Canlyniadau chwilio

169 - 180 of 403 for "Môn"

169 - 180 of 403 for "Môn"

  • JONES, JOHN (Ioan Bryngwyn Bach; 1818 - 1898), gweithiwr, serydd, ac ieithydd Ganwyd yn Bryngwyn Bach, Dwyran, Môn, 1818. Gwas fferm oedd i ddechrau, a llwytho llechi ym Mhorth Penrhyn oedd ei waith o 1848 ymlaen, ond astudiodd ei hoff bynciau ar hyd ei oes. Yr oedd yn serydd gwych, a gwnaeth ddau sbienddrych iddo'i hun. Galwai plant Bangor ef yn ' John Jones y Sêr.' Dysgodd ieithoedd, a meddai 26 o eiriaduron. Darllenai'r Beibl yn Gymraeg, Saesneg, Groeg, a Hebraeg gyda'i
  • JONES, JOHN (1761 - 1822) Edern, gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd Ganwyd yn Nhyddyn-Dafydd-Ddu, plwyf Llandwrog, Sir Gaernarfon, ond fe'i magwyd yn nhref Caernarfon hyd yn 17 oed, a bu yn ysgol un Thomas Brown. Anfonwyd ef i'r Wyddgrug i ddysgu gwaith eilliwr. Wedi dwy flynedd dychwelodd at ei deulu, a oedd erbyn hynny yn byw yn Amlwch, Môn. Argyhoeddwyd ef yn adeg ymweliad Dafydd Morris o'r Deheudir â Môn, a dechreuodd bregethu yn 1784. Gŵr cadarn, nerthol
  • JONES, JOHN (Mathetes; 1821 - 1878), gweinidog Bedyddwyr a llenor 1846, a symudodd i'r Deml, Casnewydd, 1854, Llangollen (yn gyd-weinidog â'r Dr. John Prichard), 1857, Llanfachraeth (Môn), 1859, y Pil (Morgannwg), 1861, Penuel, Rhymni, 1862 (gyda Siloam, Tafarnau-Bach, 1871-5), a Llansawel (Briton Ferry), 1877. Bu farw yno 18 Tachwedd 1878, a chladdwyd ef yn y Pant, Dowlais. Priododd deirgwaith, a ganed iddo chwech o blant. Yr oedd yn llenor o fri. Bu'n fuddugol
  • JONES, JOHN HENRY (1909 - 1985), addysgydd a chyfieithydd Ganwyd John Henry Jones ar 28 Gorffennaf 1909 yn Llangefni, Ynys Môn, yn unig blentyn tad a rannai'r un enwau, John Henry Jones (1863-1923), rheolwr siop ddillad, a'i briod Jane Jones (g. Griffith, 1868-1955), gwniyddes a hetwraig wrth ei chrefft. Wedi marw ei dad, profodd ei fam ac yntau gryn gyni, ond diolch i'w hymroddiad hi a chefnogaeth eglwys y Methodistiaid Wesleaidd (enwad y codwyd ef yn
  • JONES, JOHN OWEN (Ap Ffarmwr; 1861 - 1899), newyddiadurwr Mab i Owen ac Emma Jones, ganwyd yn Ty'n y Morfa, Trefdraeth, Môn, ddydd Calan 1861. Wedi marw'i dad, ac i'w fam ail-briodi, symudodd y teulu i fyw i Gae'r Llechau, Dwyran, Môn (tua 1865). Cafodd ei addysg yn Ysgol y Bwrdd, Dwyran. Yn 14 oed, fe'i rhwymwyd yn brentis gyda Lewis Lewis, draper, y 'Nelson', Caernarfon. Yn y cyfnod hwn, darllenai yn helaeth waith awduron fel Darwin, Huxley, Ruskin a
  • JONES, JOHN TYWI (1870 - 1948), gweinidog (B) a newyddiadurwr ef yn Llanfair a Phentraeth, Môn, yn 1897 a bu yno hyd 1906 pan dderbyniodd alwad i Peniel, y Glais. Gweinidogaethodd yno'n ddiwyd a llafurus hyd ddechrau 1935. Er pan oedd yn ieuanc cyfrannodd o bryd i'w gilydd i Tarian y Gweithiwr, a gyhoeddid yn Aberdâr, ac a oedd ar ryw gyfrif yn olynydd i'r Gwron; maes o law cyfrannodd ato'n gyson dan enw ' Llewelyn '. Sosialydd cristnogol oedd, carwr Cymru
  • JONES, JOHN WILLIAM (1883 - 1954), llenor, casglwr llythyrau ac amryfal bapurau, cyhoeddwr, hynafiaethydd a bardd gwlad Ganwyd 5 Mawrth 1883 yn 4, Caerffridd, Tanygrisiau, Meirionnydd, yn fab i David Jones, 'Glan Barlwyd', a'i wraig Ellen (ganwyd Roberts), Llwynogan, Llanedwen, Môn. Addysgwyd ef yn ysgol Glan-y-pwll hyd nes yr oedd yn ddeuddeg oed ac yna treuliodd ddwy fl. arall yn yr Higher Grade School yn y Blaenau. Oddi yno, yn 1897, aeth i weithio i chwarel yr Oakley lle bu wrthi'n ddiwyd am 53 blynedd, nes
  • JONES, JOSEPH (1786? - 1856), llenor a stiward gweithfeydd Mab Jacob Jones, garddwr ('Jacob Glochydd') a'i wraig Martha, bedyddiwyd yn Amlwch 27 Rhagfyr 1786. Yn y dauddegau yr oedd yn swyddwr pwysig yng ngwaith copr Mynydd Parys ym Môn, yn enwedig gyda'r peiriau puro ('smelting works'), ond yr oedd mor biwus ac uchelgeisiol ei ddulliau nes i bethau fyned yn bur ddrwg rhyngddo ef a swyddwyr eraill fel James Treweek a Thomas Beer; a chyn 1830 daeth ei
  • JONES, LLEWELYN (1894 - 1960), gweinidog (MC), golygydd ac awdur Ganwyd yn 1894 yn Llandegfan, Môn, yn fab i J. E. Jones, gweinidog (MC) a'i briod o'r lle hwnnw. Addysgwyd ef yn ysgol sir Caergybi, Coleg y Brifysgol, Bangor (lle graddiodd yn y celfyddydau), a choleg Mansfield, Rhydychen (lle cafodd radd B.Litt.). Cafodd radd M.A. Prifysgol Cymru yn 1921 am draethawd ar emynyddiaeth y Diwygiad Methodistaidd gyda sylw arbennig i emynau Williams, Pantycelyn
  • JONES, OWEN (Meudwy Môn; 1806 - 1889), gweinidog a llenor Ganwyd yn y Gaerwen Bach, Llanfihangel Ysgeifiog, Môn, 15 Gorffennaf 1806. Bu farw ei rieni pan oedd ef yn ieuanc iawn a magwyd ef gan ei fodryb Elizabeth, gwraig Morgan Williams, barcer, Llangefni. Pan oedd yn chwech oed anfonwyd ef i ysgol y pentre, ac wrth ei weld yn dysgu mor dda talodd Rice Roberts, Plas Llangefni, am addysg iddo yn ysgol Thomas Jones, Llangefni, a phan agorwyd yr Ysgol
  • JONES, OWEN VAUGHAN (1907 - 1986), obstetregydd a gynaecolegydd mewn obstetreg a gynaecoleg, gan ennill MD yn Lerpwl yn 1936 am draethawd ar sylweddau estrogenig. Fe'i penodwyd yn Gynaecolegydd Mygedol yn Ysbyty Sir Gaernarfon a Môn ym Mangor yn 1937, a'r flwyddyn ganlynol ef oedd yr obstetregydd ymgynghorol cyntaf i'w benodi gan Gyngor Sir Caernarfon, wedi ei leoli yn Ysbyty Dewi Sant ym Mangor. Yn ddyn hawddgar a adwaenid gan bawb fel 'O.V.', aeth ati i
  • JONES, OWEN WYNNE (Glasynys; 1828 - 1870), clerigwr, hynafiaethydd, storïwr, a bardd 1855 i Lanfachreth ym Meirionnydd, a daeth i gysylltiad ag 'Ab Ithel' yn Llanymawddwy; bu'r ddau yn trefnu eisteddfodau, a 'Glasynys' yn cystadlu ynddynt. Oddi yno aeth i Feddgelert at y Parch. William Hughes; bu, y mae'n debyg, mewn coleg yn Birmingham. Urddwyd ef yn ddiacon, 2 Rhagfyr 1860, gan esgob Bangor. Aeth yn gurad i Langristiolus ym Môn, yn 1863 symudodd i Lanfaethlu, ac yn 1866 cafodd