Canlyniadau chwilio

13 - 24 of 72 for "Angharad"

13 - 24 of 72 for "Angharad"

  • teulu FITZ WARIN, arglwyddi Whittington, Alderbury, Alveston, Angharad merch Madog ap Gruffydd â mab Fulk, ond ni bu priodas; nid oes sicrwydd ai gwrthwynebiad Llywelyn a achosodd fethiant y cynllun. Ar ôl ei fuddugoliaeth yn Lewes ar 14 Mai 1264, ceisiodd Simon de Montfort gynhorthwy Llywelyn ap Gruffydd trwy ganiatáu iddo, ar 22 Mehefin 1265, wasanaeth ffiwdal arglwydd Whittington; yn ôl cytundeb Trefaldwyn, 29 Medi 1267, cysylltwyd y wlad unwaith eto â Chymru
  • GIRALDUS CAMBRENSIS (1146? - 1223), archddiacon Brycheiniog a llenor Lladin Fe'i ganed rywbryd rhwng 1145 a 1147 ym Maenor-bŷr, Sir Benfro, yn fab ieuaf William de Barri ac Angharad ferch Gerald de Windsor a Nest, ferch Rhys ap Tewdwr. Addysgwyd ef gan ei ewythr, David Fitzgerald, esgob Tyddewi, yn abaty S. Pedr, Caerloyw, ac wedyn ym Mhrifysgol Paris, ac wedi dychwelyd oddi yno yn 1172 cafodd gomisiwn gan Richard archesgob Caergaint i orfodi talu'r degymau ar wlân a
  • GRUFFUDD ap CYNAN (c. 1055 - 1137), brenin Gwynedd hynny ni chymerth ef ei hun odid ddim rhan mewn brwydro. Ond helaethwyd awdurdod Gwynedd yn fawr iawn gan ei feibion, Owain a Cadwaladr, a chyn ei farw yr oedd Ceredigion, Meirionnydd, Rhos, Rhufoniog, a dyffryn Clwyd o dan reolaeth Gwynedd. Bu farw, yn ddall a methiantus, yn 1137. Claddwyd ef yn eglwys gadeiriol Bangor, a chanwyd ei farwnad gan ei bencerdd, Meilyr. Bu ei wraig, Angharad ferch Owain
  • GRUFFUDD AP LLYWELYN (bu farw 1064), brenin Gwynedd 1039-1064 a phenarglwydd ar y Cymry oll Mab ydoedd i Lywelyn ap Seisyll ac Angharad merch Maredudd. Roedd Gruffudd yn un o dywysogion Brythonaidd mwyaf llwyddiannus yr Oesoedd Canol, a honna Llyfr Llandaf mai ef oedd 'brenin Cymru benbaladr'. Serch hynny, yn unol â'r syniad canoloesol am Olwyn Ffawd, daeth ei yrfa i ben mewn alltudiaeth a marwolaeth dreisgar. Hanai ei dad Llywelyn o Bowys yn wreiddiol. Cipiodd frenhiniaeth Gwynedd trwy
  • GRUFFUDD ap LLYWELYN (bu farw 1063), brenin Gwynedd a Phowys, ac ar ôl 1055 brenin Cymru oll Mab Llywelyn ap Seisyll (bu farw 1023) ac Angharad ferch Maredudd ab Owain, brenin Deheubarth. Prin yw'r wybodaeth am ei ieuenctid ond cadwyd rhai traddodiadau yn straeon Gwallter Map. Fel llanc yr oedd yn araf a diantur, meddir, ond yn ddiweddarach fe'i trowyd gan uchelgais yn ŵr dewr, beiddgar, wedi'i ddonio â dychymyg ac unplygrwydd. Pan laddwyd Iago ab Idwal yn 1039 gan ei wŷr ei hun, daeth
  • GRUFFUDD, RHISIART (fl. c. 1569), bardd Nid oes dim o hanes ei fywyd ar gael, ond ceir peth o'i waith mewn llawysgrifau. Cynnwys ddau englyn (B.M. Add. MS. 14898 (42b); NLW MS 3037B (324); cywydd i ofyn cymod Syr Rhisiart Bwlclai o Fôn a'i ail wraig, Annes, yn NLW MS 3048D (490) - cyhuddwyd hi o roi gwenwyn i'w gŵr; gweler Angharad Llwyd, History of Anglesey, 143); a chywydd i ofyn cymod rhwng Syr Rhisiart Bwlclai a Wiliam Lewys o Fôn
  • GRUFFYDD ap MADOG (bu farw 1191) a Ial (Brwmffild a Ial); at hyn ychwanegodd yntau Nanheudwy yn ddiweddarach, ac, ar farw Owen Fychan yn 1187, diroedd Cynllaith a Mochnant isaf. Ar wahân i Benllyn ac Edeirnion yr oedd felly wedi aduno gogledd Powys, er mai ei fab hynaf, Madog, a roes ei enw i'r adran hon o'r wlad a alwyd bellach yn Powys Fadog. Priododd ei gyfnither, Angharad, merch Owain Gwynedd, a bu iddo ddau fab - Madog ac
  • GWENLLIAN (bu farw 1136) Merch Gruffydd ap Cynan ac Angharad, merch Owain ab Edwin. Daeth yn wraig Gruffydd ap Rhys yn fuan wedi 1116; ei mab enwocaf oedd yr Arglwydd Rhys. Pan gychwynnodd y gwrthryfel Cymreig mawr yn 1136 arweiniodd Gwenllian, yn absenoldeb ei gŵr, y cyrch ar amddiffynfa'r Normaniaid yng Nghydweli a chafodd ei lladd wrth ymladd y tu allan i'r dref mewn man a elwir yn Maes Gwenllian hyd heddiw.
  • GWGON ap MEURIG (bu farw 871), brenin Ceredigion, a'r olaf o linach Ceredig Yn ôl Brut y Tywysogion bu farw trwy foddi yn y flwyddyn 871. Ei chwaer Angharad oedd gwraig Rhodri Mawr. Ar farwolaeth Gwgon rhoddodd y cyswllt teuluol yma esgus digonol i Rodri ymyrryd yn Seisyllwg, y deyrnas a luniwyd dros ganrif yn gynt trwy uno Ceredigion ac Ystrad Tywi.
  • teulu HANMER Hanmer, Bettisfield, Fens, Halton, Pentrepant, (bu farw c. 1388), ustus mainc y brenin Cyfraith Gor-wyr i Syr Thomas de Macclesfield. Daeth yn ustus mainc y brenin yn 1383 a'i wnaethpwyd yn farchog yn 1387. Priododd Agnes (neu Angharad), merch Llywelyn ddu ap Gruffydd ab Iorwerth; a daw anian Gymreig y teulu i'r golwg yn y cymorth a roddwyd gan yr aelodau i Owain Glyn Dwr, a briododd MARGARET, merch Syr David. Ymunodd ei brodyr hi, GRIFFITH (a
  • HOWEL ap GRUFFYDD (bu farw c. 1381) Mab Gruffydd ap Howel (yn disgyn o Collwyn), Bronyfoel, yn nhrefgordd Ystumllyn a phlwyf Ynyscynhaiarn, Eifionydd, ac Angharad ferch Tegwared y Bais Wen. Yr oedd ei nain o ochr ei dad yn ŵyres i Ednyfed Fychan ac yn chwaer i Howel ap Gruffydd (Hywel y Pedolau). Mab iau ydoedd. Enillodd enw iddo'i hun yn rhyfeloedd Edward III yn Ffrainc. Ni ellir, fodd bynnag, gael tystiolaeth i'r traddodiad iddo
  • HUGHES, OWEN (bu farw 1708), twrne . Yn yr un flwyddyn Owen Hughes oedd siryf Môn, ac yn destun cywydd tra moliannus gan Edward Morus; er y gormodiaith amlwg sydd ynddo, y mae'n agosach i'r gwir nag ystorïau anghyfrifol Angharad Llwyd. Ni ddaliodd yr heddwch â Bwcle yn hir; daeth y twrne yn faer Niwbwrch, llwyddodd i gasglu clymblaid o'r bwrdeiswyr o'i ochr drwy ailfywiogi hawliau'r hen dref honno, a chyn bod pobl Biwmares wedi deffro