Canlyniadau chwilio

1705 - 1716 of 3961 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

1705 - 1716 of 3961 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

  • JONES, EDWARD (1641 - 1703), esgob Llanelwy esgobaeth Llanelwy, yn olynydd i William Lloyd. ' Llwgr - llac - gorthrymus ' yw'r disgrifiad cryno a roddir o'i ymdrin â'i esgobaeth yno. Aeth yn ormod i'w oddef; yn 1697 achwynodd ei glerigwyr arno wrth archesgob Caergaint. Gwysiwyd ef o flaen llys yr archesgob yn 1698, ond llwyddodd ei gefnogwyr i ohirio'r praw hyd 1700. Yn 1701 amddifadwyd ef o'i swydd (ac o'i dâl) 'am chwe mis - a mwy, hyd oni wnâi
  • JONES, EDWARD (1749 - 1779), cerddor Ganwyd yn Dolydd-byrion, ger Cricieth, Sir Gaernarfon. Cyfansoddodd lawer o donau ac anthemau a adawodd mewn llawysgrif ar ei ôl. Daeth ei anthem, ' Arglwydd, chwiliaist ac adnabuost fi,' yn hynod boblogaidd. Trefnodd William Owen, Tremadog, yr anthem, ac fe'i ceir fel y trefnodd ' Ieuan Gwyllt ' hi yn Y Cerddor Cymreig, rhif 107 a 108, a llythyr parthed ei hawduriaeth yn rhifyn Mawrth 1870 o'r Y
  • JONES, EDWARD ALFRED (1871 - 1943), arbenigwr ar lestri arian Archaeologia Cambrensis yn 1904 a bu'n gyfrannwr cyson hyd ddiwedd ei oes i gylchgronau fel y Burlington Magazine (e.e. ' Some old silver plate in the possession of Lord Mostyn ', 1907), Connoisseur (e.e. ' Welsh goldsmiths ', 1941), Apollo, Athenaeum ac Art in America. The church plate of the diocese of Bangor (1906) oedd ei gyfrol gyntaf a dilynwyd hon yn fuan gan nifer o gyfrolau a chatalogau yn ymdrin â
  • JONES, ELEN ROGER (1908 - 1999), actores ac athrawes Ganwyd Elen Roger Jones ar 27 Awst 1908 ym Marian-Glas, Ynys Môn, yn ferch i William Griffith (1873-1935), Ysgrifennydd Pwyllgor Addysg Môn, a'i wraig Mary (ganwyd Williams, bu farw 1961). Plentyn cyntaf William oedd Elen a'r ail blentyn i Mary, wedi iddi gael mab gyda'i gŵr blaenorol, capten a fu farw mewn storm wrth deithio ar long ychydig fisoedd cyn genedigaeth eu plentyn, a gafodd ei enwi'n
  • JONES, ELIZABETH JANE LOUIS (1889 - 1952), ysgolhaig Ganwyd 28 Ebrill 1889 yn Llanilar, Ceredigion, unig blentyn John Lloyd, marchnatwr coed, a'i wraig Elizabeth (ganwyd Edwards). Cafodd ei haddysg gynnar yn Ysgol y Sir, Aberystwyth ac oddi yno aeth i Goleg y Brifysgol, Aberystwyth, ac yn 1911 graddiodd gydag anrhydedd yn y dosbarth cyntaf mewn Cymraeg. Dyfarnwyd iddi Gymrodoriaeth gan y Brifysgol ar gyfrif ei theilyngdod. Parhaodd i astudio am
  • JONES, ELIZABETH MAY WATKIN (1907 - 1965), athrawes ac ymgyrchydd fagwyd yn Rhydlydan, Pentrefoelas, sir Ddinbych, yn athrawes yn ei hardal enedigol, cyn dysgu yn Barnsley, swydd Efrog, ac yn Llandudno. Priododd y rhieni ym mis Ebrill 1906, gan ymgartrefu yn gyntaf yn Gwern Tegid, Capel Celyn, cyn symud yn ddiweddarach i'r Llythyrdy yn y pentref. Daeth Annie yn hwyluswr gweithgarwch ei gŵr yn ei swydd gyflogedig ac fel arweinydd corawl a beirniad; yn gymeriad cynnes
  • JONES, EMRYS (1920 - 2006), daearyddwr Ganwyd Emrys Jones yn 3 Stryd Henry, Aberaman, Aberdâr, Morgannwg, 17 Awst 1920. Ei rieni oedd Samuel ac Annie (née Williams) Jones. 'Roedd y daearegwr Syr Alwyn Williams, nai i'w fam, yn gefnder iddo. Megis llu o'i gydoeswyr ym mlynyddoedd y dirwasgiad, etifeddiaeth ei fagwriaeth yn y cymoedd glo oedd ymrwymiad llwyr i Gymru, ei hiaith a'i diwylliant ac i radicaliaeth gymdeithasol a pholiticaidd
  • JONES, EMYR WYN (1907 - 1999), cardiolegydd ac awdur mewn cerdd gan Alun Llywelyn-Williams, 'Taith i Lety'r Eos'. Trwy flynyddoedd y rhyfel daliodd Emyr i gyflawni ei waith fel ymgynghorydd yn Lerpwl. Ar ddychweliad y teulu i Lerpwl yn 1948 ymdaflodd Enid Wyn Jones i fywyd crefyddol a diwylliant Cymraeg dinas Lerpwl, gan gynnwys pregethu yng nghapeli Cymraeg bychain Sir Gaerhirfryn, a chwaraeodd Emyr ran flaenllaw mewn cymdeithasau megis Undeb Corawl
  • JONES, ENID WYN (1909 - 1967), gwraig nodedig am ei gweithgarwch ym mywyd crefyddol a chymdeithasol Cymru a Lloegr Ganwyd 17 Ionawr 1909 yn Wrecsam, Sir Ddinbych, yn ferch i'r Dr. David Llewelyn Williams a Margaret Williams. Brawd iddi oedd y bardd Alun Llywelyn-Williams. Symudodd y teulu i Gaerdydd ychydig cyn Rhyfel Byd I, ond yn ystod y rhyfel fe'i magwyd hi yn y Rhyl. Addysgwyd hi yn y Welsh Girls' School, Ashford o 1919 i 1926, ac yna dilynodd gwrs llawn o hyfforddiant fel gweinyddes yn Ysbyty Brenhinol
  • JONES, ENOCH ROWLAND (1912 - 1978), chwaraewr iwffoniwm a chanwr Ganwyd Rowland Jones ar 19 Gorffennaf 1912 yng Ngwauncaegurwen yn Nyffryn Aman, Sir Forgannwg, yn fab i Timothy Jones, glöwr, a'i wraig Annie (ganwyd Lloyd). Roedd ganddo chwaer iau, Peggy, a chwaer hŷn, Nellie Bronwen. Amlygodd ddawn gerddorol yn blentyn, ac yn ddeuddeg oed, dair blynedd cyn iddo ddechrau gweithio yn y pwll glo lleol, ymunodd â band pres y pentref. Ei dad-cu oedd yr arweinydd
  • JONES, ERASMUS (1817 - 1909), nofelydd Ganwyd 17 Rhagfyr 1817 ym mhlwyf Llanddeiniolen, Sir Gaernarfon. Bu yn ysgol Pentir, Sir Gaernarfon, eithr ymfudodd i Unol Daleithiau'r America yn 1833 gydag un o'i frodyr, ac ymsefydlu yn Efrog Newydd. Bu yn Trenton am gyfnod, yna yn Efrog Newydd, ac wedyn yn Remsen, Oneida County, talaith Efrog Newydd. Aeth i weinidogaeth y 'Methodist Episcopal Church' tua 1848. Yn 1852 dychwelodd i Gymru ac
  • JONES, EVAN (Ieuan Buallt; 1850 - 1928), amaethwr, hanesydd lleol, a hynafiaethydd Ganwyd 6 Chwefror 1850 yn Tynypant, Llanwrtyd, sir Frycheiniog. Rhoes lawer o'i hamdden i astudio a chasglu esiamplau o bethau yn taflu goleuni ar hanes, traddodiadau, hynafiaethau, ffraethebion, diarhebion, a llên gwerin yr ardal y treuliodd ei oes ynddi. Ysgrifennai ar rai o'r pynciau hyn i Cymru (O.M.E.) - gweler cyf. 65, 66, 67, a 69, i'r Geninen, ac i gylchgronau eraill. Dair blynedd cyn ei