ap Rhodri); wedi iddo ennill y stad aeth yn ôl i Ffrainc ym mis Mawrth 1366. Yn niwedd y flwyddyn 1369 - ym mis Ebrill y
  • OWAIN GLYNDWR (c. 1354 - 1416), 'Tywysog Cymru' wedi cwymp Llywelyn II. Ar 16 Medi 1400, mewn cydweithrediad â nifer o'i berthynasau, ymosododd Owain ar Ruthyn. Dilynwyd hyn gan ymosodiadau ar fwrdeisdrefi eraill yn y gymdogaeth ac wedi hynny; y mae'r cofnodion hanesyddol yn rhyfeddol o ddisôn am ei symudiadau. Yn y cyfamser cymerodd ei gefndyr (gweler Tudur) yr arweiniad i'w dwylo eu hunain, ond yn haf 1401, fodd bynnag, daw Owain i'r amlwg
  • OWAIN, OWAIN LLEWELYN (1877 - 1956), llenor, cerddor, a newyddiadurwr Haf'. Trefnwyd gorymdaith gyda seindorf Nantlle ar y blaen i groesawu'r ddau adre o'r eisteddfod honno. Priododd (1) Claudia Roberts, 12 Mehefin 1916 a bu iddynt un ferch. Bu farw ei wraig 29 Tachwedd 1918 a phriododd (2) yn 1921 Enid May Jones, Y Felinheli. Bu farw yn ei gartref Bryn-y-coed, 10 Pretoria Avenue, Caernarfon, 8 Ionawr 1956 gan adael gweddw, a mab a merch. Amlosgwyd ei weddillion ym
  • teulu OWEN BODEON, BODOWEN, cynrychiolid y teulu gan y cyrnol HUGH OWEN a HENRY OWEN o Faesoglan, dau frawd, a dau gefnder i'r ail Syr Hugh; y mae cof byw am y cyrnol ar fur eglwys Llangadwaladr a godwyd gan ei wraig Ann yn 1660. Enwyd y ddau frawd yn Chwefror 1648 fel comisiynwyr i gasglu arian ym Môn er mwyn cyfnerthu adnoddau'r Senedd, ond yn haf yr un flwyddyn yr oedd y ddau'n arwyddo declarasiwn gwrthryfelgar yr ynys, declarasiwn
  • OWEN, GORONWY (1723 - 1769), clerigwr a bardd chychwynnodd ar ei waith tua 9 Ebrill 1758, ac yr oedd hefyd, yn ôl pob tebyg, yn 'Professor of Humanity' (h.y. Lladin) yn yr un coleg. Cyn diwedd yr haf cyntaf priododd â Mrs. Clayton, chwaer llywydd y coleg, ond bu hi farw o fewn blwyddyn. Ymddiswyddodd o'r coleg, a chynnig am fywoliaeth S. Andrews, Brunswick County, Virginia, ar 25 Awst 1760, a'i chael ymhen blwyddyn, ac yno y bu tan ddiwedd ei oes. Yn
  • OWEN, HUGH (1575? - 1642) Gwenynog,, cyfieithydd etifeddodd Herbert iarllaeth Worcester. Parhaodd yng ngwasanaeth yr iarll hyd tua chanol 1640, pryd yr ymddengys iddo ymneilltuo i fyw yn ardal abaty Tintern, ac yno, ym mhlwyf Chapel Hill, y bu farw, rhywdro rhwng Mawrth a Gorffennaf 1642. Hyd y gwyddys, ni ddychwelodd i Fôn ond ar un achlysur yn unig, a hynny am ysbaid byr tua chanol haf 1624. Priododd ag Elisabeth, ferch Thomas Bulkeley o'r Groesfechan
  • OWEN, RICHARD GRIFFITH (Pencerdd Llyfnwy; 1869 - 1930) . Enillodd yn eisteddfod Corwen ar drefnu alawon Cymreig i'r gerddorfa, ac 'O, na byddai'n haf o hyd' yn eisteddfod Môn. Cafodd y wobr am gantawd ddirwestol yn eisteddfod Lerpwl, a llawer o wobrwyon eraill am anthemau a darnau cerddorol. Gadawodd mewn llawysgrif gyfansoddiadau cerddorfaol, cantawd, a darnau offerynnol. Cyhoeddodd gasgliad o donau dan yr enw Llais y Durtur, a cheir tonau o'i waith yn Llyfr
  • OWEN, WILLIAM (1750 - 1830), clerigwr efengylaidd Olynydd Thomas Charles o'r Bala yn Sparkford a Milborne Port, Gwlad yr Haf; mab hynaf Joseph Owen, rhydd-ddeiliad y Fron Goch, Nanhyfer, Sir Benfro; ganwyd yn 1750. Ordeiniwyd ef yn ddiacon ar 15 Awst 1773 ac yn offeiriad ar 6 Awst 1775. Bu'n gurad yn ei gartref, sef Nanhyfer, 1775-9, yn Sparkford, 1783-5, ac yn Milborne Port, 1785-91, gan ddyfod yn gurad 'parhaol' yn Milborne Port yn nes ymlaen
  • OWEN, WILLIAM (Gwilym Meudwy, Gwilym Glan Llwchwr; 1841 - 1902), bardd cocos a chrwydryn saer coed yn ardal y Trap ger Llandeilo yn 1856, ond dychwelodd at ei dad i'r ffatri wlân ymhen tair blynedd. Bu farw ei dad yn 1865 a'i fam yn 1877, a chrwydryn fu Gwilym Meudwy fyth wedyn. Treuliai'r haf yn y ffynhonnau yn Llanwrtyd a Llandrindod, gan ddychwelyd i ardaloedd Brynaman, Llanelli ac Abertawe dros fisoedd y gaeaf. Ar y pererindodau blynyddol hyn y gwerthai gynnyrch ei awen, a bu'n cadw
  • OWEN, Syr JOHN (1600 - 1666), llywiawdr ym myddin y Brenhinwyr hyd yr haf dilynol. Mewn ymladdfeydd yng nghyffiniau Rhydychen y buont i gychwyn (Mai 1643), ac wedyn yng ngwarchae Bryste; yno, ac yntau'n bennaeth y chweched gatrawd o dan y tywysog Rupert, fe'i clwyfwyd yn ei wyneb (18 Gorffennaf), ond ymladdodd eto gerllaw Newbury (20 Hydref). Y flwyddyn ddilynol galwyd arno i ddychwelyd a bod yn siryf Sir Gaernarfon am yr ail dro; bu yn y swydd hyd nes peidiodd
  • PALMER, ALFRED NEOBARD (1847 - 1915), hanesydd , gan eu rhoddi yn Llyfrgell Rydd Wrecsam, gasgliad o gopïau o hen gofysgrifau o ddiddordeb lleol sydd i'w chael yn y Public Record Office - arfaethai Palmer i'r casgliad hwn fod y cyntaf mewn cyfres. Yn haf 1889 ymgymerodd â gwaith a roes Seebohm iddo - sef gwneuthur ymchwil i gyfundrefn y ffermydd bychain ('crofts') yn ynysoedd gorllewinol Ysgotland. Ond yr oedd cyflwr ei iechyd a'i amgylchiadau