Canlyniadau chwilio

13 - 24 of 94 for "Meurig"

13 - 24 of 94 for "Meurig"

  • DAVIES, JOHN IDRIS (Ioan Idris; 1821 - 1889), bardd Ganwyd yn y Bala, mab John Davies, llyfr-rwymwr a gwerthwr llyfrau a phapurau. Cafodd y mab beth ysgol yn Nolgellau a'i brentisio wedi hynny gyda'i ewythr, Morris Davies ('Meurig Ebrill'), saer coed, a ddysgodd iddo, megis y gwnaeth John Jones ('Idris Fychan'), reolau barddoniaeth. Yn 21 oed ymfudodd i Utica, N.Y., ac wedyn i Cambria, Wisconsin, ac yn ddiweddarach, sef yn 1868, i Judson
  • DAVIES, MORGAN (bu farw 1857), clochydd Llanelltyd, sir Feirionnydd, a bardd nechrau Diliau Meirion (Dolgellau, 1853) a cheir ei enw yn rhestr faith y 'Subscribers' Names' ar ddiwedd y gyfrol honno, sydd yn cynnwys gwaith Morris Davies ('Meurig Ebrill'). Yr oedd yn gyfarwydd â Robert Davies ('Bardd Nantglyn') ac Edward Davies ('Iolo Trefaldwyn'), a cheir yn y llawysgrif (sef NLW MS 672D) ganiadau iddo gan y ddeufardd hyn. Bu farw 1857 a'i gladdu yn Llanelltyd 23 Medi.
  • DAVIES, MORRIS (Meurig Ebrill; 1780 - 1861), bardd 12 o garolau. Cyhoeddwyd ei lyfr cyntaf, Diliau Meirion, yn 1853; fe'i dilynwyd gan ail ran, gyda rhagdraeth gan ' Gutyn Ebrill,' yn 1854. Teitl ei drydydd llyfr, a gyhoeddwyd yn 1855, oedd Hanes Teithiau a Helyntion Meurig Ebrill gyda 'Diliau Meirion' o Ddolgellau i Gaerlleon-Gawr, Birkenhead, Llynlleifiad, a Manceinion, a'i ddychweliad yn ol drwy siroedd a threfydd Gogledd Cymru yn … 1854-55; y
  • EDWARDS, JOHN DAVID (1805 - 1885), offeiriad a cherddor Ganwyd 19 Rhagfyr 1805 yn Penderlwyngoch, Gwnnws, Sir Aberteifi, mab John Edwards. Addysgwyd ef yn ysgol Ystrad Meurig, ac yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, lle y graddiodd yn 1830 yn B.A. ac yn ddiweddarach yn M.A. Urddwyd ef yn ddiacon yn 1832, ac yn offeiriad yn 1833. Gwasanaethodd fel curad ym mhlwyfi Llansantffraid Glyndyfrdwy ac Aberdyfi, ac yn 1843 penodwyd ef gan Syr Watkin Williams Wynn yn
  • EDWARDS, RICHARD OWEN (1808), cerddor Ganwyd 31 Gorffennaf 1808 yn Penderlwyngoch, Gwnnws, Sir Aberteifi, mab i John Edwards a brawd i J. D. Edwards. Cafodd ei wersi cyntaf mewn cerddoriaeth gan Dafydd Siencyn Morgan. Addysgwyd ef yn ysgol Ystrad Meurig. Bu am flynyddoedd yn arwain côr Ystrad Meurig, ac âi o gwmpas yr ardaloedd cylchynnol i gynnal ysgolion canu. Gallai ganu'r clarinet, a sefydlodd seindorf yn ei ardal. Cyfansoddodd
  • ELLIS, DAVID (1736 - 1795), offeiriad, bardd, cyfieithydd, a chopïwr llawysgrifau Ganwyd 31 Awst 1736, mab Ellis ac Elizabeth David, Hafod-y-meirch, Dolgellau, Sir Feirionnydd. Addysgwyd yn ysgol Edward Richard yn Ystrad Meurig, ac ymaelododd yn Rhydychen 14 Tachwedd 1763. Aeth i Goleg Iesu, Rhydychen, 12 Mawrth 1764, ond gadawodd yno 30 Mehefin yr un flwyddyn. Ordeiniwyd ef yn ddiacon ym Mangor, 22 Gorffennaf 1764, ac yn offeiriad ymhen blwyddyn. Bu'n gurad yn Llanberis, Sir
  • EVANS, DAVID (1830 - 1910), archddiacon Llanelwy Ganwyd 1830 (bedyddiwyd 24 Mehefin), mab i John a Mary Evans, yn Goitre ym mhlwyf Llanrhystyd, ac addysgwyd yn Ystrad Meurig a S. Bees. Bu'n gurad Nantglyn (1856) a Llanrhaeadr ym Mochnant (1857), ac yn gurad parhaol yn y Frongoch (y Bala), 1858, ac ym Mhontbleiddyn, 1859. O 1866 hyd 1876 bu'n rheithor Llanycil; gellir crybwyll mai efe a 'Ioan Pedr' oedd yr arholwyr a dderbyniodd T. E. Ellis i
  • EVANS, DAVID MEYRICK (1827 - 1870), gweinidog gyda'r Bedyddwyr Ganwyd 30 Tachwedd 1827 yn Llundain; symudodd gyda'i rieni'n llanc bychan i dyddyn yn ardal Tregaron, Ceredigion. Dechreuodd bregethu yn Swyddffynnon tua 1834. Addysgwyd ef yn Ystrad Meurig, athrofa Accrington, a Phrifysgol Glasgow. Bu'n weinidog yn Grosvenor Street, Manceinion (1851-8), a Greenfield, Llanelli (1858-70). Golygodd y Llanelly Telegraph, 1860-7. Cyhoeddodd Christmas Evans: a Memoir
  • EVANS, EVAN (Ieuan Fardd, Ieuan Brydydd Hir; 1731 - 1788), ysgolhaig, bardd, ac offeiriad Ganwyd 20 Mai 1731, yn ffermdy'r Gynhawdref, plwyf Lledrod, Ceredigion, mab Jenkin a Catherine Evans. Addysgwyd ef gan Edward Richard yn ysgol Ystrad Meurig, ond ni ellir rhoddi dyddiadau pendant i ddangos yn ystod pa flynyddoedd y bu yno. Ar 8 Rhagfyr 1750 ymaelododd yng Ngholeg Merton, Rhydychen; niwlog hefyd yw'r dystiolaeth am ei arhosiad yno - yr oedd yn bresennol yn ystod 1751, ac eto yn
  • EVANS, EVAN (1882 - 1965), gŵr busnes -34 a gwnaed ef yn rhyddfreiniwr Dinas Llundain yn 1946. Ac yntau'n flaenor er 1932, gwasanaethodd Eglwys Jewin (MC) fel ysgrifennydd o 1938 hyd ei farw, a bu'n llywydd Cymdeithasfa'r De, 1961-62. Cyfrannodd at gyhoeddi cyfrol Tom Beynon ar Howel Harris yn Llundain. Urddwyd ef i wisg werdd Gorsedd y Beirdd wrth yr enw Ifan Gwynfil yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe, 1964. Priododd Nancy Meurig
  • EVANS, HAROLD MEURIG (1911 - 2010), athro, geiriadurwr Ganwyd Meurig Evans yn yr Hendy, sir Gaerfyrddin, ar 5 Mawrth 1911, yn unig blentyn Henry James Evans (glowr) a Sarah Evans, a mynd i'r ysgol yno yn dair oed. Symudodd y teulu i Gaerbryn pan oedd yn bump oed ac aeth i Ysgol y Blaenau lle na chafodd yr un wers Gymraeg o gwbl. Oddi yno aeth i hen Ysgol Sir Rhydaman cyn symud i'r ysgol newydd yn Stryd Marged - Ysgol Ramadeg Dyffryn Aman. Enillodd
  • EVANS, MAURICE (1765 - 1831), clerigwr efengylaidd Ganwyd yn Pengelli, plwyf Llangwyryfon, Sir Aberteifi. Addysgwyd ef yn Ystrad Meurig dan Edward Richard, urddwyd ef gan esgob Tyddewi, 1787, daeth yn gurad i Henry Venn yn Yelling, sir Huntingdon, 1791-6, ac yna yn Eltisley, sir Caergrawnt, 1796-1810. Penodwyd ef i ficeriaeth Tregaron, 20 Medi 1810; Penybryn, 18 Ebrill 1818; Llangeler, 14 Chwefror 1820; a Penybryn ynghyda Betws Ifan a Brongwyn