Canlyniadau chwilio

301 - 312 of 894 for "Medi"

301 - 312 of 894 for "Medi"

  • HUGHES, JOHN (1827 - 1893), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd Ganwyd 27 Medi 1827 yn nhŷ capel y Methodistiaid Calfinaidd, Llannerch-y-medd, Môn, mab i John ac Ellen Hughes. Yn 15 oed prentisiwyd ef yn grydd; bu hefyd yn gyflogydd cryddion. Dysgodd William Roberts, Amlwch, Roeg iddo. Cyflwynwyd ei achos yng nghyfarfod misol Cemaes, 20 Rhagfyr 1847, a derbyniwyd ef yng nghyfarfod misol y Garreglefn, 17 Ionawr 1848. Aeth i athrofa'r Bala, Awst 1848; yr oedd
  • HUGHES, JOHN CEIRIOG (1832 - 1887), bardd Ganwyd yn Pen-y-bryn, Llanarmon, 25 Medi 1832. Aeth i Fanceinion ar ddechrau 1849, a chael swydd ymhen tua thri mis fel clerc yng ngorsaf nwyddau London Road. Yr oedd ym Manceinion yn yr adeg hon Gymry fel 'Creuddynfab,' 'R. J. Derfel,' 'Idris Fychan,' 'Meudwy Môn,' ac eraill; ffurfiodd pedwar ohonynt - 'Creuddynfab,' 'R. J. Derfel,' 'Idris Fychan,' a 'John Hughes' - gwmni llenyddol bychan
  • HUGHES, JOHN (1615 - 1686), Jesiwit Ganwyd Mehefin 1615, mab ieuengaf Hugh Owen, Gwaenynog. Ymddengys iddo dreulio peth amser pan yn ieuanc gyda'i dad yng nghastell Rhaglan, ond ym mis Rhagfyr 1636 aeth fel myfyriwr i'r Coleg Seisnig yn Rhufain. Ordeiniwyd ef yn offeiriad, 16 Mawrth 1640-1, a daeth i Loegr, 28 Medi 1643. Ymunodd â Chymdeithas yr Iesu yn Watten ger S. Omer, 1648, ac yn 1650 dychwelodd i Loegr i genhadu. Treuliodd
  • HUGHES, JONATHAN (1721 - 1805), bardd yn Llangollen yn Ionawr 1789, ac yn eisteddfod Corwen ym Mai y flwyddyn honno ef oedd un o'r tri (' Twm o'r Nant' a 'Gwallter Mechain' oedd y lleill) y methwyd penderfynu rhyngddynt, a gorfod gyrru eu gwaith i Lundain i'w feirniadu gan y Gwyneddigion. Yr oedd hefyd yn eisteddfod y Bala ym Medi 1789. Ond ni bu llawer o lwyddiant ar ei gynigion fel bardd eisteddfod; canu carolaidd y 18fed ganrif oedd
  • HUGHES, ROBERT (Robin Ddu yr Ail o Fôn; 1744 - 1785), bardd Goronwy Owen. Cyhoeddwyd ei gywydd ' Molawd Môn' yn Diddanwch teuluaidd, 1763, a'i gywydd 'Y Byd' yn Y Cylchgrawn Cymraeg, 1793. Ei waith gorau yw ei gywydd 'Myfyrdod y Bardd am ei Gariad,' a gyhoeddwyd yn y North Wales Gazette, 15 Medi 1808. Yn Llundain bu'n aelod amlwg o'r cymdeithasau Cymraeg, yn gyd-lyfrgellydd â Richard Fenton i Gymdeithas y Cymmrodorion yn 1777, yn un o sylfaenwyr Cymdeithas y
  • HUGHES, ROBERT RICHARD (1872 - 1957), gweinidog (MC) ac awdur y bu farw 23 Medi 1951. Claddwyd ef ym mynwent Maeshyfryd, Caergybi. Yr oedd yn ŵr o ddylanwad yn ei Gyfundeb. Bu'n llywydd Sasiwn y Gogledd (1940), ac yn llywydd y Gymanfa Gyffredinol (1946). Bu'n aelod blaenllaw o Gomisiwn Ad-drefnu'r Cyfundeb, ac yn un o'r pedwar a luniodd y ' Datganiad byr ar ffydd a buchedd ' yn 1921. Bu'n gydolygydd Y Llusern am rai blynyddoedd, ac yn olygydd Y Goleuad yn
  • HUGHES, THOMAS (Glan Pherath; 1803 - 1898), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn wastad yn y cywair lleddf,' medd G.B.C. yn Cymru (O.M.E.), ' ac yn llawn dagrau, ac ni wrandewais neb erioed a fedrai dynnu dagrau o lygaid ei wrandawyr fel y medrai ef.' Ordeiniwyd ef yng nghymdeithasfa'r Bala, 8 Medi 1842. Tua 1864 symudodd i fyw ym Mhenmorfa, Sir Gaernarfon, ac oddi yno drachefn, yn 1883, i Gaergybi, i fyw gyda'i ferch. Yno y bu farw 5 Awst 1898. Yr oedd erbyn hynny yn ddolen
  • HUGHES, THOMAS (1758 - 1828), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd adeiladydd, a bu wrthi'n codi capelau ym Manceinion ac yng Ngogledd Cymru. Bu farw 2 Tachwedd 1828, yn 70 oed. Y mae cyfrol goffa iddo ef a Thomas Edwards, gan John Jones (1829), sy'n cynnwys peth prydyddiaeth ganddo. Merch iddo, Mary (a fu farw 9 Medi 1860), oedd gwraig Richard Williams (1802 - 1842).
  • HUGHES, THOMAS ISFRYN (1865 - 1942), gweinidog Wesleaidd ), Blaenau Ffestiniog (1905), Llanrhaeadr Mochnant (1908), Mynydd Seion, Lerpwl (1911). Oakfield, Lerpwl (1914), Porthmadog (1919), Llundain (1922), Porthmadog (1925), a Biwmares (1928). Ymneilltuodd yn 1931; bu farw ym Mae Trearddur, Môn, 27 Rhagfyr 1942. Priododd 11 Medi 1894 â Catherine, merch Thomas a Margaret Jenkins, o Aberdyfi. Efe oedd Llywydd Cymanfa'r Wesleaid yn 1918. Yr oedd yn awdur amryw
  • HUGHES, THOMAS ROWLAND (1903 - 1949), bardd a nofelydd Ganwyd 17 Ebrill 1903 yn 20 Goodman Street, Llanberis, Sir Gaernarfon, mab William Rowland Hughes a'i wraig May, merch Thomas Morydd Owen. Cafodd ei addysg yn ysgol elfennol Dolbadarn, ysgol sir Brynrefail, a choleg y Brifysgol, Bangor, lle y graddiodd, 1925, gydag anrhydedd y dosbarth cyntaf yn y Saesneg a'r Gymraeg. Ym mis Medi 1926 aeth yn athro i ysgol sir y Bechgyn, Aberdâr, lle y bu am ddwy
  • HUGHES, WILLIAM JOHN (GARETH HUGHES; 1894 - 1965), actor yn Moloch ar Broadway ym Medi 1915 cipiodd adolygiadau gorau'r tymor. Bu mam Gareth farw ym Mehefin 1915 a daeth ei dad a'i frawd ato yn America ym Medi y flwyddyn honno, gan aros am dros ddeunaw mis. Cafodd Gareth brif rannau mewn dramâu llwyfan eraill ar Broadway, yn Chicago ac yn Los Angeles dros y tair blynedd nesaf. Derbyniodd ei brif ran gyntaf mewn ffilm yn Chicago ar ddiwedd 1915 ac aeth i
  • HUGHES, WILLIAM JOHN (1891 - 1945), athro ysgol a choleg Ganwyd ger Penfforddelen, Y Groeslon, Sir Gaernarfon, 10 Medi 1891, yn fab i John Owen ac Ann Jane Hughes, ond symudodd ei rieni yn fuan ar ôl ei eni i fyw i Nantlle. Chwarelwr oedd y tad, ac yn ddiweddarach, arolygydd llechi. Addysgwyd yn ysgol y cyngor, Nantlle. Amlygodd yn gynnar ei fod yn fachgen talentog, a chafodd yrfa eithriadol o lwyddiannus yn yr ysgol sir ym Mhen-y-groes, 1904-1908