Canlyniadau chwilio

13 - 24 of 403 for "Môn"

13 - 24 of 403 for "Môn"

  • CADWALLON (bu farw 633), tywysog Mab Cadfan ydoedd, a dilynodd ei dad tua'r flwyddyn 625. Yn herwydd y rhan y bu iddo ei chwarae yn hanes Lloegr, fel yr adroddir yr hanes gan Beda, nid oes fawr o ansicrwydd ynglŷn â'i waith a'i safle yn hanes y cyfnod. Efe oedd gwrthwynebydd Edwin o Deira; gwnaeth ymdaith lwyddiannus y brenin hwn ar hyd glan môr Gogledd Cymru, gan orchfygu Môn, beri i Gadwallon fynd ar ffo a byw'n alltud, yn
  • CADWGAN (bu farw 1111), tywysog Normaniaid yn 1094 ym mrwydr Coed Yspwys (ni wyddys pa le y mae'r lle hwn), ac ymuno â Gruffydd ap Cynan i amddiffyn Môn a phan ffôdd i Iwerddon. Pan ddaeth gwell golwg ar bethau ac i'r ddau fedru dychwelyd o Iwerddon yn 1099 cafodd Cadwgan ei gyfran o Bowys gan yr iarll Robert o Amwythig ar yr amod ei fod yn talu gwrogaeth i'r gwr hwnnw; cafodd Geredigion hefyd. Gadawodd iddo'i hun gael ei berswadio i uno
  • CAIN (fl. diwedd y 5ed ganrif a dechrau'r 6ed), santes a gwyryf claddodd hi. Y santes Gain yw nawddsant Llangeinwr, a chedwir ei henw ar gof yn Llangain a Chapel Cain Wyry (plwyf Tal-y-llychau) yn Sir Gaerfyrddin, yn Llangeinwen ym Môn, ac, efallai, ym Machen yn sir Fynwy. Ceir eglwysi wedi eu henwi arni hefyd yn swydd Henffordd, Gwlad yr Haf, a Chernyw. Fel rheol dethlir ei gŵyl ar 8 Hydref.
  • CATRIN ferch GRUFFUDD ap HYWEL (fl. c. 1555), bardd O Landdeiniolen (h.y. Llanddeiniolfab neu Landdanielfab) ym Môn. Cadwyd ei gwaith yn B.M. Add. MSS. 14892, 14906, 14994, ac NLW MS 695E, NLW MS 1553A, NLW MS 1559B, NLW MS 2602B, NLW MS 6209E; y mae'n cynnwys awdl foliant i Grist (neu, yn ôl rhai llawysgrifau, awdl merch glaf er coffa Crist a'i ddioddefaint, neu awdl gyffes pechadures) a phedwar englyn i haf oer 1555.
  • CATRIN (KATHERYN) o'r BERAIN (Mam Cymru; 1534/5 - 1591) Ganwyd Catrin yn 1534-5, yn ferch Tudur ap Robert Fychan o'r Berain, plwyf Llanyfydd, sir Ddinbych, o'i wraig Jane, merch Syr Roland Velville (bu farw 1527), mab gordderch Harri VII, a'i gwnaeth yn gwnstabl castell Biwmares, ac a roes Benmynydd, Môn, iddo. Daeth Penmynydd a Berain yn eiddo i Catrin maes o law. Bu Catrin yn briod bedair gwaith, ac y mae'n bwysig croniclo ei phriodasau a'i
  • teulu CECIL Alltyrynys, Burghley, Hatfield, o sefydlu ei ach Gymreig; trefnodd i'w gâr Thomas Parry, gwr o Frycheiniog, gael bod yn un o swyddogion ty'r dywysoges Elisabeth yn 1560 - daeth Parry yn brif swyddog ('Comptroller') y dywysoges; rhoes arian i helpu'r ymchwil am gopr yn ynys Môn; cofir hefyd am ei gysylltiad â Morris Clynnog, a ysgrifennodd lythyr Cymraeg ato o Rufain (Mai 1567) yn ei hysbysu fod y frenhines Elisabeth ar fin cael
  • CEMLYN-JONES, Syr ELIAS WYNNE (1888 - 1966), gwr cyhoeddus Ganwyd 16 Mai 1888 yng Ngwredog, Amlwch, Môn, yn fab i John Cemlyn Jones, cyfreithiwr o Gaerffili, a Gaynor Hannah, merch John Elias Jones - o Benmaenmawr a thrwy ei wraig o Wredog, Amlwch, gwr blaenllaw ym mywyd cyhoeddus Môn a Rhyddfrydwr selog. Collodd ei dad yn blentyn a chafodd ei addysg yn breifat yn Ysgol Mostyn, Parkgate, swydd Gaer, yn Ysgol Amwythig, ac yn Llundain. Daeth yn
  • CHARLES, DAVID (1812 - 1878), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd Herald, 11 Rhagfyr 1841, y mae ganddo brotest gref (peth anarferol mewn Methodist Calfinaidd o'r cyfnod hwnnw) yn erbyn cais cyfarfod misol Môn i 'ymyrraeth â'm hawl i'm barn ar faterion gwleidyddol' trwy warafun i'w aelodau fynd i gyfarfod ym mhlaid masnach rydd, yng Nghaernarfon. Ac yn Ebrill 1854, yn ei dy ef yn Llundain y cyfarfuwyd i hyrwyddo coleg prifysgol i Gymru (Davies a Jones, The University
  • CHARLES, JOHN ALWYN (1924 - 1977), gweinidog (A.) ac athro coleg a'i gymryd i Ysbyty Môn ac Arfon ym Mangor. Yno y bu farw ar Ebrill 1. Cynhaliwyd ei angladd ddydd Mawrth, 5 Ebrill, gydag oedfa gyhoeddus yng Nghapel Pen-dref, Bangor, a gwasanaeth preifat yn amlosgfa'r ddinas.
  • CLIDRO, ROBIN (fl. 1580), clerwr brodor o Ddyffryn Clwyd, medd rhai. (Y mae lle o'r enw Cludro ym mhlwyf Llangefni ym Môn.) Canai gerddi ar destunau digrif, fel marwnad i'w gath, hanes ymweliad â Llwydlo, disgrifiad o bysgotwyr. Y mae'r cerddi hyn yn llawn o gellwair, a hwnnw'n fras yn fynych. Defnyddiai fesur nas ceir ond gan raddau isaf y beirdd, ac nas defnyddid, y mae'n ymddangos, i ganu dim difrif, sef amrywiad ar y
  • CLYNNOG, MORYS, diwinydd Catholig gysegru, bu farw'r frenhines Mari, a dewisodd yntau alltudiaeth yn hytrach na chydymffurfio â'r drefn newydd o dan Elisabeth. Gyda'r esgob Goldwell a Gruffudd Robert, archddiacon Môn, cyrhaeddodd Rufain yn 1561. Apwyntiwyd Goldwell yn warden yr Ysbyty Seisnig yno, Gruffudd Robert, yn 1564, yn gaplan, a Morys Clynnog, yn 1567, yn ' Camerarius.' Yn 1577 gwnaed ef yn warden. Y flwyddyn ddilynol llwyddodd
  • COTTON, JAMES HENRY (1780 - 1862), deon eglwys gadeiriol Bangor ac addysgydd eglwysi yn esgobaeth Bangor (1838), ac ysbyty Môn ac Arfon (1814). O'r cychwyn fe'i cyfrifid yn apostol y mudiad addysg; yn 1810 agorodd ysgol Sul yn yr eglwys gadeiriol a'r ysgolion cenedlaethol yn Pentir a Vaynol (y ddau hyn ar y pryd ym mhlwyf Bangor), ac, yn ddiweddarach, ym Mangor ei hunan ac yn Llanllechid a'r Gaerwen. Bu'n ddiwyd yn agor ysgolion, yn dysgu mewn ysgolion, yn arolygu gwaith yr