Canlyniadau chwilio

25 - 36 of 58 for "Emrys"

25 - 36 of 58 for "Emrys"

  • HUGHES, ROBERT (Robin Ddu yr Ail o Fôn; 1744 - 1785), bardd Ganwyd yn y Ceint Bach, Penmynydd, Môn. Addysgwyd ef gan Ellis Thomas, curad Llanfair Mathafarn Eithaf, a hyfforddwyd ef fel clerc cyfreithiwr yn swyddfa Emrys Lewis y Trysglwyn, yn Biwmares. Bu'n cadw ysgol ym Mhenmynydd, Hen-eglwys, Cerrig-ceinwen, Bodedern, ac Amlwch, a bu'n glerc i Ratcliffe Sidebottom, bargyfreithiwr, Essex Court, Temple, Llundain, o 1763 hyd 1783. Ei batrwm fel bardd oedd
  • JAMES, DAVID EMRYS (Dewi Emrys; 1881 - 1952), gweinidog (A), llenor a bardd Ganwyd 26 Mai 1881 ym Majorca House, Ceinewydd, Ceredigion, yn fab i Thomas Emrys James, gweinidog (A) yn Llandudno ar y pryd, a Mary Ellen (ganwyd Jones), ei wraig, merch i gapten llong. Daeth y fam yn ôl i'r Cei i eni'r plentyn, a alwyd i ddechrau David Edward, ond mabwysiadwyd Emrys yn ddiweddarach. Pan oedd yn saith oed cafodd ei dad alwad i fugeilio eglwys Rhosycaerau, ger Abergwaun, ac yno
  • JAMES, EDWARD (1839 - 1904), gweinidog Annibynnol Ganwyd yn Llanfachraeth, Môn, 12 Mehefin 1839, yn blentyn hynaf John a Margaret James, a brawd O. Waldo James. Ymaelododd ym Modedern yn 1853, a chodwyd ef i bregethu yn y Tabernacl, Caergybi, yn 1858, dan weinidogaeth William Griffith. Yn 1859, ar gais ei gyfaill William Ambrose ('Emrys'), Porthmadog, aeth i'r Gorseddau, ger Penmorfa, Sir Gaernarfon, i bregethu a chadw ysgol i'r gweithwyr llechi
  • JOHN, EWART STANLEY (1924 - 2007), diwinydd, gweinidog gydag enwad yr Annibynwyr, athro a phrifathro coleg , disgybledig, a theimladwy, ar adegau, gyda'r ffydd y credai mor angerddol ynddi, ac a roes oes o wasanaeth i'w chyhoeddi, ei dysgu a'i hegluro, yn aml yn ei gyffroi yn llwyr. Treuliodd flynyddoedd olaf ei fywyd yn ôl yn ei gynefin yn Y Gilfach Glyd, Heol Emrys, Abergwaun. Bu farw yn ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd ar ddydd Gwener, 24 Awst 2007, a chynhaliwyd ei wasanaeth angladd yng nghapel Amlosgfa Parc Gwyn
  • JONES, EMRYS (1920 - 2006), daearyddwr Ganwyd Emrys Jones yn 3 Stryd Henry, Aberaman, Aberdâr, Morgannwg, 17 Awst 1920. Ei rieni oedd Samuel ac Annie (née Williams) Jones. 'Roedd y daearegwr Syr Alwyn Williams, nai i'w fam, yn gefnder iddo. Megis llu o'i gydoeswyr ym mlynyddoedd y dirwasgiad, etifeddiaeth ei fagwriaeth yn y cymoedd glo oedd ymrwymiad llwyr i Gymru, ei hiaith a'i diwylliant ac i radicaliaeth gymdeithasol a pholiticaidd
  • JONES, GLANVILLE REES JEFFREYS (1923 - 1996), daearyddwr hanesyddol Court (gol. T. M. Charles-Edwards et al. 2000), cyfrol yr oedd wedi cyfrannu iddi, er cof amdano. Priododd Glanville Jones, gyntaf, Margaret Rosina Ann Stevens yn 1949 (diddymwyd y briodas yn 1958) ac yn ail Pamela Winship, yn 1959; cawsant ddau o blant, Sarah Catryn a David Emrys Jeffreys. Bu farw yn Leeds 23 Gorffennaf 1996; bu'r gwasanaeth angladd yn eglwys St Margaret ac yna yn amlosgfa Rawden
  • JONES, GWILYM EIRWYN (EIRWYN PONTSHÂN; 1922 - 1994), saer coed, diddanwr, cenedlaetholwr Abergwaun a'r Fro 1986 urddwyd ef yn aelod o'r Orsedd fel Pontshân. Ddiwedd y pumdegau aeth ar ei liwt ei hun fel saer coed ac ymgymerwr angladdau gan symud yn ôl i Dalgarreg, i'r Waunwen. Sefydlodd weithdy yn y pentref. Y dylanwadau mawr arno yno oedd prifathro'r ysgol leol, Tom Stephens a Dewi Emrys, a dreuliodd gyfnod o un mlynedd ar ddeg yn byw yn Y Bwthyn. Bu'n mynychu dosbarthiadau nos Dewi a bu'n
  • JONES, JOHN EMRYS (1914 - 1991), ysgrifennydd a threfnydd y Blaid Lafur yng Nghymru pryd. Emrys Jones oedd y trefnydd rhanbarthol amser-llawn, cyflogedig cyntaf ar ran y Blaid Lafur yn y de-orllewin, 1949-60, Gorllewin Canolbarth Lloegr, 1960-65, a gwasanaethodd y Blaid Lafur yng Nghymru o 1965 hyd nes iddo ymddeol ym 1979. Roedd yn gyson yn bresennol yn y 'nosweithiau Cymreig' yng nghynadleddau blynyddol y Blaid Lafur, a datblygodd berthynas glòs â Jim Griffiths AS, y gŵr a ddaeth
  • JONES, JOSEPH (1786? - 1856), llenor a stiward gweithfeydd Aberffraw, a thrwy i'r ddau droi'r fantol yn erbyn 'Eben' y cafodd 'Nicander' y gadair yn hytrach nag 'Emrys,' dyfarniad a arweiniodd i ryfel papur newydd am fisoedd, a dyfarniad a gondemnir yn gyffredinol gan feirniaid diweddarach. Trafferth a gafodd 'Eben' gan Joseph Jones yn yr eisteddfod ym mis Awst, a chyda'r bwndel awdlau y Mehefin cyn hynny, ond pob rhwyddineb gan Jonathan y mab fel clerc
  • JONES, MICHAEL DANIEL (1822 - 1898), gweinidog gyda'r Annibynwyr a phrifathro Coleg Annibynnol y Bala -Bangor. Yr oedd yn ymladdwr wrth natur, ac nid hawdd ganddo oddef i neb ei wrthwynebu; cenedlaetholwr pybyr - ef oedd tad y deffroad cenedlaethol Cymreig; ffieiddiai Sais -addoliaeth ac 'iddo ef ac Emrys ap Iwan yn fwyaf arbennig y mae'r clod am droi gwladgarwch Cymreig yn genedlaetholdeb egnïol ymarferol.' Bu farw 2 Rhagfyr 1898, a chladdwyd ef ym mynwent Hen Gapel, Llanuwchllyn.
  • JONES, ROBERT AMBROSE (Emrys ap Iwan; 1848 - 1906), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, llenor a beirniad llenyddol Ganwyd 24 Mawrth 1851 ger Abergele (ei dad yn arddwr yn Bryn Aber), mab hynaf John a Maria Jones. Priodasai hendaid Emrys â Ffrances a drigai yng nghastell y Gwrych, a bu gwybod hyn yn help i ennyn ei ddiddordeb yn Ffrainc ac Ewrop. Ar ôl ymadael â'r ysgol elfennol yn Abergele, aeth ' Emrys ' yn 14 oed yn negesydd siop ddillad yn Lerpwl, ond dychwelodd ymhen blwyddyn i arddio ym Modelwyddan. Aeth
  • JONES, THOMAS GWYNN (1871 - 1949), bardd ac un o lenorion mwyaf amlochrog Cymru, newyddiadurwr, cofiannydd, darlithiwr, ysgolhaig, athro, cyfieithydd dau fab. Daeth yn gynnar iawn dan ddylanwad Emrys ap Iwan a'i symbylodd i edrych ymhellach yn ôl na'r bedwaredd ganrif ar bymtheg am sylfeini llên Cymru. Cryfhaodd Emrys ynddo hefyd ei ddiddordeb mewn ieithoedd estron ac enynnodd ynddo'r awydd i edrych tu hwnt i Loegr am feysydd llenyddiaeth i'w hastudio. Cyn diwedd y ganrif daeth hefyd dan ddylanwad Daniel Rees. Dengys coffhad T.G. J. iddo yn