Canlyniadau chwilio

217 - 228 of 960 for "Ebrill"

217 - 228 of 960 for "Ebrill"

  • EVANS, JOHN SILAS (1864 - 1953), offeiriad a seryddwr gwerin a hanes lleol. Hen lanc ydoedd. Pan ymddeolodd yn 1938 aeth i fyw i Aberystwyth er mwyn bod yng nghyrraedd y Llyfrgell Genedlaethol. Rhoes yr enw Ad astra ar ei dŷ. Ysgrifennodd hanes plwyf Pencarreg wedi iddo ddychwelyd i'w hen gartref yn y plwyf, lle y bu farw 19 Ebrill 1953. Claddwyd ef ym mynwent eglwys Pencarreg.
  • EVANS, JOHN VICTOR (1895 - 1957), bargyfreithiwr argyhoeddiadau crefyddol cryf a chydwybod gymdeithasol, a theimlai awydd i wneud rhywbeth i liniaru cyni'r di-waith yn y de, ac yn 1936 derbyniodd swydd warden sefydliad addysgol Aberdâr, Coleg Gwerin Cynon, dan nawdd y Cyngor Gwasanaeth Cymdeithasol. Priododd yn Ebrill 1927 Katherine Mary, merch Henry Dawson, Streatham, Llundain. Ganwyd iddynt un plentyn a fu farw yn ddisymwth yn 1938. Buasai'n hapus iawn yn
  • EVANS, LEWIS PUGH (1881 - 1962), milwr a ffigwr cyhoeddus, Brigadydd Gadfridog, VC, CB, CMG, DSO Fictoria gan y Brenin Siôr 5ed ym Mhalas Buckingham ar yr 2 Ionawr 1918. Wedi gwella o'i glwyfau, cymerodd reolaeth ei gatrawd ei hun, y Bataliwn 1af o'r Black Watch, yn Ionawr 1918. Enillodd Lewis Evans ei ail DSO yn Givenchy ar y 18-20 Ebrill 1918, 'am ddewrder ac ymroddiad i'w ddyletswydd dros gyfnod o dri diwrnod. Ar y diwrnod cyntaf symudodd drwy'r ardaloedd blaen i gyd, ar yr ail ddiwrnod fe wnaeth
  • EVANS, MARY JANE (Llaethferch; 1888 - 1922), adroddwraig adrodd gan David Thomas Jones ar awgrym ei gweinidog Ben Davies. Dechreuodd adrodd mewn cyfarfodydd llenyddol a chystadlu mewn eisteddfodau. Daeth yn adnabyddus fel ' Llaethferch ', gan ennill cadeiriau a chwpanau lu. Yn Ebrill 1909 aeth i Ysgol yr Hen Goleg yng Nghaerfyrddin o dan Joseph Harry, a gwerthwyd y gwartheg i dalu am yr hyfforddiant. Gosodwyd hi yn nosbarth y disgyblion o athrylith a
  • EVANS, MAURICE (1765 - 1831), clerigwr efengylaidd Ganwyd yn Pengelli, plwyf Llangwyryfon, Sir Aberteifi. Addysgwyd ef yn Ystrad Meurig dan Edward Richard, urddwyd ef gan esgob Tyddewi, 1787, daeth yn gurad i Henry Venn yn Yelling, sir Huntingdon, 1791-6, ac yna yn Eltisley, sir Caergrawnt, 1796-1810. Penodwyd ef i ficeriaeth Tregaron, 20 Medi 1810; Penybryn, 18 Ebrill 1818; Llangeler, 14 Chwefror 1820; a Penybryn ynghyda Betws Ifan a Brongwyn
  • EVANS, MEREDYDD (1919 - 2015), ymgyrchydd, cerddor, athronydd a chynhyrchydd teledu yng Nghymru benbaladr pan oedd yn ŵr cymharol ifanc. Yno, ym Mryn Meirion, Bangor, ym mis Mawrth 1947 y cyfarfu Merêd â Phyllis Kinney (g. 1922), cantores opera o Pontiac, Michigan. Fe'u priodwyd y gwanwyn canlynol ar 10 Ebrill 1948 a ganwyd un ferch iddynt, Eluned, yn 1949. Bu hon yn briodas hir a hapus ar y cyfan a bu Phyllis yn gefn cyson i'w gŵr prysur am yn agos i 67 mlynedd. Yn fuan ar ôl
  • EVANS, OWEN (1808 - 1865), gweinidog Undodaidd ac ysgolfeistr Ganwyd 25 Ebrill 1808 yn Burlip, Llandysul. Fe'i haddysgwyd yn ysgol Davis Castellhywel nes ei fynd i Goleg Caerfyrddin (1826-30). Wedi'i gwrs yn y coleg daeth adref i Burlip gan bregethu yn achlysurol yn Pantydefaid ac agor ysgol yn Llandysul ac wedyn yn y College, Maesymeillion (1830-4). Bu'n athro yn Evesham a Birmingham am 12 mis. Yn 1836 derbyniodd alwad i Blaengwrach, ac yn 1837 symudodd i
  • EVANS, OWEN ELLIS (1920 - 2018), gweinidog Methodistaidd ac ysgolhaig beiblaidd flynedd llwyddodd yn arholiad gradd uwch y gwasanaeth sifil a symud i Somerset House. Oherwydd y bomio symudwyd y swyddfa i Landudno yn haf 1940, ond dychwelwyd i Lundain erbyn gwanwyn 1941. Gan ei fod yn wrthwynebwr cydwybodol fe'i gorchmynnwyd i gyflawni gwaith lliniarol mewn ardal dan warchae, ac o Ebrill 1941 hyd ddiwedd y rhyfel yn 1945 fe'i cyflogwyd i wneud hyn gan gyngor Willesden. Bu'n weithgar
  • EVANS, PETER MAELOR (1817 - 1878), cyhoeddwr Ganwyd 10 Ebrill 1817 yn ardal Adwy'r Clawdd, lle yr oedd ei dad, Thomas Evans, yn ysgolfeistr nes iddo ymadael â'i swydd i oruchwylio gweithfeydd plwm. Derbyniodd ei addysg gyntaf yn ysgol ei dad ac wedi hynny mewn ysgol ddyddiol yn yr Wyddgrug ac yn ysgol ramadeg Rhuthun, lle y cafodd hyfforddiant trwyadl yn y clasuron. Bwriadwyd iddo fod yn gyfreithiwr ond trodd at y grefft o argraffu. Daeth
  • EVANS, RICHARD HUMPHREYS (1904 - 1995), gweinidog MC ac athro diwinyddol Ganwyd 8 Ebrill 1904 yng Nghaergybi ac fe'i addysgwyd yn Ysgol Sir y dref honno. Graddiodd yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor, yn 1927 gydag anrhydedd mewn Lladin; ac ar ôl cychwyn ar gwrs y B.D. ym Mangor symudodd i'r Coleg Diwinyddol Unedig yn Aberystwyth yn 1929 gan gwblhau'r radd honno yn 1931. Parhaodd â'i addysg ddiwinyddol yn Rhydychen wedi ennill Ysgoloriaeth Arbennig Pierce a chofrestrodd
  • EVANS, RICHARD THOMAS (1892 - 1962), gweinidog a gweinyddwr (B) Mehefin 1920 ym Mhorthmadog, 14 Mehefin 1922 yn Nhrefdraeth, Penfro, a 26 Mai 1927 yn Rhydaman. Ymhen saith mlynedd dewiswyd ef yn ysgrifennydd Undeb Bedyddwyr Cymru, a chyflwynwyd ef i'w swydd yn ystod y gynhadledd flynyddol ym Methesda, Abertawe, 3 Medi 1934. Ymddeolodd ddydd Llun y Pasg 7 Ebrill 1958, ac fel teyrnged i'w wasanaeth fe'i codwyd yn llywydd Adrannau Cymraeg a Saesneg Undeb Bedyddwyr
  • EVANS, SAMUEL JAMES (1870 - 1938), ysgolfeistr, hyrwyddwr addysg, ac awdur sir Llangefni, swydd a ddaliodd hyd nes iddo ymddeol yn 1935. Wedi hynny preswyliai ym Mhorthaethwy ac yno y bu farw 2 Ebrill 1938 a'i gladdu ym mynwent gyfagos Llandysilio. Am 40 mlynedd a mwy bu S. J. Evans yn dra blaenllaw ym mywyd addysgol Cymru. Yr oedd yn Eglwyswr blaenllaw. O 1934 hyd 1937 ef oedd ysgrifennydd pwyllgor geiriau'r llyfr emynau newydd, Emynau'r Eglwys, a gyhoeddwyd yn 1941. Yn