Canlyniadau chwilio

1669 - 1680 of 3961 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

1669 - 1680 of 3961 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

  • JONES, DAVID (Dafydd Brydydd Hir, Dafydd Siôn Pirs; 1732 - 1782?), bardd, teiliwr, ac ysgolfeistr Bedyddiwyd 29 Hydref 1732, mab John Pierce a'i wraig Anne, tafarnwraig yr 'Harp' yn Llanfair Talhaearn. Dyfynnir ei ddisgrifiad byw ohono'i hunan gan ' Talhaiarn' - dyn tal, main, barfog, sychedig. Cwmnïai â 'Ieuan Fardd' pan oedd hwnnw'n gurad Llanfair, ac â'i gydblwyfolion Robert Thomas a John Powel - canodd farwnad i Powel (gweler Additional Letters of the Morrises of Anglesey (1735-86), t
  • JONES, DAVID (Dewi Wyllt; 1836 - 1878?), cerddor Ganwyd ym Mallwyd, Sir Feirionnydd. Gwehydd oedd ei dad, a rhoddodd addysg dda i'r mab. Bu ' Dewi Wyllt ' yn canu'r organ yn eglwys Mallwyd, a chyhoeddodd, yn 23 oed, gasgliad o donau dan yr enw Udgorn Seion yn cynnwys 142 o donau; yn eu mysg ceir tonau o waith Ambrose Lloyd, ' Owain Alaw,' ac ' Eos Llechid.' Symudodd y teulu o Mallwyd i dref Caernarfon tua 1859. Prentisiwyd ef yn feddyg gyda Dr
  • JONES, DAVID (1793 - 1825), gweinidog yng nghyfundeb yr iarlles Huntingdon, ieithydd medrus, ac un o awduron Principia Hebraica, 1817 Ganwyd yng Nghwm Creigiau Fach, Sir Gaerfyrddin, 11 Chwefror 1793, yn fab i'r Parch. Thomas Jones, Caerfyrddin. Cafodd addysg dda, yn breifat i ddechrau, ac yna yn ysgol David Peter yng Nghaerfyrddin, yn y Coleg Presbyteraidd yn yr un dref, ac yng Ngholeg Cheshunt, Swydd Hertford. Astudiodd Arabeg, Syrieg, a Pherseg yn ogystal â Hebraeg a'r ieithoedd clasurol. Ordeiniwyd ef yn 1814, ac yn 1821
  • JONES, DAVID (1772 - 1854), gweinidog gyda'r Bedyddwyr Cyffredinol Ganwyd yn nyffryn Ceidrych, Llangadog. Cafodd beth addysg, ac'aeth yn saer maen. Bedyddiwyd ef, yn 27 oed, gan Moses Williams, gweinidog Bedyddwyr Cyffredinol Pontbren-Araeth, yn 1799. Yn y rhwyg a ddaeth ar Fedyddwyr y de-orllewin yn y flwyddyn honno, meddiannodd y blaid Arminaidd yn Salem Llangyfelach dŷ cwrdd bychan yng Nghlydach (Cwm Tawe) o'r enw ' Capel-y-Cwar,' a godwyd gan Salem yn 1795
  • JONES, DAVID (1797 - 1841), cenhadwr Cenhadwr ym Madagascar am yn agos i chwarter canrif o dan nawdd Cymdeithas Genhadol Llundain; ganwyd yn Penrhiw, gerllaw Neuadd-lwyd, Sir Aberteifi. Yn 14 oed aeth i athrofa Dr. Thomas Phillips yn Neuadd-lwyd, a phan oedd yn 16 oed dechreuodd deimlo y carai bregethu. Bu wedyn o dan addysg yn Llanfyllin a Gosport. Fe'i cynigiodd ei hun i wasanaeth Cymdeithas Genhadol Llundain, ordeiniwyd ef yn
  • JONES, DAVID (1834 - 1890) Wallington, hanesydd lleol ac achydd yn yr eglwysi a'r mynwentydd a darnau helaeth o gofnodion fel cofrestri plwyfol a'r dyddiadur eithriadol a gadwyd gan yr ysgolfeistr William Thomas (1727 - 1795). Ychwanegir yn fawr at werth ei grynodebau a'i gopïau gan y mynegion manwl a baratôdd. Weithiau y mae ei gasgliadau yn ymwneud ag ardal ehangach na Sir Forgannwg. Yn Somerset House, e.e., gwnaeth grynodebau o holl ewyllysiau Cymru hyd 1650
  • JONES, DAVID BEVAN (Dewi Elfed; 1807 - 1863), gweinidog (B ac Eglwys Iesu Grist a Saint y Dyddiau Diwethaf - Mormoniaid) Gymanfa Bedyddwyr Morgannwg yn Aberdâr, Tachwedd 1850, a diarddelwyd ef a chynulleidfa Gwawr o aelodaeth yn y Gymanfa. Yn 1851 aeth at William Phillips, llywydd y Saint yng Nghymru, a derbyniodd fedydd y Mormoniaid (gyda phedwar arall) yn afon Cynon, 27 Ebrill 1851, gerbron tyrfa o tua 2,000 cyn dychwelyd i'r capel lle y gwnaed ef yn offeiriad ymysg Saint y Dyddiau Diwethaf. Dyma un o uchafbwyntiau'r
  • JONES, DAVID GEORGE (1780 - 1879), gof o Dir-Waun, Llanarthne, Sir Gaerfyrddin. Yn ôl ei garreg fedd, efo oedd awdur y pennill adnabyddus iawn ' Bydd myrdd o ryfeddodau '; gweler yr ymdriniaeth ar t. 17 o argr. Gomer M. Roberts (1961) o Emynau a'u Hawduriaid, J. Thickens.
  • JONES, DAVID GWYNFRYN (1867 - 1954), gweinidog (EF) pregethwyr ei oes. Yn 1938 aeth yn uwchrif a gwnaed tysteb iddo gan y Gymanfa. Daliodd lawer swydd arall: golygydd Y Winllan, ysgrifennydd Cyngor Eglwysi Rhyddion Gogledd Cymru, ynad heddwch, aelod o gyngor sir y Fflint, llywydd Cynghrair Plaid Lafur Gogledd Cymru, ymgeisydd seneddol Llafur dros sir Fflint yn 1922 ac 1924. Yr oedd yn gyd-awdur Cofiant Glanystwyth (1904) a golygodd Odlau Moliant (1905) at
  • JONES, DAVID HUGH (Dewi Arfon; 1833 - 1869), gweinidog (MC), ysgolfeistr a bardd Ganwyd 6 Gorffennaf 1833 yn y Ty Du, Llanberis, Sir Gaernarfon, yn fab i Hugh ac Ellen Jones. Ef oedd yr hynaf o bedwar o blant, a brawd iddo oedd Griffith Hugh Jones ('Gutyn Arfon') awdur y dôn 'Llef', a gyfansoddwyd er cof am 'Dewi Arfon'. Pan oedd Dewi Arfon tua phump oed aeth i ysgol a gynhelid gan wr o'r enw Ellis Thomas yn y Capel Coch, Llanberis. Ar ôl hynny bu mewn ysgol a gedwid gan John
  • JONES, DAVID JAMES (Gwenallt; 1899 - 1968), bardd, beirniad ac ysgolhaig Ganwyd 18 Mai 1899, ym Mhontardawe, Morgannwg, yr hynaf o dri phlentyn Thomas ('Ehedydd') Jones a'i wraig Mary. Hanai ei rieni o Sir Gaerfyrddin ac yr oedd ei ymwybod â'i wreiddiau yn elfen bwysig yn ei bersonoliaeth, fel y gwelir o'i ysgrif ar ' Y Fro: Rhydycymerau ' yng nghyfrol deyrnged D. J. Williams (gol. J. Gwyn Griffiths, 1965). Symudodd y teulu i'r Allt-wen ac addysgwyd Gwenallt mewn
  • JONES, DAVID JAMES (1886 - 1947), athro athroniaeth Ganwyd 22 Rhagfyr 1886 yn y Pandy, Pontarddulais, mab William a Jane Jones. Cafodd ei addysg yn ysgol ganolraddol Tregŵyr, coleg y Brifysgol yng Nghaerdydd, a choleg Emmanuel, Caergrawnt; graddiodd yn B.A. (Cymru) gydag anrhydedd yn y dosbarth cyntaf mewn Hebraeg ac athroniaeth, a daeth yn gymrawd o Brifysgol Cymru; cymerodd radd M.A. yn 1912. Ordeiniwyd ef, 1915, yn weinidog gyda'r Methodistiaid