Canlyniadau chwilio

1573 - 1584 of 1867 for "Mai"

1573 - 1584 of 1867 for "Mai"

  • THOMAS, DAVID (bu farw 1780?), gweinidog gyda'r Annibynwyr Yr unig hanes amdano sydd ar glawr yw'r hyn a geir yn Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru, iii, 504-5, lle y dywedir mai o'r Cilgwyn yng Ngheredigion y tarddai, ei fod yn byw yn Ffos-yr-efail, Llandeilo Fach, ei fod yn ŵr cefnog, ac iddo gael ei urddo tua 1739 yn weinidog Llanedi. Er na welir mo'i enw (am ryw reswm) yn rhestr W. D. Jeremy (copi yn NLW MS 362A), gellir pigo ambell friwsionyn amdano o
  • THOMAS, DAVID (bu farw 1735), bardd Dywed Edward Evan mai o Geredigion yr hanoedd, ac iddo ddyfod i Forgannwg yn 1727 - yn ôl ' Iolo Morganwg ' yr oedd y pryd hynny rhwng 12 a 15 oed. Ymsefydlodd ym Metws Tir Iarll; yr oedd yn aelod o gynulleidfa Rees Price, Tyn-ton; tua 1730 dechreuodd brydyddu dan hyfforddiant John Bradford, ac yn 1734 y mae Bradford yn ei enwi ymhlith ' gramadegwyr ' Morgannwg. Ond cyn 1734 yr oedd wedi priodi
  • THOMAS, DAVID (1739? - 1788), meddyg esgyrn Ganwyd yn y Cwrt, Pembre, Sir Gaerfyrddin. Efe oedd yr enwocaf o deulu a fu'n boblogaidd am flynyddoedd lawer fel meddygon esgyrn ac a enillodd hyder nifer fawr o'u cyfoeswyr. Yr oedd yn feddyg esgyrn wrth synnwyr naturiol yn hytrach nag oblegid ei ddysgeidiaeth yn yr alwedigaeth honno. Bu farw 25 Mai 1788 yn 49 mlwydd oed.
  • THOMAS, DAVID JOHN (Afan; 1881 - 1928), cerddor Trumpets,' ' Eiluned,' ' Cymru Fach i Mi,' ' Suogân,' a ' Beth wna Ddyn '; a gadawodd ar ei ôl dros gant mewn llawysgrif. Cyhoeddodd hefyd ddau gasgliad o'i emyn-donau yn dwyn y teitl Eirin Afan, i a ii; ceir ei donau yn ein llyfr emynau hefyd; ac y mae 60 eraill heb eu cyhoeddi. Gwreiddioldeb oedd nodwedd amlycaf y cerddor hwn a'i gerddoriaeth. Bu farw 13 Mai 1928, a chladdwyd ef ym mynwent y plwyf
  • THOMAS, DEWI-PRYS (1916 - 1985), pensaer Ganwyd Dewi-Prys Thomas ar 5 Awst 1916 yn ardal Toxteth Park, Lerpwl, plentyn hynaf Adolphus Dan Thomas (1889-1974), swyddog undeb y gweithwyr banc, a'i wraig Elysabeth (Lys) Watkin Thomas (g. Jones, 1888-1953). Ganwyd ei chwaer Rhiannon ('Nannon') Prys Thomas yn 1919. Roedd yr hanesydd Robert John Pryse ('Gweirydd ap Rhys', 1807-1889) yn hen daid iddo. Sylwer mai yn ddiweddarach y mabwysiadodd
  • THOMAS, DYLAN MARLAIS (1914 - 1953), bardd a llenor Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Saesneg) yn erbyn magu Dylan a'i chwaer hŷn Nancy (1906-1953) yn Gymry Cymraeg, yn y gred mai Saesneg oedd y ffordd i 'ddod ymlaen' yn y byd. Talodd hefyd iddynt gael gwersi llafareg, ffasiwn dosbarth-canol yn Abertawe ar y pryd, er mwyn osgoi hyd yn oed acen Gymreig. Gan fod Abertawe'n dal yn dref ddwyieithog i raddau helaeth, ac y gallasai'r cartref fod yn naturiol
  • THOMAS, DYLAN MARLAIS (1914 - 1953) yn ail rhwng cylch llenyddol-gymdeithasol Llundain a chyfnodau mwy creadigol yng Nghymru. Dechreuodd cyfeillgarwch agos rhyngddo a'r bardd VernonWatkins yn Abertawe yn 1935. Cyfarfu â Caitlin Macnamara yn 1936 a phriodasant y flwyddyn wedyn. Ym mis Mai 1938 symudasant i fyw yn Nhalacharn, Sir Gaerfyrddin, am y tro cyntaf; bu'r pentref hwn, sydd ynghlwm wrth ei enw bellach, yn ddylanwad cryf ar ei
  • THOMAS, EDWARD WILLIAM (1814 - 1892), cerddor 1865, Caer 1866, Pwllheli 1875, a Lerpwl 1885. Cyfansoddodd lawer o ddarnau cerddorol i'r ffidil, a chyflwynodd ei ' Violin Concerto ' i'r cerddor enwog Joseph Joachim. Ceir ' Cân Bugail Morgannwg ' ganddo yn Greal y Corau, Mai 1861. Yn ei flynyddoedd olaf symudodd i fyw i'r Dinas Dinlle Hotel, ac yno y bu farw 4 Hydref 1892. Claddwyd ef ym mynwent eglwys Llandwrog.
  • THOMAS, EDWARD (1925 - 1997), paffiwr a hyfforddwr hynod o lwyddiannus a gwr cyhoeddus ym mywyd Merthyr Tudful baffiwr proffesiynol o dan gyfarwyddid Sam Burns ond daliodd i weithio fel glöwr. Gwnaeth enw iddo'i hun ac i'w dref enedigol fel paffiwr proffesiynol. Bu 1948 yn flwyddyn bwysig iddo ar ei yrfa. Ymladdodd wyth gornest ac ennill saith ohonynt. Enillodd bencampwriaeth pwysau welter Cymru pan enillodd yn erbyn Jack Phillips yn Llundain ar 31 Mai ac yna amddiffynnodd y teitl ar 21 Medi yn erbyn Gwyn
  • THOMAS, GEORGE (1786 - 1859), awdur barddoniaeth ffug-arwrol a dychanol yn ymwneuthur â sir Drefaldwyn busnes yn y Trallwng, ac wedi hynny bu'n gweithio drosto'i hunan yn y dref honno fel malwr ydau, etc. Cymerodd denantiaeth Abbot's Mill yn Nhrelydan ger Cegidfa yn 1811 lle y dywedir mai ef oedd y melinydd olaf. Bu'n glerc i deuluoedd Newton Hall a Cilgwrgan (Abermule), a hefyd yn glerc i'r Forden House of Industry (Montgomery and Pool House of Industry) o c. 1820 hyd c. 1840. Yn ddiweddarach bu'n
  • THOMAS, HUGH (bu farw 1720), herod a hynafiaethydd Welsh MSS. in the British Museum, ii (mynegai lawn) - y mae yno hefyd lythyrau ato gan Edward Lhuyd, William Lewes o'r Llwynderw, a hynafiaethwyr eraill. Erbyn 1703, yr oedd yn ddirprwy i'r 'Garter King-at-arms,' ac ymddengys oddi wrth lythyr ato (1710/11) gan William Lewes mai ganddo ef yr oedd yr unig hawl i gofrestru achau Cymreig y tu allan i siroedd Aberteifi a Maesyfed. Yr oedd yn ei fryd
  • THOMAS, HUGH HAMSHAW (1885 - 1962), palaeofotanegydd Ganwyd 29 Mai 1885 yn Wrecsam, Dinbych, ail fab o dri phlentyn William Hamshaw Thomas (dilledydd dynion) a'i wraig Elizabeth Lloyd. Addysgwyd ef yn ysgol ramadeg Grove Park, Wrecsam, a Choleg Downing, Caergrawnt lle'r aeth yn 1904. Ac yntau'n blentyn ysgol yr oedd wedi magu diddordeb deallus mewn botaneg a phlanhigion-ffosil, ac enillodd ddosbarth cyntaf yn rhan 1 y tripos Hanes Naturiol yn 1906