Canlyniadau chwilio

1861 - 1872 of 3961 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

1861 - 1872 of 3961 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

  • JONES, OWEN (Owain Myfyr; 1741 - 1814), crwynwr yn Llundain, ac un o'r ffigurau amlycaf ym mywyd llenyddol Cymru yn niwedd y 18fed ganrif a dechrau'r 19fed yr 16eg ganrif a'r 17eg ganrif. Daw terfyn ar y gweithgarwch hwn tua 1807. Ni allai ef namyn cynllunio, ac wedi i William Owen Pughe gael etifeddiaeth yn sir Ddinbych, nid oedd ganddo neb i ymgymryd â'r caledwaith. Heblaw hyn, yr oedd yn hen wr a phlant ifainc yn dibynnu arno. Dylem gofio o hyd na byddai gweithgarwch y cyfnod hwn (1789-1807) yn bosibl onibai am ei haelioni ef. Ef a dalai holl
  • JONES, OWEN (Meudwy Môn; 1806 - 1889), gweinidog a llenor Ganwyd yn y Gaerwen Bach, Llanfihangel Ysgeifiog, Môn, 15 Gorffennaf 1806. Bu farw ei rieni pan oedd ef yn ieuanc iawn a magwyd ef gan ei fodryb Elizabeth, gwraig Morgan Williams, barcer, Llangefni. Pan oedd yn chwech oed anfonwyd ef i ysgol y pentre, ac wrth ei weld yn dysgu mor dda talodd Rice Roberts, Plas Llangefni, am addysg iddo yn ysgol Thomas Jones, Llangefni, a phan agorwyd yr Ysgol
  • JONES, OWEN (Manoethwy; 1838 - 1866), awdur Ganwyd 4 Mehefin 1838, mab John Owen o Tan-y-ffordd, plwyf Llangian, Sir Gaernarfon; brawd John Jones (Myrddin Fardd). Aeth yn blentyn i ysgol y Foel Gron, a phan oedd tua 15 oed anfonwyd ef i Goleg Athrawol Gogledd Cymru; yn ystod ei dair blynedd yno enillodd amryw wobrwyon am ei lafur dyfal. Penodwyd ef yn athro ysgol Llanfair Caereinion, yn Sir Drefaldwyn, ac yn y cyfnod hwnnw ymchwiliai yn
  • JONES, OWEN (1825 - 1900), clerigwr a cherddor Ganwyd yn 1825 ym Mhontruffydd, Bodfari, sir Ddinbych, ond pan oedd yn faban, symudodd ei rieni, Joseph (bu farw 1865), a Sarah Jones i Ryd Orddwy, Y Rhyl. Yn 1849 aeth i S. Bees, ac yn 1851 ordeiniwyd ef a'i drwyddedi i Altrincham. Aeth oddi yno yn 1853 i Ysgeifiog fel curad i Rowland Williams, yr hynaf. Yn ddiweddarach (1855-7) bu'n gurad parhaol Capel Garmon, ond yn 1857 penodwyd ef yn ficer
  • JONES, OWEN GETHIN (Gethin; 1816 - 1883), saer a llenor Ganwyd 1 Mai 1816 yn Tyn-y-cae, Penmachno, yn fab i Owen a Grace Jones. Saer maen oedd ei dad, a dygwyd yntau i fyny yn yr un grefft, ond yn nes ymlaen troes yn saer coed, yna'n adeiladydd, ac yn y diwedd yn 'contractor' ar raddfa go helaeth. Priododd (1843) ag Ann, merch William Owen o'r Coetmor ac ŵyres i'r porthmon adnabyddus Robert Jones o'r Bwlch Bach yn Nolwyddelan; bu hi farw yn 1873. Yn
  • JONES, OWEN GLYNNE (1867 - 1899), mynyddwr ac athro ysgol fod yn yr ysgol yn Abermaw yn ogystal ag yn Llundain cyn ennill ysgoloriaethau i Goleg Technegol Finsbury ac i'r Imperial Institute (Imperial College) lle graddiodd (B.Sc.) yn y dosbarth cyntaf yn 1890. Wedi cyfnod yn ddarlithydd yn yr Institute, penodwyd ef yn athro gwyddoniaeth City of London School yn 1892, y cyntaf i ddal y swydd honno. Ceisiodd am Gadair ffiseg Coleg Aberystwyth yn 1891 ac yn
  • JONES, OWEN THOMAS (1878 - 1967), athro daeareg Woodward ym Mhrifysgol Caergrawnt Ganwyd 16 Ebrill 1878 ar fferm Plasnewydd, Beulah, ger Castellnewydd Emlyn, Sir Gaerfyrddin, yn unig fab David a Margaret (ganwyd Thomas) Jones. Cafodd ei addysg yn ysgol Frytanaidd Tre-wen ac ysgol ramadeg Pencader. Nes mynd i'r ysgol ramadeg, Cymraeg yn unig a siaradai, a thrwy gydol ei fywyd siaradai ac ysgrifennai'r Gymraeg gyda'r rhwyddineb mwyaf. Profodd ei hun yn ddisgybl disglair
  • JONES, OWEN VAUGHAN (1907 - 1986), obstetregydd a gynaecolegydd Ganwyd Owen Vaughan Jones yn Pengwern, Llanwnda, Gwynedd, ar 27 Rhagfyr 1907, yn ail fab i John Edmund Jones (1874-1965), ffermwr, a'i wraig Mary (ganwyd Jones, 1877-1960). Mynychodd ysgol gynradd Llanwnda ac Ysgol Sir Caernarfon, ac aeth i Brifysgol Lerpwl i astudio meddygaeth, gan raddio yn 1931. Daeth yn Gymrawd Coleg Brenhinol y Llawfeddygon, Caeredin yn 1934, ac wedyn penderfynodd arbenigo
  • JONES, OWEN WYNNE (Glasynys; 1828 - 1870), clerigwr, hynafiaethydd, storïwr, a bardd 1855 i Lanfachreth ym Meirionnydd, a daeth i gysylltiad ag 'Ab Ithel' yn Llanymawddwy; bu'r ddau yn trefnu eisteddfodau, a 'Glasynys' yn cystadlu ynddynt. Oddi yno aeth i Feddgelert at y Parch. William Hughes; bu, y mae'n debyg, mewn coleg yn Birmingham. Urddwyd ef yn ddiacon, 2 Rhagfyr 1860, gan esgob Bangor. Aeth yn gurad i Langristiolus ym Môn, yn 1863 symudodd i Lanfaethlu, ac yn 1866 cafodd
  • JONES, (WILLIAM JOHN) PARRY (1891 - 1963), datganwr Ganwyd 14 Chwefror 1891, ym Mlaenau Gwent (Blaina), Mynwy, yn fab i John Rees Jones, cigydd, a Mary Jones (ganwyd Parry) ei wraig. Enillodd ysgoloriaeth i ysgol sir Abertyleri yn 11 oed, ond gadawodd yr ysgol ar òl 18 mis oherwydd amgylchiadau ariannol y teulu, ac aeth i weithio i'r lofa. Ar ôl astudio mewn dosbarthiadau nos, a'i benodi'n llyfrgellydd yn Sefydliad y Glowyr yno, ymunodd â
  • JONES, PERCY MANSELL (1889 - 1968), Athro Ffrangeg ddeallusrwydd cynhenid, llwyddodd i fwrw goleuni ar feysydd ei astudiaeth mewn llyfrau megis Emile Verhaeren (1926 ac 1957) a Baudelaire (1952). Dengys ei argraffiad newydd pwysig o The Oxford book of French verse (1957) chwaeth sicr yn ei ddewis o gerddi, yn arbennig o gyfnod Baudelaire ymlaen. Dengys y casgliadau o'i ysgrifeniadau ar bynciau mwy cyffredinol - Tradition and barbarism (1930), French
  • JONES, PETER (Pedr Fardd; 1775 - 1845), bardd ac emynydd Ganwyd 17 Medi 1775, mab William Jones, gwehydd (neu deiliwr) a bardd gwlad o Frynengan ym mhlwyf Dolbenmaen, Sir Gaernarfon. Dilynodd yr un grefft â'i dad eithr symudodd yn ifanc i Lerpwl, lle y treuliodd weddill ei oes, a lle y dywedir iddo fod yn ysgolfeistr am rai blynyddoedd. Yr oedd yn Fethodist Calfinaidd, ac yn flaenor am flynyddoedd yn hen gapel Pall Mall. Amlygodd ddawn farddonol yn