Canlyniadau chwilio

325 - 336 of 745 for "Dic Siôn Dafydd"

325 - 336 of 745 for "Dic Siôn Dafydd"

  • HYWEL ap DAFYDD ap IEUAN ap RHYS (fl. c. 1450-80) Raglan, bardd un o'r ddau ymryson a ganwyd rhyngddo a Guto'r Glyn ei fod yn fardd teulu yn Rhaglan. Canwyd ymrysonau eraill rhyngddo a Bedo Brwynllys, a hefyd Gruffudd ap Dafydd Fychan a Llywelyn Goch y Dant. Dywedir gan Edward Jones (ar dystiolaeth Rhys Cain, y mae'n debyg) ei fod yn M.A., yn awdur hanes Prydain yn Lladin a hanes Cymru yn Gymraeg, a bod ei lawysgrifau yn dda a gwerthfawr. Ni ddaethpwyd o hyd
  • HYWEL ap DAFYDD LLWYD ab Y GOF (fl. c. 1500), bardd ni wyddys dim o'i hanes, ond cadwyd peth o'i waith mewn llawysgrifau, sef cywyddau serch a chywydd marwnad i'r bardd Dafydd Llwyd ap Llywelyn ap Gruffudd.
  • HYWEL ap Syr MATHEW (bu farw 1581), bardd, achydd, a milwr Brodor o ddyffryn Tyfeidiog (Teme) yn sir Faesyfed. Ymhlith ei farddoniaeth ceir cywyddau i'r esgob Richard Davies, Wiliam Herbert, iarll Penfro, Mathew ap Morus o Geri, Siencyn ap Dafydd o Lanarthne, ac awdl i Lewys Gwyn o Lyn Nedd (Llanstephan MS 133 (71, 712), Llanstephan MS 30 (384), Hafod MS. 13 (197), Brogyntyn MS. 2 (529). Dysgir oddi wrth gopi (diwedd y 16eg ganrif) o'i Hanes Prydain
  • HYWEL BANGOR (fl. 1540), clerwr nid yw'r berthynas rhwng y dyddiad a'r englynion yn glir. Os cywir llawysgrif Peniarth MS 267 (54) yn priodoli iddo ef englyn i fab Dafydd ab Edmwnd, wedi iddo werthu ei diroedd a chadw llyn Hanmer yn unig, yr oedd yn canu yn gynharach yn y ganrif, oherwydd rhwng 1486 a 1515 yr oedd Edward ap Dafydd yn gwerthu ei eiddo. Ysgrifennwyd rhan gyntaf llawysgrif Peniarth MS 179 gan Huw Bangor neu Hugh ap
  • IEUAN ap GRUFFUDD LEIAF (fl. ail hanner y 15fed ganrif), bardd Aelod o un o deuluoedd sir Ddinbych, mab Gruffudd Leiaf ap Gruffudd Fychan ap Gruffudd ap Dafydd Goch, o linach Owain Gwynedd (Peniarth MS 127 (19)). Cadwyd peth o'i farddoniaeth mewn llawysgrifau, ac yn ei phlith gywyddau ac awdlau i aelodau teulu'r Penrhyn a Nanconwy, cywyddau brud a chrefyddol, cywydd i Aberconwy, cywydd dychan i afon Llugwy am rwystro'r bardd ar ei ffordd i'r Penrhyn, ac
  • IEUAN ap HYWEL SWRDWAL (fl. 1430-80), bardd mab i'r bardd Hywel Swrdwal. Cysylltir y tad a'r mab â Chydewain ac â'r Drenewydd; dywedir iddynt fyw hefyd ym Machynlleth. Ymhlith y cerddi a briodolir i Ieuan ceir awdl i'r Forwyn Fair yn Saesneg ac mewn cynghanedd ac orgraff Cymraeg - sef ' Owdyl i Fair a wnaeth kymbro yn Rhudychen … ', yn dechrau ' O meichti ladi our leding tw haf.' Ceir marwnadau iddo gan Hywel ap Dafydd ap Ieuan ap Rhys
  • IEUAN ap MADOG ap DAFYDD (fl. c. 1500), bardd Ni wyddys unrhyw fanylion amdano, ond cadwyd peth o'i waith mewn llawysgrifau, yn cynnwys cywyddau moliant i Syr William Gruffudd o'r Penrhyn a Sion Pilstwn, marwnad y bardd Syr Dafydd Trefor, ymryson ag Ieuan Delynor, a dychan i Badrig Wyddel.
  • IEUAN ap MAREDUDD ap HYWEL ap DAFYDD ap GRUFFYDD Cefn-y-Fan, Chesail Gyfarch (bu farw 1403) - gweler WYNN
  • IEUAN (IFAN) ap SION (fl. c. 1612-36), bardd
  • IEUAN DAFYDD ab OWAIN - gweler IEUAN DDU ap DAFYDD ab OWAIN
  • IEUAN DAFYDD DDU - gweler IEUAN DDU ap DAFYDD ab OWAIN
  • IEUAN DDU ap DAFYDD ab OWAIN (fl. c. 1440-80) Forgannwg, bardd